Taliadau Hunanasesiad drwy ap CThEF yn treblu i £121 miliwn
Mae mwy o gwsmeriaid nag erioed yn defnyddio ap CThEF i dalu eu bil treth Hunanasesiad.
Mae bron i 100,000 o gwsmeriaid wedi talu £121 miliwn gan ddefnyddio ap Cyllid a Thollau EF (CThEF) ers mis Ebrill 2023. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf i dalu eu bil treth Hunanasesiad.
Mae’r ffigurau diweddaraf gan CThEF yn dangos bod 97,365 o gwsmeriaid, rhwng mis Ebrill a mis Medi 2023, wedi defnyddio’r ap i setlo eu bil treth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023. Mae hyn dros 3 gwaith yn fwy na’r £34.6 miliwn a dalwyd gan 36,467 o gwsmeriaid yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Mae cwsmeriaid wedi gallu talu eu bil treth Hunanasesiad drwy ap CThEF, sy’n ddiogel ac am ddim ers mis Chwefror 2022 ac mae fideo YouTube yn dangos sut i wneud taliad.
How do I use the HMRC app to make a Self Assessment payment?
Yn ogystal â gwneud taliadau, yr ap yw’r ffordd symlaf i gwsmeriaid Hunanasesiad gael mynediad at fanylion personol gan gynnwys eu Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwyr (UTR), rhif Yswiriant Gwladol ac unrhyw wybodaeth TWE y gallai fod ei hangen arnynt i lenwi eu Ffurflen Dreth.
Mae gan yr ap lu o nodweddion ac mae ar gael i bawb, nid dim ond y rhai sydd angen defnyddio’r system Hunanasesiad.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
Mae gan bob un ohonon ni fywydau prysur, felly mae’n gwneud synnwyr bod mwy a mwy o gwsmeriaid yn dewis cael gafael ar eu gwybodaeth dreth bersonol a thalu eu bil treth drwy ap CThEF. Mae’n hyblyg ac yn gyfleus – ac mae’n rhoi tawelwch meddwl bod eu Hunanasesiad wedi’i sortio. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC App’ i ddysgu mwy.
Y dyddiad cau i gwsmeriaid lenwi eu Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, ac i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus, yw 31 Ionawr 2024.
Gall cwsmeriaid dalu eu bil drwy’r ap a chael ad-daliad o unrhyw dreth sy’n ddyledus. Atgoffir cwsmeriaid i gynnwys manylion eu cyfrif banc ar eu Ffurflen Dreth i sicrhau bod unrhyw ad-daliad yn eu cyrraedd yn gyflym ac yn ddiogel.
Gall cwsmeriaid drefnu negeseuon i’w hatgoffa am daliadau sydd i ddod – does dim angen poeni am fethu dyddiad cau neu am gael cosb. I osod nodynnau hatgoffa, dylent ddewis yr adran ‘Hunanasesiad’ yn yr ap, lle bo’r opsiwn i osod nodyn atgoffa ar gael. Bydd modd dewis nodynnau atgoffa ar gyfer dyddiadau cau.
Dangosodd data ap CThEF y canlynol hefyd:
- Ionawr 2023 oedd y mis prysuraf ar gyfer taliadau drwy’r ap gyda 56,738 o gwsmeriaid yn talu £125,819,051 mewn treth
- Gorffennaf 2023 oedd yr ail fis prysuraf gyda 29,774 o gwsmeriaid yn defnyddio’r ap i dalu £54 miliwn
Bydd angen ID defnyddiwr a chyfrinair ar ddefnyddwyr yr ap i gael mynediad at eu gwybodaeth bersonol. Bydd modd sefydlu’r rhain wrth iddyn nhw ddefnyddio’r ap.
Mae swyddogaeth Hunanasesiad yr ap hefyd ar gael yn Gymraeg. Gall cwsmeriaid alluogi opsiynau Cymraeg o’r sgrin gosodiadau.
Os na all cwsmeriaid dalu’n llawn, mae CThEF am eu helpu i ddod o hyd i ffordd fforddiadwy o dalu’r dreth sydd arnynt. Os yw dyled cwsmer yn llai na £30,000, mae’n bosibl y bydd yn gallu trefnu trefniant Amser i Dalu a gall wneud hyn ar-lein heb siarad â CThEF. I gael rhestr lawn o’r dulliau o dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus, ewch i GOV.UK.
