Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y nawfed tro ar 14 Tachwedd 2024.
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y nawfed tro ar 14 Tachwedd 2024, sef y drydedd waith dan y llywodraeth newydd.
Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, sef y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd i gyhoeddi Cronfa Dechrau, Tyfu a Chadernid Busnes gwerth £13 miliwn. Mae hyn yn cynnwys:
- Cronfa dechrau busnes a fydd yn galluogi gweithwyr Tata Steel, aelodau agos o’u teuluoedd, a phobl yn y gadwyn gyflenwi i dderbyn cymorth ac arweiniad, ac i gael gafael ar grant. Bydd pobl sy’n awyddus i sefydlu cwmnïau newydd, megis cwmnïau plymio, trydanol neu dechnoleg, yn gallu cael grantiau nad oes rhaid iddynt eu had-dalu o hyd at £10,000.
- Cronfa newydd ar gyfer tyfu busnes i gefnogi cwmnïau sydd eisoes wedi’u sefydlu ac sy’n ceisio tyfu yn yr economi leol. Bydd grantiau rhwng £25,001 a £250,000 ar gael, wedi’u teilwra i anghenion penodol pob busnes.
- Cronfa cadernid busnes sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i fusnesau lleol y mae’r newidiadau parhaus yn Tata Steel yn effeithio arnynt – er mwyn arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, creu swyddi newydd a dod o hyd i gyfleoedd mewn sectorau newydd, fel ynni carbon isel. Mae’r gronfa ar gael i fusnesau bach, fel caffis neu siopau lleol, neu i gwmnïau mwy, fel cwmnïau adeiladu sydd wedi cael eu taro gan y newidiadau yn Tata Steel, gyda grantiau’n amrywio o £2,500 i £25,000.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio. Cafwyd diweddariad hefyd gan yr Adran Busnes a Masnach ar bolisi dur; a chan Ganolfan Gymorth Undeb Community, y mae ei gwasanaethau cymorth wedi cael eu defnyddio gan 800 o bobl.
Trafododd y Bwrdd adroddiad Dangosfwrdd ar ddileu swyddi yn Tata Steel UK ac ar yr ymyriadau sydd wedi cael eu hariannu gan y Bwrdd – gan gynnwys y gronfa Paru â Swyddi, Allgymorth a Sgiliau, a’r Gadwyn Gyflenwi, sydd wedi helpu llawer o bobl i ddod o hyd i waith arall. Buont hefyd yn trafod y prosiectau adfywio posibl a fydd yn awr yn cael eu dadansoddi drwy gynigion achos busnes.
Roedd y canlynol yn bresennol: Y Cynghorydd Steve K Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Karen Jones, Cyn-Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O’Brien, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot; Huw Irranca Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig; Huw Morgan, Cyfarwyddwr Prosiect Datgarboneiddio Tata Steel UK; Martin Brunnock, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn Tata Steel UK; Stephen Kinnock, yr Aelod Seneddol dros Aberafan Maesteg; David Rees, yr Aelod o’r Senedd dros Aberafan; Anne Jessopp CBE, aelod annibynnol o’r Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, Undeb Community; a Tony Brady, Swyddog Cydlynu Rhanbarthol Unite the Union.