Ffurflenni Treth Hunanasesiad: esgusodion anghredadwy a threuliau amheus
Wrth i’r dyddiad cau nesáu ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth a thalu’r hyn sy’n ddyledus ar gyfer 2017 i 2018, mae CThEM yn datgelu rhai o’r esgusodion rhyfeddaf a gafodd dros beidio â thalu mewn pryd.
Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn llenwi eu Ffurflenni Treth yn ddidwyll ac mewn pryd, ond bob blwyddyn mae rhai esgusodion anghyffredin a hawliadau anarferol am dreuliau yn dod i law Cyllid a Thollau EM (CThEM).
Roedd rhai o’r esgusodion rhyfeddaf a ddaeth i law CThEM oddi wrth gwsmeriaid a gollodd y dyddiad cau ar gyfer Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn cynnwys bod yn rhy fyr i gyrraedd y blwch post a bod â bysedd rhy oer i deipio. Dyma rhai o’r esgusodion rhyfeddaf o’r flwyddyn ddiwethaf:
- Mae fy mam-yng-nghyfraith yn wrach a melltithiodd hi fi
- Rwy’n rhy fyr i gyrraedd y blwch post
- Roeddwn i’n rhy brysur – gadawodd fy morwyn gyntaf, gwnaeth yr ail forwyn ddwyn oddi arna’ i, ac roedd y drydedd yn araf iawn yn dysgu
- Gwnaeth ein haelod iau o’r staff gofrestru ein cleient ar gyfer Hunanasesiad ar ddamwain gan nad oedd yn gwisgo’i sbectol
- Roedd y boeler wedi torri ac roedd fy mysedd yn rhy oer i deipio
Yn ogystal ag esgusodion anghredadwy, bob blwyddyn rydym hefyd yn cael rhai hawliadau amheus am dreuliau anhygoel, megis dillad isaf gwlanog ac yswiriant anifeiliaid anwes ar gyfer ci. Mae rhai o’r hawliadau mwyaf dadleuol yn cynnwys:
- Saer yn hawlio £900 am deledu 55 modfedd a bar sain i’w helpu i brisio’i orchwylion
- £40 ar ddillad isaf gwlanog iawn, am 5 mlynedd
- £756 am yswiriant anifeiliaid anwes ar gyfer fy nghi
- Tanysgrifiad cerddoriaeth fel ’mod i’n gallu gwrando ar gerddoriaeth wrth weithio
- Gwyliau i’r teulu yn Nigeria
Bu pob un o’r esgusodion a’r treuliau hyn yn aflwyddiannus.
Mae help i’w gael ar wefan GOV.UK, gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900, ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid CThEM:
Rydym am ei wneud mor syml â phosibl i’n cwsmeriaid lenwi eu Ffurflenni Treth, ac mae’r rhan fwyaf yn ymdrechu i wneud hynny’n gywir ac mewn pryd. Ond bob blwyddyn, rydym yn dal i daro ar rai esgusodion a threuliau gwael sy’n amrywio o broblemau gyda morwynion i setiau teledu.
Bydd help bob amser ar gael i’r rheiny sydd ag esgusodion dilys am beidio â chyflwyno’u Ffurflen Dreth mewn pryd, ond mae’n annheg ar y rhan fwyaf o drethdalwyr gonest pan fo eraill yn gwneud hawliadau ffug.
Os ydych yn credu y byddwch efallai’n colli’r dyddiad cau, sef 31 Ionawr, cysylltwch â ni ar unwaith – po gyntaf y cysylltwch â ni, y mwyaf o help y gallwn ei gynnig i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer 2017 i 2018 i CThEM, a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, yw 31 Ionawr 2019.
Rhagor o wybodaeth
Bydd CThEM yn trin y rheiny sydd ag esgusodion dilys yn drugarog, wrth i ni ganolbwyntio ein cosbau ar y rheiny sy’n peidio â llenwi’u Ffurflenni Treth dro ar ôl tro ac ar osgowyr treth bwriadol. Mae’n rhaid i’r esgus fod yn ddilys ac mae’n bosibl y gofynnwn am dystiolaeth. Gwrthodwyd pob un o’r rhai a restrir uchod ar y sail eu bod naill ai’n gelwydd neu ddim yn rhesymau digon da.
Gall cwsmeriaid sy’n rhoi esgus rhesymol i CThEM cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr, osgoi cosb ar ôl y dyddiad hwn.
Y cosbau ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr yw:
- cosb benodol gychwynnol o £100, sy’n gymwys hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, neu os yw’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd;
- ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900
- ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf
- ar ôl 12 mis, cosb bellach o 5% neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf
Mae cosbau ychwanegol am dalu’n hwyr hefyd o 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar ôl 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis.
Mae treth yn cael ei didynnu’n awtomatig o gyflogau, pensiynau neu gynilion y rhan fwyaf o drethdalwyr yn y DU. Ond, mae’n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi’i didynnu’n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 18 Ionawr 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Ionawr 2019 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.