Stori newyddion

Ystadegau ar arwynebedd llawr busnes

Rydym eisiau holi eich barn ar sut rydym yn rhannu rhai o’n hystadegau.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn holi eich barn ar gynlluniau i newid yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi am arwynebedd llawr busnes.

Mae angen eich adborth arnom i sicrhau bod yr ystadegau a gynhyrchwn yn parhau i gyfarfod â’ch anghenion ein defnyddwyr.

Mae data arwynebedd llawr yn rhan hanfodol o’r rhan fwyaf o brisiadau y mae’r VOA yn eu gwneud ar gyfer ardrethi busnes.

Mae dau opsiwn ar gyfer sut rydym yn mesur arwynebedd llawr busnes.

Dywedwch wrthym pa un o’r rhain sy’n cyfarfod â’ch anghenion orau, a pham. Os byddwn yn newid ein dull, a fyddai hynny’n achosi problem i chi?

Rydym yn croesawu cyfraniadau gan bob defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys defnyddwyr profiadol o ystadegau y VOA, ac unrhyw un sydd am ddefnyddio’r ystadegau hyn am y tro cyntaf.

Mae gennych tan 30 Ionawr 2025 i gwblhau’r arolwg.

Cwblhewch yr arolwg ar GOV.UK.(Saesneg yn unig)

Gallwch gysylltu â’r VOA yn [email protected] am gymorth neu wybodaeth bellach.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Adding Welsh translation.

  2. First published.