Datganiad i'r wasg

Lansio cronfa cychwyn busnes ar gyfer gweithwyr dur Port Talbot

Gall gweithwyr dur o Gymru a’u teuluoedd gael mynediad at gronfa o £13 miliwn sydd newydd ei dyrannu gan Fwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot.

  • Cronfa grant newydd i helpu gweithwyr a’u teuluoedd i sefydlu eu busnesau eu hunain.
  • Bydd yr £13m a neilltuwyd gan y Bwrdd Pontio hefyd ar gael i gefnogi busnesau lleol i dyfu ac arallgyfeirio.
  • Mae’r ymrwymiad yn rhan o’r £26.5m a gyhoeddwyd o fewn pedwar mis gan y Llywodraeth sy’n rhan o’r £80 miliwn yn y Gyllideb i ariannu’r Bwrdd Pontio’n llawn ac i gefnogi gweithwyr.

Bydd gweithwyr dur a’u teuluoedd yn ardal Port Talbot yn cael cymorth i ddechrau busnesau newydd drwy gronfa newydd gwerth miliynau o bunnoedd a lansiwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi cyhoeddi cronfa arall gwerth £13m gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot i ddarparu grantiau nad oes rhaid eu had-dalu gwerth hyd at £10,000 i weithwyr, teuluoedd a busnesau sydd wedi’u heffeithio ar ôl i’r ffwrneisi chwyth gau.

Yn ogystal â’r gronfa dechrau busnes, bydd dau gynllun cymorth newydd arall yn cael eu hariannu gan yr £13m nesaf, sy’n targedu cwmnïau yn ardal Port Talbot a busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata, gyda grantiau nad oes rhaid eu had-dalu o £2,500-£250,000.

Dyma’r ail gyhoeddiad am gyllid ac mae’n dilyn yr £13.5 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Awst i gefnogi busnesau yn y gadwyn gyflenwi i chwilio am farchnadoedd newydd ac i roi cyfle i weithwyr yr effeithir arnynt i ail-hyfforddi. 

Gwnaeth Ysgrifennydd Cymru y cyhoeddiad ar ôl cadeirio ei thrydydd cyfarfod fel cadeirydd y Bwrdd Pontio yn gynharach yr wythnos hon (dydd Iau 14 Tachwedd).  

Mae tair elfen i’r gronfa newydd a lansiwyd gan Ysgrifennydd Cymru:

  • Cronfa dechrau busnes a fydd yn galluogi gweithwyr Tata Steel, aelodau agos o’u teuluoedd, a phobl yn y gadwyn gyflenwi i dderbyn cymorth ac arweiniad, ac i gael gafael ar grant. Bydd pobl sy’n awyddus i sefydlu cwmnïau newydd, megis cwmnïau plymio, trydanol neu dechnoleg, yn gallu cael grantiau nad oes rhaid iddynt eu had-dalu o hyd at £10,000.  

  • Cronfa tyfu busnes i gefnogi cwmnïau sydd eisoes wedi’u sefydlu ac sy’n ceisio tyfu yn yr economi leol. Bydd grantiau ar gael rhwng £25,001 a £250,000 wedi’u teilwra i anghenion penodol pob busnes. 

  • Cronfa cadernid busnes sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i fusnesau lleol y mae’r newidiadau parhaus yn Tata Steel yn effeithio arnynt er mwyn arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, creu swyddi newydd a dod o hyd i gyfleoedd mewn sectorau newydd, fel ynni carbon isel. Mae’r gronfa ar gael i fusnesau bach, fel caffis neu siopau lleol, neu i gwmnïau mwy fel cwmnïau adeiladu sydd wedi cael eu taro gan y newidiadau yn Tata Steel, gyda grantiau’n amrywio o £2,500 i £25,000.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:  

Fel llywodraeth, rydyn ni’n benderfynol bod y Bwrdd Trawsnewid yn darparu ar gyfer gweithwyr dur Port Talbot, ar gyfer busnesau’r rhanbarth ac ar gyfer y gymuned.  

Mae’n gyfnod anodd iawn o hyd i weithwyr ym Mhort Talbot a’u teuluoedd. Bydd gan lawer ohonynt ddyheadau i sefydlu eu busnesau eu hunain neu ddod yn hunangyflogedig a bydd yr £13m a ryddhawyd heddiw yn eu helpu i wireddu eu cynlluniau.

Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni’n cefnogi gweithwyr a busnesau y mae’r newidiadau ym Mhort Talbot wedi effeithio arnyn nhw, ac rydyn ni wedi rhyddhau dros £26m ers mis Gorffennaf er mwyn gwneud hynny.”  

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid lleol i sicrhau bod ein cymorth sydd wedi’i dargedu yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf a dwysaf ar y rheini sydd wedi cael eu taro gan y symudiad i ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot.

Wrth siarad â llawer o bobl yn y gymuned leol, rwy’n gwybod faint o wahaniaeth y bydd ymestyn y cyllid sydd ar gael i deuluoedd yn ei wneud. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau, aelwydydd a chymunedau i gael eu traed tanynt unwaith eto a sicrhau bod Port Talbot a’r ardal gyfagos yn parhau â’i hanes balch fel elfen allweddol o economi Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: 

Rwy’n croesawu’n fawr y cyhoeddiad am y pecynnau ariannu hyn i gefnogi busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes ar draws ein cymuned. Mae’r gwaith dur wedi bod yn gonglfaen i’n heconomi ers dros ganrif ac felly mae newidiadau ar y raddfa hon yn effeithio nid yn unig ar weithwyr Tata Steel yn uniongyrchol ond ar lawer o gwmnïau eraill sydd â chysylltiad agos. 

Bydd dur yn parhau i fod yn bwysig iawn i Port Talbot yn y dyfodol, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni, fel Bwrdd Pontio, yn galluogi mentrau ar draws amrywiaeth o sectorau i ymateb i’r amgylchiadau presennol ac i gyfleoedd fel y Porthladd Rhydd Celtaidd

Yn ogystal â chyhoeddi’r ddau floc cyntaf o gyllid, cadarnhaodd Llywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref ei bod wedi gwarchod £80 miliwn i ariannu’r Bwrdd Pontio. 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ail-sefydlu’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r berthynas gydag undebau a phartneriaid lleol eraill, i weithio gyda’i gilydd i gyflawni ar gyfer y gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.    

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae Llywodraeth y DU yn darparu cronfa gymorth gwerth £80 miliwn drwy’r Bwrdd Pontio trawslywodraethol i gefnogi gweithwyr a busnesau sydd wedi’u heffeithio gan benderfyniad Tata Steel i gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd.

  • Mae’r hwb gwybodaeth digidol, sy’n cyfeirio gweithwyr a busnesau yr effeithiwyd arnynt at gymorth, ar gael yn Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel - Cyngor Castell-nedd Port Talbot (npt.gov.uk)

  • Gall busnesau ac unigolion gofrestru diddordeb yn y cronfeydd neu anfon unrhyw ymholiadau i’r cyfeiriad e-bost canlynol: [email protected]

  • Bydd rhagor o fanylion am gymhwysedd a sut i wneud cais am yr arian newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

  • Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Tata Steel gynigion i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd ym Mhort Talbot.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2024