Datganiad i'r wasg

Band eang uwchgyflym yn cyrraedd 1,000,000 o gartrefi a busnesau ar draws y DU

Gall mwy na 190,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn awr gael mynediad i rhyngrwyd uwchgyflym diolch i raglen llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae rhaglen band eang uwchgyflym Llywodraeth y DU bellach wedi cyrraedd mwy na 1 miliwn o gartrefi a busnesau ledled y DU - gyda mwy na 190,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad i ryngrwyd uwchgyflym, dengys ffigurau gyhoeddwyd heddiw (8 Awst).

Mae’r rhaglen, ar gost o £1.7 ledled y DU, ar y trywydd iawn i ymestyn band eang uwchgyflym i 95% o gartrefi a busnesau’r DU erbyn 2017. Mae’r raddfa y mae y dechnoleg ffibr yn cael ei chyflwyno o dan y rhaglen yn cynyddu, gyda hyd at 40,000 o adeiladau yn ennill mynediad bob wythnos.

Mae’r rhaglen, sydd ar waith ar draws y DU gyfan, yn rhan allweddol o gynllun economaidd hirdymor y llywodraeth i sicrhau dyfodol Prydain drwy ddarparu mynediad i fand eang uwchgyflym mewn ardaloedd ble na fyddai’r sector preifat wedi cyrraedd fel arall. Bydd y rhaglen wledig gyfredol yn sicrhau enillion o £20 am bob £1 a fuddsoddir, sy’n cynrychioli gwerth am arian aruthrol.

Bydd band eang cyflymach nid yn unig yn gwella elw busnesau yn y DU, ond bydd hefyd yn creu 56,000 o swyddi ychwanegol yn y DU erbyn 2024. Disgwylir i waith y rhaglen bresennol rhoi hwb o £1.5 biliwn i economïau lleol. Erbyn 2024, bydd buddsoddiadau presennol y llywodraeth mewn band eang uwchgyflym yn rhoi hwb i economïau gwledig o £275 miliwn bob mis, neu tua £9 miliwn bob dydd.

Y DU sy’n darparu’r band eang uwchgyflym gorau ar hyn o bryd o’r pum economi sydd ar frig economi Ewrop a rydym hefyd ar y blaen i’n cymdogion o ran manteisio ar ddarpariaeth, bod yn gystadleuol, a phrisio. Ond mae’r llywodraeth yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud.

Bydd y cynlluniau presennol yn sicrhau cyflymder uwchgyflym ar gyfer 95% o’r DU, ond mae’r llywodraeth yn credu’n gryf y dylai ei gynlluniau ar gyfer y tirlun digidol gwmpasu pob ardal o’r DU.

Mae’r pwyslais yn awr ar y 95% sy’n weddill - yr ardaloedd anghysbell hynny a’r rheiny sydd anoddaf i’w cyrraedd yn y DU nad ydynt yn dod o dan y cynlluniau presennol. Mae £10m wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfres o brosiectau peilot sydd ar y gweill mewn 8 lleoliad ar draws y DU i ymchwilio i’r ffordd orau o daclo’r ardaloedd hyn. Bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio i hysbysu ceisiadau am gyllid yn y dyfodol, i sicrhau bod pawb yn elwa o’r trawsnewid i’r tirlun digidol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Sajid Javid:

Mae mwy na miliwn o gartrefi a busnesau bellach wedi elwa o ganlyniad i fuddsoddiad y llywodraeth mewn band eang uwchgyflym.

Mae hyn yn llwyr newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Gallwch lawrlwytho ffilmiau llawn-hyd yn gyflymach, sgwrsio ar-lein gyda theulu a ffrindiau ar draws y byd gan ddefnyddio VOIP mwy dibynadwy, a gall teuluoedd fynd ar-lein ar yr un pryd heb i’w cysylltiad arafu neu fethu.

I fusnesau, mae gwasanaeth uwchgyflym yn rhoi hwb i’w helw trwy gynyddu gwerthiant, costau is a mynediant i farchnadoedd dramor am y tro cyntaf.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:

Mae’r cyhoeddiad heddiw fod bron 200,000 o gartrefi a busnesau Cymru yn cael mynediad i wasanaeth uwchgyflym yn garreg filltir bwysig yng nghynlluniau uchelgeisiol y llywodraeth hon i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Mae band eang uwchgyflym yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer bywyd bob dydd, ond hefyd ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol. Dyna pam fo cysylltedd i gartrefi a busnesau yn un o gonglfeini ein cynllun economaidd tymor-hir i hybu twf a chryfhau economi Cymru.

O’n cadarnleoedd gwledig i ganol ein dinasoedd, rydym yn buddsoddi mewn band eang uwchgyflym i gefnogi busnesau Cymru er mwyn iddynt allu cystadlu yn y ras fyd-eang, cyrraedd marchnadoedd newydd a chreu’r swyddi hynny sydd eu hangen arnom.

Dywedodd Gavin Patterson, Prif Swyddog Gweithredol BT:

Mae cael ffibr i ardaloedd gwledig yn galed, ac yn aml yn gymhleth, ond rydym yn gwneud cynnydd gwych. Mae ein peirianwyr yn brysur, o Hampshire i Ucheldir yr Alban, yn cysylltu cartrefi a busnesau, beth bynnag yw’r her. Rydym yn gosod ceblau tanfor i’r Hebrides Allanol, yn cyrraedd pentrefi anghysbell yng Nghymru ac yn trawsnewid ardaloedd gwledig ledled Lloegr.

Mae BT wedi dod ag arbenigedd technegol at y bwrdd, yn ogystal â channoedd o filiynau o bunnoedd. Mae rhai o’r prosiectau cynnar yn agos at gael eu cwblhau a bydd rhagor o arian yn cael ei ryddhau os down i fewn o dan y gyllideb, neu os yw’r pryniant o’r gwasanaeth yn fwy na’r disgwyl.

Meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd Elizabeth Truss:

Mae carreg filltir heddiw yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod o ran darparu gwasanaeth cyflymach, mwy dibynadwy i gymunedau ar draws y DU.

Trwy ein cyllido, rydym yn helpu i bontio’r bwlch rhwng ardaloedd trefol a gwledig, gan alluogi rhai o’n busnesau a’r cymunedau mwyaf ynysig i dyfu a ffynnu.

Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth go-iawn i’r economi wledig, trwy newid y ffordd y gall busnesau a defnyddwyr ddefnyddio’r rhyngrwyd a sicrhau gwell dyfodol i Brydain.

Gwybodaeth bellach:

Rhaglen llywodraeth y DU yw Superfast Prydain sy’n buddsoddi yn y seilwaith band eang a chyfathrebu ar draws y DU. Diben y buddsoddiad yw i dyfu busnesau, creu swyddi a gwneud Prydain yn fwy cystadleuol yn y ras fyd-eang. Mae tair elfen i’r portffolio:

  • £780m i ymestyn band eang uwchgyflym i 95% o’r DU erbyn 2017
  • £150m i ddarparu band eang cyflymder uchel i fusnesau mewn 22 o ddinasoedd
  • £150m i wella ansawdd ac argaeledd cyswllt ffônau symudol a gwasanaethau rhwydwaith data sylfaenol

Wedi ei weinyddu ar ran y llywodraeth trwy Broadband Delivery UK, mae Superfast Prydain yn trawsnewid Prydain drwy hyrwyddo twf, galluogi sgiliau a dysgu, a gwella ansawdd bywyd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2014