Nodyn atgoffa Ffurflen Dreth ar gyfer defnyddwyr cryptoasedion
Mae CThEF yn atgoffa defnyddwyr cryptoasedion i wirio a oes angen iddynt wneud Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gyda’r defnydd o gryptoasedion yn tyfu, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog pobl i osgoi cosbau posibl drwy wirio a oes angen iddyn nhw lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.
Dylai unrhyw un sydd â chryptoasedion ddatgan unrhyw incwm neu enillion dros y lwfans rhydd o dreth ar Ffurflen Dreth. Gallai treth fod yn ddyledus pan fydd person yn gwneud y canlynol:
- yn cael cryptoasedion drwy gyflogaeth, os maen nhw’n cael eu dal fel rhan o fasnach, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chrypto ac sy’n cynhyrchu incwm
- yn gwerthu neu’n cyfnewid cryptoasedion, gan gynnwys:
- gwerthu cryptoasedion am arian
- cyfnewid un math o gryptoased am fath arall
- defnyddio cryptoasedion i brynu rhywbeth
- rhoi cryptoasedion fel anrheg i berson arall
- cyfrannu cryptoasedion at elusen
Ewch i GOV.UK i ddysgu rhagor o wybodaeth am sut mae cryptoasedion yn cael eu trethu.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus yw 31 Ionawr 2024. Os nad yw cwsmeriaid yn siŵr a oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth, gallant wirio hynny drwy ddefnyddio’r offeryn ar-lein, sy’n rhad ac am ddim ar GOV.UK.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
Weithiau mae pobl yn anghofio fod angen cofnodi gwybodaeth am incwm ac enillion crypto ar eu Ffurflen Dreth. Efallai mai dyma’r tro cyntaf i’r fath sefyllfa godi i rai, felly mae’n bwysig cadarnhau a oes angen cyflwyno Ffurflen Dreth. Gyda’r dyddiad cau Hunanasesiad ond wythnosau i ffwrdd, dwi’n annog pobl i beidio ag oedi cyn llenwi’r Ffurflen Dreth.
Mae help wrth law - gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a chymorth ar-lein, chwiliwch am ‘help with Self Assessment’ ar GOV.UK.
Mae gan CThEF ystod eang o adnoddau ar-lein, gan gynnwys cyfres o fideos ar YouTube, a help a chymorth ar GOV.UK, i roi cymorth i gwsmeriaid i lenwi’u Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gall cwsmeriaid Hunanasesiad ar-lein gyflwyno eu Ffurflenni Treth a thalu unrhyw dreth sydd arnynt ar GOV.UK.
Mae ap CThEF yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf i gwsmeriaid dalu eu bil treth. Mae gwybodaeth am y gwahanol ddulliau o dalu ar gael ar GOV.UK.
Gall y rhai nad oes modd iddynt dalu’n llawn gael mynediad at gymorth a chyngor ar GOV.UK. Mae’n bosibl y bydd CThEF yn gallu helpu’r sawl, y mae arnynt llai na £30,000, drwy drefnu cynllun talu fforddiadwy, a elwir yn Amser i Dalu . Gall cwsmeriaid drefnu hyn ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK a chwilio am “HMRC payment plan”.
Bydd CThEF yn ystyried rhesymau’r cwsmer dros beidio â bodloni’r dyddiad cau. Mae’n bosibl bydd y sawl sy’n rhoi esgus rhesymol i CThEF yn osgoi cosb. Y cosbau am Ffurflenni Treth hwyr yw:
- cosb benodol gychwynnol o £100, sy’n berthnasol hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, neu os yw’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
- ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900
- ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf
- ar ôl 12 mis, cosb arall sef 5% neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf
Mae cosbau ychwanegol am dalu’n hwyr hefyd, sef 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar ôl 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis. Codir llog hefyd ar unrhyw dreth a delir yn hwyr.
