Stephen Crabb yn cynnal derbyniad adeg Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain
Ysgrifennydd Cymru: Y sector morol yn gyrru twf economaidd yng Nghymru
Yr wythnos hon, bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn croesawu’r gymuned forgludo yng Nghymru i dderbyniad yn Nhŷ Gwydyr fel rhan o Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain (7-11 Medi).
Mae Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain yn ddigwyddiad sy’n cael ei redeg gan y diwydiant ac mae’n dwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r sector, Gweinidogion y llywodraeth ac arbenigwyr morol i drafod sut y gellir gyrru’r diwydiant i dyfu ymhellach.
Mae’r gwasanaethau morol a morgludo yn rhan allweddol o ffyniant economaidd y DU, gan gyfrannu £11.8 biliwn y flwyddyn i’r economi.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Cymru’n falch o’i hanes morgludo, o ran cefnogi a chreu miloedd o swyddi a denu buddsoddiad.
Mae Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain yn gyfle gwych i arddangos y bartneriaeth agos rhwng y llywodraeth a diwydiant, gan gryfhau safle’r DU fel ceffyl blaen yn y sector.
Dwi am weld Cymru yn elwa o’r enw da byd-eang hwn ac yn cael ei hystyried fel un o’r llefydd mwyaf deniadol i redeg busnes morol rhyngwladol. Gobeithio y gallwn fanteisio ar yr Wythnos Morgludo Rhyngwladol i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig a helpu i yrru’r sector tuag at dwf a llwyddiant pellach.