Mae asesiad fforddiadwyedd newydd ar gael ar-lein drwy’r gwasanaeth Amser i Dalu drwy Hunanwasanaeth. Gofynnir i gwsmeriaid am eu hincwm a’u gwariant i gyfrifo eu hincwm gwario a sefydlu cynllun talu fforddiadwy ar eu cyfer.
Mae cwsmeriaid hunanasesiad yn wynebu risg uwch o gael eu twyllo ac ni ddylent rannu eu manylion mewngofnodi gydag unrhyw un ar unrhyw adeg, gan gynnwys asiantau treth. Ewch ati i ddysgu am gyngor CThEF ar sgamiau ar GOV.UK.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad
Data’r ap rhwng mis Chwefror 2022 a mis Medi 2023
Mis | Swm a dalwyd | Nifer y cwsmeriaid |
---|---|---|
Chwefror 2022 | £1,771,533 | 2605 |
Mawrth 2022 | £4,039,112 | 4920 |
Ebrill 2022 | £3,686,893 | 6517 |
Mai 2022 | £3,048,778 | 4605 |
Mehefin 2022 | £5,243,962 | 5386 |
Gorffennaf 2022 | £14,426,735 | 9655 |
Awst 2022 | £4,359,364 | 5066 |
Medi 2022 | £3,886,830 | 5238 |
Hydref 2022 | £5,701,261 | 6573 |
Tachwedd 2022 | £8,172,008 | 8615 |
Rhagfyr 2022 | £18,981,500 | 14333 |
Ionawr 2023 | £125,819,051 | 56738 |
Chwefror 2023 | £13,934,228 | 12026 |
Mawrth 2023 | £10,258,421 | 13301 |
Ebrill 2023 | £8,776,640 | 11756 |
Mai 2023 | £10,055,969 | 11417 |
Mehefin 2023 | £15,437,787 | 14844 |
Gorffennaf 2023 | £54,842,874 | 29774 |
Awst 2023 | £16,504,463 | 14355 |
Medi 2023 | £15,433,397 | 15219 |
Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap CThEF o’r App Store neu o Google Play. Ar hyn o bryd, mae gan yr ap sgôr o 4.8 seren ar yr App Store, a 4.3 ar Google Play.
Ar ôl i gwsmer fewngofnodi i’r ap am y tro cyntaf, gall ddefnyddio dull adnabod yr wyneb, ôl ei fys neu bin 6 digid i gael mynediad cyflym a diogel.
Bydd angen dau fath o dystiolaeth ar gwsmeriaid nad oes ganddynt Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth i brofi pwy ydynt. Gall hyn gynnwys pasbort y DU a thrwydded yrru’r DU. Rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â rhannu eu ID na chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar unrhyw adeg. Gallai rhywun sy’n defnyddio’r manylion hyn ddwyn oddi wrthynt neu wneud hawliad twyllodrus yn eu henw.
Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau. Gall cwsmeriaid ddefnyddio’r ap i ddiweddaru eu manylion gan gynnwys cyfeiriad neu enw newydd. Mae angen i gwsmeriaid hefyd roi gwybod i ni os ydynt wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig neu os oes angen iddynt newid eu manylion busnes. Gallwch wneud hyn ar-lein yn GOV.UK.
Mae CThEF am eich helpu i gael eich treth yn gywir. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael ar-lein, sy’n cynnwys:
- Cynorthwyydd digidol CThEF – bydd y cynorthwyydd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, ac os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, gallwch ofyn am gael siarad ag ymgynghorydd
- mae nodiadau arweiniad a thaflenni cymorth a fideos YouTube yn rhoi gwybodaeth helaeth i chi os ydych yn cael anawsterau
- gweminarau byw lle gallwch ofyn cwestiynau neu, os na allwch ymuno, gallwch wylio gweminarau wedi’u recordio ar alw
- cymorth technegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF am help i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein
- Y diweddaraf drwy e-bost - cofrestrwch i gael newyddion drwy e-bost gan CThEF, fel na fyddwch chi’n colli’r wybodaeth ddiweddaraf am Hunanasesiad
- cael y diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol – dilynwch CThEF ar Twitter @HMRCcustomers i gael y diweddaraf am wasanaethau Hunanasesiad ac i gael nodynnau atgoffa defnyddiol
- os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i’ch helpu gyda Hunanasesiad, gallwch gysylltu â sefydliad yn y sector gwirfoddol neu gymunedol sy’n gallu rhoi help a chyngor i chi, neu gallwch gael cymorth yn uniongyrchol gan CThEF
Os yw unrhyw un o’r farn nad oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, dylent roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw gosbau.