Dylai pawb fod yn ymwybodol o’r risg o gael eu twyllo – ni ddylent rannu eu manylion mewngofnodi ar gyfer gwasanaethau CThEF gydag unrhyw un ar unrhyw adeg, gan gynnwys asiant treth, os oes ganddynt un. Mae cyngor CThEF ynghylch sgamiau ar gael ar GOV.UK.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad
Bydd angen i gwsmeriaid sydd â chryptoasedion lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mewn punnoedd Sterling yn achos y canlynol:
- mae cyfanswm eu henillion trethadwy dros y lwfans rhydd o dreth blynyddol
- maent yn cael cryptoasedion o gyflogaeth a Threth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd heb gael eu talu trwy TWE
- mae cyfanswm eu hincwm dros y lwfans rhydd o dreth blynyddol, gan gynnwys incwm oddi wrth weithgareddau sy’n ymwneud â chrypto
Ewch i GOV.UK ar gyfer arweiniad sut i dalu treth ar gryptoasedion.
Yn ystod mis Ionawr, mae ein llinell gymorth yn rhoi help i gwsmeriaid sydd â chwestiynau ynghylch taliadau ac ad-daliadau Hunanasesiad, ac sydd angen cymorth wrth lenwi eu Ffurflen Dreth. Ar gyfer pob ymholiad arall, ewch ar-lein lle byddwch yn dod o hyd i arweiniad, fideos ac offerynnau a fydd yn eich helpu. Ewch i www.gov.uk/ffurflenni-treth-hunanasesiad.
Mae CThEF am eich helpu i gael eich treth yn gywir. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael ar-lein, sy’n cynnwys:
- cynorthwyydd digidol CThEF – bydd y cynorthwyydd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, ac os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, gallwch ofyn am gael siarad ag ymgynghorydd.
- mae nodiadau arweiniad a thaflenni cymorth a fideos YouTube yn rhoi gwybodaeth helaeth i chi os ydych wedi’ch drysu.
- gweminarau byw lle gallwch ofyn cwestiynau neu, os na allwch ymuno, gallwch wylio gweminarau wedi’u recordio ar alw.
- ap CThEF a Chyfrif Treth Personol – gallwch ddod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar unwaith, gwneud taliad Hunanasesiad, cael eich rhif Yswiriant Gwladol a chael eich incwm cyflogaeth a hanes eich cyflogaeth ar gyfer eich Ffurflen Dreth.
- cymorth technegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF am help i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein
- y diweddaraf drwy e-bost – tanysgrifiwch i gael y diweddaraf drwy e-bost gan CThEF, fel na fyddwch chi’n colli’r wybodaeth ddiweddaraf am Hunanasesiad.
- y diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol – dilynwch CThEF ar Twitter @HMRCcustomers i gael y diweddaraf am wasanaethau Hunanasesiad ac i gael nodynnau atgoffa defnyddiol.
- Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i’ch helpu gyda Hunanasesiad, gallwch gysylltu â sefydliad yn y sector gwirfoddol neu gymunedol sy’n gallu rhoi help a chyngor i chi, neu gallwch gael cymorth yn uniongyrchol gan CThEF.
Gall y lleiafrif bychan o gwsmeriaid y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, neu sy’n cael trafferth ymgysylltu â ni drwy ddull digidol barhau i siarad ag ymgynghorydd.
Dylai cwsmeriaid gynnwys manylion eu cyfrif banc wrth gyflwyno Ffurflen Dreth, fel y gall CThEF eu had-dalu’n gyflym ac yn ddiogel pe bai angen gwneud hynny.
Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau. Gall cwsmeriaid ddefnyddio ap CThEF i ddiweddaru eu manylion gan gynnwys cyfeiriad neu enw newydd. Mae angen i gwsmeriaid hefyd roi gwybod i ni os ydynt wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig neu os oes angen iddynt newid eu manylion busnes. Gallant wneud hyn ar-lein yn GOV.UK.