Ysgrifennydd Gwladol yn 'falch o'r dynion a'r menywod o Gymru sydd wedi cael eu hanrhydeddu heddiw'
Stephen Crabb yn llongyfarch y Cymru wedi eu hanrhydeddu gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn ei rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Ymhlith y rhai a anrhydeddwyd mae ffigurau cyhoeddus a llawer o bobl llai adnabyddus sydd wedi gweithio’n ddiflino dros eu cymunedau a’r achosion maent yn credu ynddynt.
Dywedodd Stephen Crabb:
Un o’r pethau gwych am restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd Ei Mawrhydi yw fod pobl o lawer o wahanol gefndiroedd yn cael eu hanrhydeddu yn yr un modd.
Mae’r rhai sy’n gweithio yn dawel ac yn ddiwyd dros eu cymunedau yn derbyn yr un gydnabyddiaeth â’r rhai sy’n cyflawni pethau mawr mewn chwaraeon, y celfyddydau neu drwy wasanaeth cyhoeddus.
Rwy’n falch iawn o’r holl bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu hanrhydeddu heddiw ac yn awyddus i ddiolch iddyn nhw i gyd am gyfrannu cymaint i Gymru.