Yr Ysgrifennydd Gwladol a chynghorau i sbarduno Cynllun Dinesig
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn galw ar arweinwyr cyngor i gefnogi cynlluniau ar gyfer Cynllun Dinesig Caerdydd.
Heddiw (dydd Llun 8 Mehefin), dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod wedi galw ynghyd arweinwyr cyngor o brifddinas ranbarth Caerdydd i sbarduno cynlluniau ar gyfer Cynllun Dinesig Caerdydd.
Bydd y cyfarfod - sydd i’w gynnal ar 11 Mehefin - yn dwyn ynghyd arweinwyr awdurdod lleol sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio’r rhanbarth a fydd yn manteisio ar fuddiannau cymdeithasol ac economaidd y Cynllun.
Daeth y cyhoeddiad wrth i’r Ysgrifennydd Gwladol gynnal cyfarfodydd gyda ffigurau amlwg o’r byd busnes, gyda’r nod o gynnal y momentwm ar gyfer sicrhau bod Cynllun Dinesig Caerdydd yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Cyfarfu Mr Crabb â Roger Lewis, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Nigel Roberts, Cadeirydd Cyngor Busnes Caerdydd, i drafod sut bydd y Cynllun yn cefnogi busnesau rhanbarthol.
Cadarnhawyd cychwyn trafodaethau ynglŷn â Chynllun Dinesig gan Ganghellor y Trysorlys yn y Gyllideb ar 18 Mawrth. Mae cyn Gynlluniau Dinesig wedi cynnwys buddsoddi lleol a chanolog.
Dywed yr Ysgrifennydd Gwladol:
Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop; mae’n lle bywiog a fu unwaith yn grud i’r chwyldro diwydiannol ond sydd yn awr yn wynebu dyfodol cyffrous fel lle i fuddsoddi arian ynddo.
Mae eisoes yn elwa ar seilwaith digidol addas ar gyfer yr 21ain ganrif megis Cyfnewidfa Ryngrwyd Caerdydd – esiampl wych o Lywodraeth, busnes a phartneriaid lleol yn gweithio ynghyd.
Fy ngobaith yw y gwelwn Gynllun Dinesig Caerdydd, yn cael ei weithredu fel hyn - ond ar raddfa a fydd yn dwyn budd nid yn unig i bobl Caerdydd, ond ar hyd a lled y brifddinas-ranbarth.
Mae’r adferiad yn prysuro drwy Gymru benbaladr ac yma yng Nghaerdydd, mae gennym gyfle unigryw. Y dasg yn awr yw dwyn ynghyd y sector preifat, Llywodraeth Cymru, a’r cynghorau hynny sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Ledled y DU, mae Cynlluniau Dinesig yn sicrhau buddsoddi sylweddol, gan fraenaru tir ar gyfer prosiectau seilwaith newydd a phennu gweledigaeth strategol glir ar gyfer ffynnu. Nid wyf am weld Cymru’n cael ei gadael ar ôl.
Nodiadau i olygyddion:
- Mae’r arweinwyr a wahoddwyd yn cynrychioli cynghorau sy’n gwasanaethu Caerdydd; Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Dinas Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen a Bro Morgannwg.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2015Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mehefin 2015 + show all updates
-
Added translation
-
First published.