Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn ymateb i ddigwyddiad Celsa
Dau yn marw a phum wedi'u hanafu yn y digwyddiad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae wedi bod yn ddiwrnod cwbl dorcalonnus i deuluoedd y ddau o weithwyr Celsa a gollodd eu bywydau mor drasig. Rwy’n cydymdeimlo’n llwyr gyda nhw a’u cydweithwyr ar yr adeg eithriadol anodd yma. Mae ein meddyliau hefyd gyda’r rhai a anafwyd.
Mae’r gwaith yn nodwedd arbennig yn nhirlun diwydiannol de Cymru, ac mae’r hyn a ddigwyddodd heddiw wedi cyffwrdd calonnau pob un ohonom.
Wrth i’r teuluoedd alaru am eu hanwyliaid, ac wrth i’r rhai a anafwyd yn y ffrwydrad ddechrau gwella, rhaid inni nawr adael i’r ymchwiliad gael ei gynnal a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.