Stori newyddion

Datganiad ar ran wythfed Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am yr wythfed tro ddydd Iau 15 Awst 2024, sef yr ail waith dan y llywodraeth newydd.

Wide image of Tata Steel UK in Port Talbot

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, fod y Bwrdd Pontio nawr yn cyflawni ei ymrwymiad i gefnogi’r rheini y mae proses ddatgarboneiddio Tata Steel UK yn effeithio arnynt, drwy ryddhau cyllid cychwynnol o £13.5 miliwn.

Dyma’r tro cyntaf i gyllid llywodraeth y DU gael ei ryddhau o gronfa Bwrdd Trawsnewid Tata Steel / Port Talbot, a bydd y cyllid hwn yn cefnogi busnesau lleol sy’n dibynnu’n fawr ar Tata Steel fel eu prif gwsmer, gan eu galluogi nhw i droi at farchnadoedd a chwsmeriaid newydd lle bo hynny’n briodol.

Bydd y cyllid hefyd ar gael i weithwyr y mae’r pontio’n effeithio arnynt, gan eu galluogi nhw i ailhyfforddi neu ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y farchnad gyflogaeth.

Trafododd y Bwrdd sut y byddai’r cyllid yn cael ei ddyrannu, ei fonitro a’i werthuso i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni, ac i sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr. 

Cytunodd y Bwrdd ar lansio Addewid Cefnogi Cymunedau a Busnesau Port Talbot. Mae’r Addewid hwn yn dod â 60 a mwy o fusnesau a sefydliadau at ei gilydd i gynnig cymorth ymarferol i’r rheini y mae colli cyflogaeth yn effeithio arnyn nhw – gan gynnwys hyfforddiant sgiliau, sicrwydd o gyfweliadau, cyngor, a gwasanaethau proffesiynol. Lansiwyd yr Addewid mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan fusnes lleol, ar ôl cyfarfod y Bwrdd.

Yn ogystal â hyn, rhoddodd Tata Steel UK yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am eu prosiect datgarboneiddio a sut y byddant yn helpu’r rheini yr effeithir arnynt. Cafwyd diweddariad hefyd ar y trafodaethau rhwng yr Adran Busnes a Masnach a Tata Steel UK ynglŷn â’r Fargen Ddur. 

Cadeiriwyd cyfarfod y Bwrdd Pontio gan y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dirprwy Gadeirydd, Ken Skates AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Roedd y canlynol hefyd yn bresennol: Sarah Jones, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net a’r Adran Busnes a Masnach; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Karen Jones, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Andrew Thomas, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes; Stephen Kinnock, AS dros Aberafan; David Rees, AoS dros Aberafan; Luke Fletcher AoS, Tom Giffard AoS dros Orllewin De Cymru. Roedd aelod annibynnol o’r Bwrdd hefyd yn bresennol, sef Sarah Williams-Gardener. Roedd cynrychiolwyr o’r undebau llafur hefyd yn bresennol: Rob Edwards, Ysgrifennydd Rhanbarthol Undeb Community; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, y Wasg ac Ymchwil ar gyfer GMB Cymru a De-orllewin Lloegr; a Jason Bartlett, Swyddog Rhanbarthol Unite Cymru. 

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Awst 2024