Stori newyddion

Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru yn croesawu 100 o westeion i’r Sesiwn Wybodaeth Flynyddol

Roedd y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru wedi croesawu tua 100 o westeion i’w Sesiwn Wybodaeth Flynyddol.

Group of speakers at RFCA for Wales' annual briefing 2024. Copyright: RFCA for Wales.

Cynhaliwyd y digwyddiad nos Iau 24 Hydref yn HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd, ac roedd cynulleidfa amrywiol yn bresennol gan gynnwys aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, sefydliadau partner, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Y siaradwr gwadd oedd yr Athro Simon Denny BA MA PhD, cyn Ddeon Gweithredol ym Mhrifysgol Northampton a phrif awdur adroddiad annibynnol newydd pwysig sy’n dathlu effaith gadarnhaol y Lluoedd Cadetiaid ar bobl ifanc, ar oedolion sy’n gwirfoddoli ac ar gymdeithas drwyddi draw yng Nghymru.

Cyflwynwyd safbwynt y Cadetiaid gan yr Hyfforddwr Sarjant Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys, yr Is-swyddog Jessica Flynn o Gorfflu Cadetiaid Môr Abertawe a’r Swyddog Gwarant Cadetiaid Ioan Osbourne o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.

Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys y Cyrnol Lefftenant Dafydd Evans, Swyddog Rheoli, 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a roddodd amlinelliad difyr dros ben o gyfraniad y bataliwn yn yr Ymarfer Steadfast Defender.

Rhoddodd Simon Ellis, Partner a Phennaeth yr Adran Filwrol, cyfreithwyr Hugh James safbwynt y cyflogwr.

Cafwyd cyflwyniad arbennig hefyd ar ran Ymddiriedolaeth Ulysses ar gyfer taith cadetiaid gorau Tywysog Cymru yn 2023 i gydnabod taith oes a wnaed gan grŵp o gadetiaid y fyddin i Dde Affrica.

Rhoddodd Cadeirydd cyntaf y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru y Brigadwr Russ Wardle OBE DL a’r Prif Weithredwr y Cyrnol Dominic Morgan OBE ddiweddariad am y flwyddyn ddiwethaf gan edrych yn ôl ar lwyddiannau’r ysgrifenyddiaeth.

Fe wnaethon nhw sôn am fanylion allbynnau prif bileri y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru sef Cadetiaid, Milwyr Wrth Gefn, Ystadau ac Ymgysylltu.

Cafodd y digwyddiad ei arwain gan gyflwynydd newyddion ITV Andrea Byrne.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2024