Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn Atgoffa Myfyrwyr Newydd i Ymgeisio Nawr
Mae SLC yn atgoffa myfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 26 Mai.
Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn atgoffa myfyrwyr newydd yng Nghymru, sy’n bwriadu mynychu prifysgol a choleg yr hydref hwn, i gyflwyno eu ceisiadau cyllid myfyrwyr ar unwaith.
Gyda’r dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr yn agosáu ar 26 Mai*, dylai myfyrwyr ymgeisio ar-lein yn awr hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau yn y brifysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd.
Talodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) dros 1.5 miliwn o fyfyrwyr dros £22bn mewn benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a gwblhawyd (21/22). O ystyried maint y gwasanaeth y mae’n ei gynnig, mae’n bwysig bod ceisiadau myfyrwyr yn cael eu cyflwyno ac yn barod i gael eu prosesu.
Dywedodd Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yn SLC: “Rydym yn deall bod gan ddarpar fyfyrwyr dipyn o bethau’n digwydd ar hyn o bryd, gydag astudio ac arholiadau ar y gorwel. Fodd bynnag, fy neges iddynt yw gwnewch gais nawr oherwydd mae cael eu cais am gyllid myfyriwr i mewn cyn y dyddiad cau yn rhoi un peth yn llai iddynt feddwl amdano yn ystod y cyfnod astudio pwysig. A hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwybod pa gwrs neu brifysgol maen nhw’n mynd iddo, neu os ydyn nhw’n aros am ganlyniadau arholiadau, gwnewch gais o hyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu ffioedd a Benthyciadau Cynhaliaeth a grantiau i helpu gyda chostau byw. Efallai y bydd amgylchiadau pan fydd myfyriwr yn gallu cael rhywfaint o arian ychwanegol, er enghraifft os oes ganddo anghenion ychwanegol, os oes ganddo blant, neu os yw’n astudio ar gyfer cwrs meddygol, gwaith cymdeithasol neu ddysgu. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael i’w weld yma: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/beth-sydd-ar-gael/
Gwybodaeth bwysig i ddarpar fyfyrwyr:
Mae nifer o adnoddau ar gael i fyfyrwyr gael gwybod mwy am sut i wneud cais ac am y cymorth ariannol a allai fod ar gael.
- Mae gwybodaeth lawn, gan gynnwys canllawiau ar sut i wneud cais, pa gyllid sydd ar gael a fideos i helpu myfyrwyr drwy’r broses ymgeisio ar gael yn: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr/
- Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu ffioedd a Benthyciadau Cynhaliaeth a grantiau i helpu gyda chostau byw
- Gall myfyrwyr hefyd gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar The Student Room a thrwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar facebook.com/SFWales, twitter.com/SF_Wales neu youtube/SFWFILM
- Os bydd incwm cartref y flwyddyn dreth gyfredol yn gostwng 15% neu fwy o’i gymharu â’r flwyddyn dreth 21/22 efallai y bydd gan y myfyriwr hawl i gael mwy o fenthyciad cynhaliaeth, rhagor o wybodaeth yma: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/incwm-y-flwyddyn-bresennol/
Sicrhewch fod gennych ddogfennau pwysig wrth law:
- Dylai fod gan fyfyrwyr eu Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn dechrau’r cais.
- Gofynnir iddynt hefyd am fanylion banc wrth wneud cais, gan gynnwys rhif y cyfrif 8 digid a chod didoli 6 digid. Os bydd y manylion banc yn newid ar ôl gwneud cais, mae’n gyflym ac yn hawdd mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein a’u diweddaru.
Traciwch gynnydd y cais:
- Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau, ac nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn. Gallant olrhain statws eu cais trwy eu cyfrifon ar-lein a chânt eu hysbysu os oes unrhyw gamau gweithredu heb eu cymryd y mae angen iddynt eu cymryd. Gall myfyrwyr hefyd wneud newidiadau i’w gwybodaeth bersonol yn eu cyfrifon ar-lein.
Atgoffir myfyrwyr sy’n dychwelyd hefyd i wneud cais cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin.