Datganiad i'r wasg

Cyflwyno 4G cyflymach a mwy dibynadwy i gyrraedd miloedd o fusnesau ac aelwydydd ar hyd a lled Cymru wledig

Cyflwyno 4G cyflymach a mwy dibynadwy i gyrraedd miloedd o fusnesau ac aelwydydd ar hyd a lled Cymru wledig

Faster 4G for rural areas in Wales.

  • Mae pobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru bellach yn elwa o uwchraddio rhwydweithiau symudol er mwyn darparu rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy.
  • Mae saith safle wedi cael eu huwchraddio yng Ngogledd, De-orllewin a Gorllewin Cymru, gan ddod â darpariaeth 4G cyflym a dibynadwy i gymunedau fel rhan o gynllun Rhwydwaith Gwledig a Rennir y llywodraeth.
  • Mae’r Ysgrifennydd Technoleg a’r Gweinidog Telegyfathrebiadau yn cynnal trafodaethau ag arweinwyr diwydiant ac elusennau yng Nglynebwy i glywed sut gellir chwalu rhwystrau i gynhwysiant digidol yng Nghymru.

Bydd trefi a phentrefi gwledig ar hyd a lled Cymru yn elwa o ddarpariaeth symudol gyflymach a mwy dibynadwy ar ôl cwblhau saith prosiect a ariennir gan lywodraeth y DU i uwchraddio rhwydwaith symudol.

Heddiw (14 Tachwedd) mae llywodraeth y DU yn cyhoeddi bod saith mast 4G wedi cael eu huwchraddio yng Ngogledd, De-orllewin a Gorllewin Cymru, gan ddod â chysylltedd dibynadwy i filoedd o drigolion, busnesau lleol a mudiadau cymunedol.

Mae cymunedau a busnesau gwledig yn gallu wynebu byffro parhaus a chyflymder llwytho i lawr araf wrth wneud tasgau sylfaenol ar-lein oherwydd hen rwydweithiau cysylltedd symudol. Mae hyn yn llesteirio twf economaidd rhanbarthol ac yn gallu lledu’r hollt digidol sydd rhwng cymunedau trefol a gwledig.

Bydd uwchraddio’r mastiau symudol presennol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i gau’r bwlch hwn yng Nghymru, gyda rhannau o Bont-ddu, Llanelltud, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llyn Penmaen, Tabor, Parc Cenedlaethol Eryri a Bont-goch bellach yn cael eu gwasanaethu gan ryngrwyd 4G cyflym.  Bydd hyn yn cysylltu ffrindiau a theulu, yn helpu’r gwasanaethau brys i achub bywydau, yn mynd i’r afael â throseddu ac yn rhoi hwb i gynhyrchiant busnesau lleol – gan gefnogi cenhadaeth y Llywodraeth i chwalu rhwystrau i gyfleoedd ac i hybu twf economaidd.

Dywedodd Peter Kyle, yr Ysgrifennydd Technoleg:

O wneud cais am swyddi i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid, mae cysylltedd cyflym a dibynadwy yn rhan hanfodol o fywyd modern a dylai fod yn realiti digidol i gymunedau o Landudno i Gaerdydd, a dyna pam mae’r uwchraddio a gyhoeddwyd heddiw yn gam ymlaen i’w groesawu.

Ond ni allwn anwybyddu’r ffaith bod angen cymorth ar filiynau o bobl o ran dod i ddeall a defnyddio’r byd ar-lein. Dyna pam mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i roi hwb i sgiliau digidol, ni waeth lle mae pobl yn byw, i gefnogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol fel bancio, neu offer addysg, gan eu helpu i fwrw ymlaen â’u bywydau a’u gwaith.

Mae’r cyhoeddiad yn cael ei wneud wrth i’r Ysgrifennydd Technoleg Peter Kyle a’r Gweinidog Telegyfathrebiadau Syr Chris Bryant ymweld â Glynebwy yn Ne Cymru heddiw i drafod sut gall Llywodraeth y DU weithio gydag elusennau a busnesau i fynd i’r afael ag allgáu digidol, gan sicrhau bod rhagor o gymunedau gwledig yn gallu elwa ar fanteision bod ar-lein.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog yn ymweld â BGfm – gorsaf radio leol a chanolfan cynhwysiant digidol ym Mlaenau Gwent, sy’n cael ei chefnogi gan yr elusen cynhwysiant digidol Good Things Foundation – i glywed sut arall mae Llywodraeth y DU yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch digidol ac yn cefnogi rhagor o aelodau’r cyhoedd i fynd ar-lein.

Dywedodd y Gweinidog Telegyfathrebiadau, Syr Chris Bryant:

Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â phryderon cysylltedd cymunedau gwledig i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd y byd ar-lein.

Mae’r uwchraddio hyn yn golygu nad yw busnesau’n cael eu dal yn ôl gan gyfyngiadau eu signal symudol, bod gwasanaethau 999 mewn sefyllfa well i achub bywydau a brwydro yn erbyn troseddau, a bod trigolion a thwristiaid yn gallu mynd ar-lein wrth fwynhau cefn gwlad Cymru.

