Stori newyddion

Cydnabyddiaeth frenhinol i wyth o bobl

Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i wyth o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith.

Copyright: RFCA for Wales

Dyma’r wyth a gafodd eu cydnabod: Prif Is-swyddog Paul Jones o HMS CAMBRIA; Is-swyddog Alan Lewis o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd; Capten Chris Cooper a’r Uwch-ringyll Hyfforddwr Staff Richard Cooper, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Capten Jayne Simpson o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Awyr-Lefftenant Jeffrey Thomas a’r Uwch-ringyll Hedfan Stuart Ansell, ill dau o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; a Rick Hallet o Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Cyflwynwyd eu gwobr iddynt i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Arglwydd Raglaw, a gynhaliwyd gan HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd ddydd Iau 22 Chwefror 2024. 

Mae Paul Jones, Prif Is-swyddog o Gaerdydd, yn cael ei ddisgrifio fel arweinydd ysbrydoledig sydd wedi ymroi ei holl fywyd fel oedolyn i’r Gwasanaeth. Ar ran HMS CAMBRIA, Paul oedd yn gyfrifol am arwain seremoni Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Caerdydd; diwrnod gwych gyda HMS CAMBRIA a’r Llynges Frenhinol ehangach, a fu’n gorymdeithio’n falch y tu allan i Neuadd y Ddinas a thrwy strydoedd y Ddinas.

Bu Alan Lewis, Is-swyddog o Gaerdydd, yn helpu i ailadeiladu Uned Casnewydd ar ôl iddi gau oherwydd llifogydd a’r pandemig. Alan sy’n gyfrifol am yr holl waith arlwyo ar gyfer Rhanbarth De Cymru, a chymaint yw ei ymroddiad i’w rôl, pan dorrodd ei fan i lawr ar y ffordd i benwythnos ar gyfer y rhanbarth, fe ofynnodd i’r gwasanaeth RAC ei dynnu i Aberdaugleddau er mwyn osgoi gadael y cadetiaid a’r staff i lawr!

Mae Capten Chris Cooper, o’r Barri, wedi ysbrydoli nifer helaeth o gadetiaid i wthio ei hunain ac mae bob amser yn barod i fynd yr ail filltir. Ym mis Mawrth y llynedd, diolch i’w weithredoedd a’i feddwl chwim yn ystod argyfwng meddygol, llwyddodd i achub bywyd rhywun drwy roi cymorth cyntaf, a chafodd ei gydnabod gyda Thystysgrif Dadebru gan y Royal Humane Society.

Mae Richard Cooper, Uwch-ringyll Hyfforddwr o Gaerdydd, yn meddu ar amrywiaeth o gymwysterau a, hyd yma, mae wedi ymgymryd â rôl cadlywydd yr awyrlu mewn tri lleoliad.

Mae Capten Jayne Simpson, o’r Barri, yn cael ei disgrifio fel arweinydd ieuenctid rhagorol, sydd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir. Mae’n godwr arian heb ei hail, ac mae’r holl arian a godir yn cael ei ddefnyddio i wella profiad y cadetiaid trwy ddarparu cymorth ariannol i’w gwneud yn fwy fforddiadwy iddynt gymryd rhan.

Ymunodd Jeffrey Thomas, Awyr-Lefftenant o’r Barri, â Sgwadron Dinas Llandaf 30F fel cadét ifanc yn 1994 – gan ddychwelyd ar ôl gyrfa yn y Llu Awyr Brenhinol i fod yn Brif Swyddog yn 2006 – rôl y bu ynddi am flynyddoedd lawer.

Mae Stuart Ansell, Uwch-ringyll Hedfan o Gaerdydd, yn Hyfforddwr Oedolion allweddol ac ymroddedig yn Adain Gymreig Rhif 1, ac mae wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu’r cyfleoedd cerddorol sydd ar gael i gadetiaid. 

Yn ddiweddar bu i Rick Hallett ymddeol o’i rôl fel Pennaeth Cyllid ac Adnoddau Dynol yng Nghymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, lle’r oedd yn gydweithiwr poblogaidd a gwerthfawr iawn. Bu hefyd yn aelod allweddol o’r uwch dîm rheoli am ddegawd a mwy

Cafodd llwyddiannau dau gadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y noson wobrwyo.

Cafodd Kevin Titus, Cadet Rhingyll Hedfan o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a Sean Edwards, Cadét Is-swyddog o Gorfflu Cadetiaid Môr y Barri, eu dewis ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw, sy’n para tan fis Medi, yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Roedd tua 80 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers 100 mlynedd a mwy.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Chwefror 2024