Cymorth dur i gyrraedd miloedd, medd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth gyflwyno tystiolaeth gerbron un o bwyllgorau’r Senedd
Ymddangosodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gerbron Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd fel rhan o’i adroddiad ar Ddyfodol Dur Cymru heddiw (dydd Mercher 20 Tachwedd).
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud wrth un o bwyllgorau’r Senedd y bydd miloedd o bobl y mae’r newid i gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd yn Tata Steel yn effeithio arnynt yn gallu elwa ar gymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Wrth i Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymddangos gerbron Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd fel rhan o’i adroddiad ar Ddyfodol Dur Cymru heddiw (dydd Mercher 20 Tachwedd), fe eglurodd ers iddi ddechrau yn ei swydd ym mis Gorffennaf, fod Bwrdd Pontio Tata Steel Port Talbot – y mae hi’n ei gadeirio – eisoes wedi rhyddhau £26.5 miliwn i gefnogi busnesau a gweithwyr ym Mhort Talbot ac ar draws cymunedau dur.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth y pwyllgor nad oedd y Bwrdd Pontio gwerth £80 miliwn wedi’i ariannu’n llawn pan ddechreuodd ar ei swydd. Fodd bynnag, fe wnaeth hi ymladd am £13.5 miliwn cychwynnol ym mis Awst i gefnogi gweithwyr a busnesau’r gadwyn gyflenwi.
Roedd y Canghellor wedi cadarnhau’r £80 miliwn llawn yng Nghyllideb yr Hydref. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru £13 miliwn arall wythnos diwethaf (16 Tachwedd) i ariannu cynlluniau grant i helpu pobl i ddechrau busnesau newydd ac i dyfu neu i ddiogelu busnesau blaenorol.
Mae dwsinau o gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi eisoes yn symud ymlaen gyda cheisiadau a bydd arian yn cael ei ddyfarnu yn ystod yr wythnosau nesaf. Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei bod yn disgwyl cymorth yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf gan y Bwrdd Pontio i helpu miloedd o weithwyr dur, aelodau o’u teuluoedd a busnesau yn y gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth y Senedd:
Rydyn ni’n canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn diogelu Port Talbot fel safle gwneud dur yn y dyfodol, ac y byddwn ni’n helpu miloedd o bobl drwy’r newid hwn – nid dim ond gweithwyr uniongyrchol ond pobl yn y gadwyn gyflenwi a phobl yn y gymuned drwyddi draw.
Rydyn ni fel llywodraeth yn gweld dyfodol disglair i ddur yn y DU. Mae gennym weledigaeth hirdymor a fydd yn cyflawni ar gyfer y Deyrnas Unedig ac rwy’n benderfynol y bydd Port Talbot ar flaen y gad yn ein diwydiant dur yn y dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru eto wrth y pwyllgor fod Llywodraeth y DU, o fewn wythnosau i ddod i rym ym mis Gorffennaf, wedi sicrhau bargen well sy’n sicrhau dyfodol Gwaith Dur Port Talbot, gan osod y sylfaen am fuddsoddiad yn y dyfodol a thelerau gwell i’r gweithlu heb gostau ychwanegol i’r trethdalwr.
Ychwanegodd iddi ddod i’r amlwg ar ôl iddi ddechrau ar ei swydd bod yr ymrwymiad o £80 miliwn i Fwrdd Pontio Tata Port Talbot heb ei ariannu. Cafodd ei ariannu’n llawn yn ddiweddarach yng Nghyllideb mis Hydref.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth y pwyllgor:
Cafodd y gronfa gwerth £80 miliwn ei chyhoeddi’n wreiddiol fis Hydref diwethaf. Rhwng mis Hydref 2023 a’r Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024, nid aeth yr un geiniog o’r £80 miliwn hwnnw drwy’r drws i helpu gweithwyr dur, y gadwyn gyflenwi na’r gymuned ehangach.
Ar ôl i ni ddod i rym, roeddwn i wedi dychryn yn lân gweld bod yr £80 miliwn yn ymrwymiad gwario heb ei ariannu.
Rydw i wedi gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr bod y £80 miliwn bellach wedi’i gadarnhau yn y Gyllideb.
Sesiwn dystiolaeth dydd Mercher oedd y tro cyntaf i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymddangos gerbron un o bwyllgorau’r Senedd ar ôl iddi gael ei phenodi ym mis Gorffennaf.
Bydd rhagor o gyllid gan y Bwrdd Pontio yn cael ei ryddhau dros y misoedd nesaf i ddarparu amrywiaeth eang o gymorth i weithwyr dur a’r gymuned ehangach.
Dywedwyd wrth y pwyllgor hefyd fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu hyd at £2.5 biliwn ar gyfer dur a fydd ar gael drwy’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol a llwybrau eraill. Mae hyn yn ychwanegol at y £500 miliwn i Tata yng ngwaith dur Port Talbot a bydd yn harneisio buddsoddiad cyhoeddus a phreifat i sicrhau dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yn y DU.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn datblygu strategaeth ddur a fydd yn nodi gweledigaeth hirdymor i’r sector dur yn y DU.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Byddwn yn cyhoeddi strategaeth ddur yn y gwanwyn i nodi’r weledigaeth honno ar gyfer sut bydd dur Cymru a dur y DU yn chwarae rhan mor bwysig yn y dyfodol.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Cafodd y cyhoeddiad diweddaraf am gyllid gan Fwrdd Pontio Port Talbot ei wneud ar 16 Tachwedd. Roedd yn cynnwys:
-
Cronfa dechrau busnes a fydd yn galluogi gweithwyr Tata Steel, aelodau agos o’u teuluoedd, a phobl yn y gadwyn gyflenwi i dderbyn cymorth ac arweiniad, ac i gael gafael ar grant nad oes yn rhaid ei ad-dalu o hyd at £10,000.
-
Cronfa newydd ar gyfer tyfu busnes a fydd yn amrywio rhwng £25,001 a £250,000 i gefnogi cwmnïau sydd eisoes wedi’u sefydlu ac sy’n ceisio tyfu yn yr economi leol.
-
Cronfa cadernid busnes sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i fusnesau lleol y mae’r newidiadau parhaus yn Tata Steel yn effeithio arnynt er mwyn arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, creu swyddi newydd a dod o hyd i gyfleoedd mewn sectorau newydd, fel ynni carbon isel, gyda grantiau yn amrywio rhwng £2,500 a £25,000.
Mae modd gwylio Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymddangos gerbron Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar Senedd TV.