Cyfradd cyflogaeth wedi cynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU
Stephen Crabb: “Mae busnes yng Nghymru wedi rhoi hwb i’r adferiad economaidd yng Nghymru er 2010.”
Cynyddodd cyfradd cyflogaeth yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU yn ystod y tri mis rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr, yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (18 Mawrth).
Roedd cyflogaeth wedi codi 24,000 (1.2%) rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr - ac mae ffigurau heddiw’n dangos bod 1.389 miliwn o bobl yn gweithio yng Nghymru.
Roedd diweithdra yng Nghymru wedi disgyn 13,000 (0.9%) dros y tri mis hwn hefyd, ac 8,000 dros y flwyddyn.
Mae’r gyfradd diweithdra bellach yn 6.2%, gostyngiad o 0.9 pwynt canran dros y tri mis diwethaf, a’r trydydd gostyngiad mwyaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU.
Roedd nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru wedi gostwng 1,300 ym mis Chwefror a 17,300 dros y flwyddyn – gostyngiad am y 24ain mis yn olynol.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae busnes yng Nghymru wedi rhoi hwb i’r adferiad economaidd yng Nghymru er 2010.
Drwy fuddsoddi yn y seilwaith, cael gwared ar fiwrocratiaeth a gostwng trethi swyddi, rydyn ni wedi sicrhau’r amodau iawn ar gyfer twf. Ond busnes yng Nghymru sy’n gyfrifol am y ffigurau cadarnhaol hyn heddiw.
Drwy gyfnodau anodd, maen nhw wedi dangos penderfyniad ac uchelgais i ehangu eu cwmnïau, datblygu’r economi a chreu swyddi newydd.
O ganlyniad, mae mwy o bobl yng Nghymru bellach yn elwa o sicrwydd swydd ystyrlon, cyflog rheolaidd a gwell safon byw.
Ond dydy’r gwaith ddim wedi dod i ben eto. Felly yn 2015, rhaid i ni ddal ati i ddilyn ein cynllun economaidd tymor hir, i gefnogi busnesau, nes bydd pobl ym mhob cwr o Gymru’n gallu mwynhau manteision yr adferiad economaidd.