Stephen Crabb i ymweld â’r Lleng Brydeinig Frenhinol a'r Post Brenhinol
Heddiw mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn ymweld â chanolfan galw-fewn newydd y Lleng Brydeinig Frenhinol a swyddfa sortio y Post Brenhinol yng Nghaerdydd
Ar ei ymweliad â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, dywedodd Mr Crabb:
Mae gan Gymru draddodiad balch o wasanaeth milwrol a, dros adeg y Nadolig yn enwedig, rydym yn cofio’n arbennig am y ddyled enfawr hon ac yn diolch i’n Lluoedd Arfog am eu gwaith.
Felly rwy’n falch iawn o weld y gwaith gwych mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei wneud o ran cefnogi dynion a gwragedd y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Mae eu staff gweithgar yn darparu cymorth a chyngor tra-gwerthfawr i’r lluoedd arfog sy’n gweithio’n ddiflino i amddiffyn ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw.
Wrth ymweld â swyddfa’r Post Brenhinol, dywedodd Mr Crabb:
Y Nadolig yw cyfnod prysuraf y flwyddyn o bell ffordd i Swyddfa’r Post ac nid wyf yn amau’r her o drefnu a dosbarthu cardiau a pharseli i bobl ar hyd a lled y DU.
Hoffwn dalu teyrnged i’r dynion a’r menywod sy’n gweithio’n galed yn swyddfa sortio fwyaf Cymru i sicrhau bod y Nadolig yn dod i Gymru.