Drwy ganolbwyntio ar ddod â chysylltedd digidol a mynediad i gymunedau ym mhob cwr o’r DU, byddwn yn parhau i chwalu rhwystrau i gyfleoedd a sbarduno twf economaidd.

Yn 2023, amcangyfrifir nad oedd gan 1.5 miliwn o gartrefi yn y DU gysylltiad â’r rhyngrwyd, sy’n golygu nad oeddent yn gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol yn hawdd, fel talu biliau ac edrych ar gyfriflenni banc. Mae dod â chysylltedd i ardaloedd gwledig yn gam hollbwysig i helpu pobl i fynd ar-lein.

Nod Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) llywodraeth y DU - rhaglen ar y cyd rhwng llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau symudol - yw mynd i’r afael â’r bwlch gyda 26 o brosiectau uwchraddio mastiau a ariennir gan y llywodraeth bellach yn cael eu rhoi ar waith fel rhan o’r fenter. Mae’n dilyn cadarnhad y Canghellor yn y Gyllideb fis diwethaf y bydd y llywodraeth yn buddsoddi dros £500 miliwn y flwyddyn nesaf i sbarduno’r gwaith o gyflwyno seilwaith digidol i rannau o’r DU nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

Mae’r prosiectau uwchraddio diweddaraf hyn ledled Cymru yn gam arall at wella darpariaeth symudol mewn ardaloedd gwledig ar draws y DU, sy’n hanfodol er mwyn cyflawni cenhadaeth y llywodraeth i chwalu’r rhwystrau i gyfleoedd. Mae 20 o’r prosiectau uwchraddio hyn yng Nghymru ac mae rhagor ar y gweill dros y misoedd nesaf.

Ym mis Awst, roedd y llywodraeth hefyd wedi llofnodi cytundeb pwysig gydag Openreach i sicrhau bod oddeutu £170 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth ar gael iddynt ddarparu band eang sy’n gallu delio â gigabits i oddeutu 70,000 o eiddo anodd eu cyrraedd yng Nghymru, gan gynnwys rhai yn rhannau mwyaf anghysbell y wlad o Gymoedd De Cymru i Benrhyn Llŷn.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Diolch i fuddsoddiad gan lywodraeth y DU, mae gan saith safle newydd yng Nghymru nawr fynediad cyflym a dibynadwy at y rhyngrwyd symudol mewn ardaloedd lle’r oedd hi’n arfer bod yn anodd anfon neges destun hyd yn oed.

Mae cysylltedd yn hanfodol i bopeth mewn bywyd bob dydd yng nghefn gwlad Cymru – o fusnes i dwristiaeth, ac yn enwedig i sicrhau bod modd cysylltu â’r gwasanaethau brys yn gyflym ac yn effeithlon pan fydd eu hangen.

Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein cenhadaeth i roi hwb i’r economi ac i ddatgloi cyfleoedd mewn ardaloedd gwledig ar hyd a lled Cymru.

Mae’r hwb cysylltedd symudol a gyhoeddwyd heddiw wedi cael ei wneud drwy uwchraddio mastiau symudol presennol a oedd ond yn arfer cysylltu cwsmeriaid EE ac unrhyw un a oedd yn ffonio 999, sy’n golygu bod cymunedau’n gallu elwa o well mynediad i’r rhyngrwyd symudol heb effeithiau codi mastiau newydd.

Dywedodd Ben Roome, Prif Swyddog Gweithredol Digital Mobile Spectrum Limited:

Drwy weithredu pum safle Rhwydwaith Gwledig a Rennir newydd, mae Cymru’n gweld manteision sylweddol o’r rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir, gan ddod â chysylltedd a chyfleoedd gwell i’w chymunedau gwledig.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

Mae’r rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed darpariaeth cyfun o 95% o ehangdir y DU erbyn diwedd 2025, gyda 94.9% o’r DU bellach o fewn cyrraedd 4G diolch i’r rhaglen (Ffynhonnell: Ofcom). Bydd rhagor o welliannau i ddarpariaeth mewn ardaloedd sy’n anoddach eu cyrraedd yn parhau i gael eu cyflawni tan ddechrau 2027. I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, ewch i srn.org.uk.

Drwy’r rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir, nod llywodraeth y DU a phedwar cwmni rhwydweithiau symudol y DU yw gallu cynnig darpariaeth 4G i 280,000 eiddo ychwanegol ac 16,000km o ffyrdd y DU. Mae’r rhaglen hefyd yn ceisio gwella darpariaeth ddaearyddol 4G i 79% o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, i fyny o 51% cyn lansio’r rhaglen, a 74% o’r Parciau Cenedlaethol i fyny o 41%, gan ddod â budd i filiynau o ymwelwyr ag ardaloedd gwledig bob blwyddyn. 

Mae llywodraeth y DU yn buddsoddi £184 miliwn i uwchraddio mastiau Gwasanaeth Maes Estynedig (EAS) i gynnig darpariaeth gan y pedwar cwmni symudol. Ar hyn o bryd, dim ond gan EE y mae darpariaeth fasnachol ar gael o fastiau EAS – y gweithredwr sy’n gyfrifol am y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys.

DSIT media enquiries

E-bost [email protected]

Monday to Friday, 8:30am to 6pm 020 7215 300

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2024