Stori newyddion

Gwobr Aur i ddeg sefydliad o Gymru

Mae deg cyflogwr wedi cael Gwobr Aur fawreddog y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd.

Group of the ten Welsh organisations that received the ERS Gold Award with key military figures and hosts. Copyright: RFCA for Wales.

Mae deg cyflogwr wedi cael Gwobr Aur fawreddog y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd.

Cafodd y 10 cyflogwr o bob cwr o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth ragorol maen nhw’n ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Bae Caerdydd ar 26 Medi.

Dechreuodd y noson wobrwyo wych gyda derbyniad diodydd lle cafodd y gwesteion fwynhau cerddoriaeth gan y delynores gatrodol Cerys Rees o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol. Cafodd y gwesteion eu diddanu hefyd gan Fand Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol.

Cyflwynydd y noson oedd Sian Lloyd, ac Alun Davies AoS a roddodd yr anerchiad croeso. Rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan Neil ‘Jacko’ Jackson, y Cyfarwyddwr Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn.

Yr Is-lyngesydd Phil Hally CB MBE, Pennaeth Amddiffyn Pobl, a roddod y prif anerchiad.

Dyma’r Enillwyr o Gymru: 

  • Age Cymru Dyfed
  • ​B.C.B International Limited
  • Brightlink Learning Ltd
  • Espanaro Ltd
  • Fantom Factory Ltd
  • Jackson Fire & Security UK Ltd
  • Cyngor Sir Penfro
  • Pinnacle Document Solutions Limited
  • Regiment Training Group Limited
  • Regimental Cleaning Services Ltd

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan yr Is-lyngesydd Phil Hally CB MBE, y Cyrnol Sion Walker OBE, Is-Gomander 160fed Brigâd (Cymru), a Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Rob Woods OBE.

Dywedodd Simon Wright, Prif Swyddog Gweithredol Age Cymru Dyfed:

Rwy’n falch bod ein helusen wedi cael cydnabyddiaeth mor uchel am ei gwaith rhagorol yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Ffurfiwyd yr elusen yn 2020 ac un o’i chylchoedd gwaith allweddol yw cefnogi cyn-filwyr hŷn, personél sy’n gwasanaethu a theuluoedd. Mae’r wobr hon yn dangos ein cenhadaeth ehangach i gefnogi a rhoi croeso cynhwysol i’r gymuned amddiffyn a’u teuluoedd.

Dywedodd Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Gogledd Cymru:

Er mwyn ennill medal aur, rhaid i sefydliad ddangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

Mae’r enillwyr i gyd wedi bod yn eiriolwyr pwerus dros Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy ymgysylltu’n weithredol â’u cyfoedion, eu hannog i gyflogi cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog a’u teuluoedd, yn ogystal â darparu cymorth cadarn a pharhaus i filwyr wrth gefn.

Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a ddyfernir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i’r sefydliadau sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. Ar hyd a lled y DU, cafodd 193 o sefydliadau wobr Aur eleni.

Rhaid i sefydliadau hefyd hyrwyddo manteision cefnogi’r rhai sydd yng nghymuned y Lluoedd Arfog, drwy annog sefydliadau eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2024