Datganiad gan Lywodraethau Cymru a’r DU i gyhoeddiad Tata
Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd mewn ymateb i gyhoeddiad Tata Steel.
Mae hwn yn gyfnod anodd i weithwyr ym Mhort Talbot ac ar draws y DU. Yn ystod y broses adolygu, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Tata a’r undebau i sicrhau dyfodol tymor hir cynaliadwy i’r diwydiant cynhyrchu dur ym Mhrydain.
Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio’n ddiflino i edrych ar yr holl opsiynau posibl i gadw diwydiant dur Prydeinig cryf wrth galon ein sylfaen gweithgynhyrchu.