Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael cip ar waith moderneiddio’r rheilffyrdd
Stephen Crabb: “Mae trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo’n llwyr i’w ddarparu.”
Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb yn y sedd flaen heddiw (dydd Iau, 10 Rhagfyr) wrth iddo weld sut mae’r rheilffordd yn cael ei moderneiddio, ac yntau’n eistedd yng nghaban y gyrrwr ar drên cyflym i Dde Cymru.
Ymunodd Stephen Crabb â theithwyr eraill ar y trên 08.15 o Paddington i Gaerdydd, gan dreulio’r siwrnai rhwng gorsaf Llundain a Swindon yng nghaban y gyrrwr, wrth ochr Rheolwr Gyfarwyddwr GWR, Mark Hopwood.
Ac yntau’n eistedd yn nhu blaen y trên 354 tunnell, gwelodd Mr Crabb y gwaith diweddaraf o osod signalau newydd a thrydaneiddio ar oddeutu 80 milltir o’r trac, yn ogystal â’r gwaith diweddaraf ar lwybr Crossrail sy’n cysylltu Reading a Shenfield.
Dywedodd Mr Crabb fod ei daith awr yn nhu blaen Trên Cyflym wyth-cerbyd GWR wedi rhoi golwg i’w gofio iddo o foderneiddio’r rheilffyrdd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru:
Fel miloedd o deithwyr eraill, rwy’n teithio’n rheolaidd ar drenau rhwng Llundain a De Cymru. Mae’r llwybr yn gyswllt hanfodol rhwng dinasoedd sy’n tyfu yng Nghymru a chanolfan ariannol y DU.
Mae trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo’n llwyr i’w ddarparu. Bydd yn gwella amseroedd teithio ac yn cynyddu capasiti ar y rheilffordd bwysig hon. Bydd Crossrail yn agor yn 2018, felly cyn bo hir bydd pobl yn gallu mynd o Gaerdydd i Canary Wharf mewn oddeutu dwy awr. Mae’r gwell cysylltiadau hyn yn gwneud Cymru’n lle hyd yn oed mwy deniadol i fyw ac ymwneud â busnes.