Neges Dydd Gŵyl Dewi yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb
Stephen Crabb: "Mae ein blynyddoedd gorau o’n blaenau ni – Dydd Gŵyl Dewi hapus!"
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:
Mae Dydd Gŵyl Dewi’n amser i ni ddathlu popeth sy’n wych am Gymru - o’n hysbryd entrepreneuraidd a’n diwylliant cyfoethog i’n tirnodau hanesyddol a’n croeso cynnes.
Bydd nifer yn dathlu ein diwrnod cenedlaethol drwy fwynhau’r traddodiadau sy’n gwneud Cymru’n wlad uchelgeisiol, hyderus, sy’n edrych tuag allan.
Mae’n bleser gennyf ddweud bod gennyn ni gymaint o bethau i deimlo’n falch amdanyn nhw.
Mae miliynau o bobl yn ymweld â Chymru bob blwyddyn ac yn mwynhau ein traethau a’n hamgueddfeydd o safon fyd-eang, ein cestyll hynafol neu ein mynyddoedd a’n harfordir godidog.
Mae ein heconomi’n tyfu hefyd – gyda mwy o fuddsoddi, masnach a swyddi, ac mae ein prifysgolion yn denu rhai o’r myfyrwyr mwyaf disglair o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
Ac wrth gwrs, roedd llygad y byd ar Gymru yn ystod uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd y llynedd – y cynulliad mwyaf o arweinyddion rhyngwladol i ddod i’r DU erioed.
Bydd Cymru’n denu sylw’r byd unwaith eto eleni gyda Chwpan Rygbi’r Byd - lle bydd ein harwyr chwaraeon yn destun balchder i Gymru yn ddi-os.
Mae ein blynyddoedd gorau o’n blaenau ni – Dydd Gŵyl Dewi hapus!