Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu goreuon peirianneg Cymru
David Jones MP: "Mae'r Deuyrnas Unedig mewn ras byd-eang, ac mae gan Gymru ran bwysig i'w chwarae."
Heddiw (Ebrill 3) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â rhai o gwmnïau peirianneg mwyaf blaengar gogledd Cymru i ddathlu eu sgiliau a’u talent a thynnu sylw at y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb i gefnogi twf, cyflogaeth a lleihau costau ynni.
Bydd David Jones AS yn ymweld â nifer o gwmnïau bach a chanolig yn ogystal â chwmnïau mwy yng ngogledd Cymru, gan gynnwys:
Safle Brychdyn Raytheon:
Mae Raytheon UK yn cyflogi 70 o arbenigwyr integreiddio ac addasu awyrennau medrus iawn yn ei safle ym Mrychdyn. Mae ei dechnoleg yn cael ei defnyddio yn rhai o systemau gwybodaeth a goruchwylio awyrennau mwyaf dyfeisgar y byd, gan gynnwys ei system awyrennau Sentinel, awyrennau goruchwylio â chriw mwyaf blaengar y DU, y mae ei dimau ym Mrychdyn a Waddington wedi’u darparu i Weinyddiaeth Amddiffyn y DU. Cafodd ei systemau hefyd eu defnyddio’n ddiweddar i gael delweddau o lifogydd y DU er mwyn cydlynu’r ymdrechion i atal rhagor o lifogydd.
Y Grŵp PPA:
Mae’r Grŵp PPA ym Mrychdyn yn cyflenwi cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer y sectorau hedfan, morol a modurol. Mae’r cwmni hefyd yn cefnogi ysgolion a cholegau lleol mewn dylunio peirianneg ac mae’n noddwr diwydiannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr ifanc.
Consort Precision Diamond Co Ltd:
Mae Consort Precision Diamond Company Limited ym Mae Cinmel yn gwneud naddwyr diemwnt cylchdro sy’n cael eu defnyddio i wneud rhannau ar gyfer y diwydiannau awyrofod, modurol a chynhyrchu ynni. Mae hefyd yn darparu cyngor arbenigol i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd ar ddewis y math gorau o Naddwr Diemwnt Cylchdro.
Porthladd Mostyn (ymweld â safle docio llongau Airbus, a’r safle adeiladu ar gyfer tyrbinau gwynt fferm wynt Gwynt y Môr):
Porthladd Mostyn, un o borthladdoedd hynaf y wlad, yw cartref cyfleuster trosglwyddo adenydd Airbus A380, sy’n golygu ei fod yn ddolen hollbwysig yn y gadwyn ar gyfer gweithgynhyrchu Airbus yng ngogledd Cymru. Mae safle adeiladu tyrbinau gwynt ar y môr Gwynt y Môr hefyd ym Mhorthladd Mostyn. Cafodd y tyrbin gwynt cyntaf ei osod 12km oddi wrth yr arfordir ym mis Mai 2013. Bydd gan y fferm wynt 160 tyrbin - a bydd yn cael ei chysylltu â’r grid yn nes ymlaen eleni - sy’n golygu mai dyma un o’r ffermydd gwynt ar y môr mwyaf yn Ewrop. Ar ôl ei chwblhau, bydd y fferm yn cynhyrchu pŵer ar gyfer hyd at 400,000 o gartrefi yn y DU. Ar 31 Mawrth 2014 cyhoeddodd Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU ei fod wedi prynu cyfran o 10% ym mhrosiect Gwynt y Môr RWE mewn cytundeb gwerth £220 miliwn.
Mesurau cyllideb 2014 i gefnogi busnesau:
- Mae’r lwfans buddsoddi blynyddol yn cael ei ddyblu i £500,000, a bydd yn cael ei ymestyn blwyddyn arall tan fis Rhagfyr 2015. Mae hyn yn golygu y gallai 99.8% o fusnesau dalu dim treth ar fuddsoddi.
- Mae’r dreth gorfforaeth wedi ei thorri gan 1% hefyd i 21%. Mae wedi disgyn o 28% yn 2010 a bydd yn disgyn ymhellach i 20% ym mis Ebrill 2015, sy’n golygu mai dyma fydd y gyfradd treth gorfforaeth isaf yn yr G20. Mae treth tanwydd wedi cael ei rhewi eto.
- Bydd Pecyn Ynni Busnes yn golygu arbedion i fusnesau Cymru yn enwedig y rheini sydd â gofynion ynni uchel, hyd at £240 miliwn rhwng 2016-17 a 2018-19.
- Gallai bron i 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa ar becyn sydd wedi’i ddylunio i’w gwneud yn haws iddynt gael gafael ar gyllid. Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch sut mae sicrhau bod busnesau bach a chanolig y gwrthodwyd rhoi benthyciad iddynt yn cael eu cyfateb yn well i ddarparwyr credyd eraill.
Am ragor o wybodaeth tarwch cliciwch yma
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae galw mawr am wasanaethau a chynnyrch Prydain a thrwy hynny, gwasanaethau a chynnyrch a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru, ac, fel gwlad, mae ein proffil byd-eang yn uwch nag erioed o’r blaen.
Mae busnesau bach a chanolig yn cyfrannu 36% o holl drosiant y sector preifat yng Nghymru, ac yn gyfrifol am 630,000 o swyddi. Ers 2010, mae 1,000 yn rhagor o fusnesau bach a chanolig wedi cael eu sefydlu yng Nghymru. Yn wir, mae hyder ymysg busnesau ledled y DU ar ei uchaf erioed, ac ar ei uchaf yng Nghymru ers 2009.
Ond mae’r DU mewn ras fyd-eang ac mae gan Gymru ran bwysig i’w chwarae. Rydym yn cefnogi busnesau, yn fawr ac yn fach, i allforio eu cynnyrch a’u harbenigedd o amgylch y byd.
Er mwyn manteisio ar hyn rydym yn creu’r amodau iawn ar gyfer rhagor o dwf a chyflogaeth drwy dorri trethi a lleihau costau ynni er mwyn i fusnesau yng Nghymru allu manteisio i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Rhagor o wybodaeth:
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w gwneud hi’n haws i fusnesau bach uchelgeisiol dyfu. Mae ei hymgyrch [‘Small business: GREAT ambition’] yn cynnwys mesurau a fydd yn chwalu rhai o’r rhwystrau mae busnesau bach yn eu hwynebu, gwella eu hamgylchedd busnes a’i gwneud yn haws iddynt gyflawni eu potensial. Am ragor o wybodaeth tarwch olwg yma.