Economi Cymru i dyfu wrth i’r DU ymuno â grŵp masnach mawr
Bydd y DU yn ymuno â CPTPP a fydd o bosib yn rhoi hwb o £110 miliwn i economi Cymru.
- Heddiw bydd y DU yn ymuno â CPTPP, grŵp masnach mawr yn yr Indo-Môr Tawel sy’n cynnwys gwledydd fel Awstralia, Fietnam, Periw, Chile a Maleisia.
- Yn 2023, mi wnaeth Cymru allforio gwerth £1.2 biliwn o nwyddau i wledydd CPTPP, ac mae disgwyl i’r gwledydd hyn ddod a hwb o £110 miliwn i economi Cymru yn yr hirdymor.
- Mae hwn yn gam di-oed i gefnogi Cynllun Newid y Llywodraeth i sicrhau twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Heddiw, [15 Rhagfyr] mae’r DU wedi ymuno yn swyddogol â Chytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) fel aelod cyflawn, a fydd o bosib yn rhoi hwb o £110 miliwn i economi Cymru yn yr hirdymor.
Mae CPTPP yn grŵp masnach mawr, ac mae gan ei aelodau - Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Maleisia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore, Fietnam, a nawr y DU – GDP cyfun o £12 triliwn.
O heddiw ymlaen bydd busnesau ar draws Cymru yn gallu manteisio ar restr brisiau is a llai o fiwrocratiaeth wrth iddynt werthu i economïau ar draws tri chyfandir, gyda sectorau peirianwaith, meddyginiaethau a fferyllol Cymru yn benodol yn debygol o elwa, gan helpu i gefnogi ‘Cynllun Newid’ y Llywodraeth drwy roi hwb gwerth hyd at £1 biliwn i incwm cartrefi bob blwyddyn a darparu un o’r pum cenhadaeth o gicdanio twf economaidd.
Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Jonathan Reynolds:
Mae Prydain mewn sefyllfa unigryw i allu cymryd mantais o farchnadoedd newydd cyffrous, ar yr un pryd â chryfhau perthnasau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r newyddion heddiw yn brawf pellach bod y DU yn lle gwych i wneud busnes, gydag economi agored sy’n edrych tuag allan yn gyrru’r twf y gall pobl ei deimlo yn eu cymunedau.
Mae cytundebau fel hyn yn hybu masnach ac yn creu cyfleoedd i gwmnïau yn y DU dramor. Mae hon yn ffordd brofedig o gefnogi swyddi, codi cyflogau, a sbarduno buddsoddiadau ledled y wlad sy’n allweddol i genhadaeth y Llywodraeth hon i ddarparu twf economaidd.
Bydd ein Strategaeth Fasnach, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, o’r diwedd yn rhoi cynllun strategol hirdymor ar waith ar gyfer masnach ryngwladol sy’n helpu busnesau a defnyddwyr ac, yn y pen draw, yn tyfu’r economi.
Meddai Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens:
Mae Llywodraeth y DU yn sicrhau’r bargeinion masnach gorau posibl ar gyfer tyfu economi Cymru a rhoi arian ym mhocedi pobl. Mae’r cytundeb heddiw yn golygu y bydd gan fusnesau Cymru well mynediad at 11 o brif economïau yn yr Indo-Môr Tawel, gan gynnwys Awstralia, Canada a Fietnam.
Bydd busnesau Cymru yn gweld llai o fiwrocratiaeth a rhestr brisiau is wrth allforio i’r gwledydd hyn, gan roi hwb i economi Cymru a helpu i sicrhau twf parhaus.
Mae CPTPP wedi’i gynllunio i ehangu dros amser, gan gynyddu ymhellach fanteision economaidd a strategol y cytundeb. Cyhoeddwyd Costa Rica yn ddiweddar fel y wlad nesaf i fynd drwy’r broses o ymuno, ac mae economïau eraill fel Indonesia – yr economi fwyaf yn Ne-ddwyrain Asia, gyda GDP o dros £1 triliwn ac yn gartref i tua 280 miliwn o bobl yn 2023 – yn ciwio i ymuno.
Mae cwmni Concrete Canvas o Bont-y-clun yn cynhyrchu ffabrig concrit, hyblyg sy’n caledu pan fydd yn cael ei hydradu i ffurfio haen denau, gwydn, gwrth-ddŵr a charbon is o goncrid neu - goncrit ar rolyn. Mae eu deunyddiau’n cael eu hallforio i bob marchnad CPTPP, gyda’r allforion hyn yn cyfrif am fwy na 40% o’i drosiant blynyddol. Byddant nawr yn gwneud arbedion o 20% ar allforion i Maleisia, diolch i aelodaeth y DU o CPTPP.
Meddai Darren Hughes, Rheolwr Datblygu Busnes Rhyngwladol yn Concrete Canvas Ltd:
Mae rhanbarth CPTPP yn hynod bwysig i’n busnes yn barod gan ein bod yn allforio i bob aelod o CPTPP.
Diolch i’r DU yn dod yn aelod, byddwn yn ei chael hi’n rhatach i allforio diolch i ostyngiadau i’r rhestr brisiau, yn enwedig gyda Maleisia, y mae gennym bellach Gytundeb Masnach Rydd â hi am y tro cyntaf erioed.
Bydd rhestr brisiau is yn caniatáu i gwmnïau fel Concrete Canvas fod yn fwy cystadleuol yn y marchnadoedd hynny, ac yn rhyddhau cyfalaf i fuddsoddi mewn cynnyrch newydd a gwell gweithrediadau.
Gallai cwmnïau gwasanaethau Cymreig hefyd ei chael hi’n haws allforio eu gwasanaethau i wledydd CPTPP, gyda chwmnïau’n cael rheoli arian ar draws y byd o’r DU a darparu gwasanaethau i farchnadoedd CPTPP fel y mae cwmnïau domestig mewn sectorau allweddol. Mae cwmnïau o Gymru eisoes wedi allforio gwerth dros £6.8 biliwn o wasanaethau yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Bydd sectorau megis y sector moduro, a’r sector bwyd a diod yn gallu elwa ar aelodaeth CPTPP, gan gynnwys trwy ddarpariaethau “rheolau tarddiad” modern sy’n caniatáu i nwyddau fod yn gymwys ar gyfer rhestr brisiau is pan gânt eu hadeiladu o rannau o wledydd sy’n aelodau o CPTPP ac yna’n cael eu hallforio i wlad CPTPP. Er enghraifft, gallai gwneuthurwr injan car yn y DU sy’n defnyddio cydrannau o wledydd CPTPP eraill gymhwyso’n haws i gael rhestr brisiau is wrth allforio’r injan derfynol o fewn un o wledydd CPTPP.
Gallai prisiau ar nwyddau defnyddwyr ostwng hefyd os caiff arbedion eu trosglwyddo gan fewnforwyr, gyda thariffau’n cael eu tynnu ar eitemau fel sudd ffrwythau o Beriw a sugnwyr llwch o Faleisia. Trwy CPTPP, mae gan y DU bellach gytundebau masnach rydd gyda Maleisia a Brunei am y tro cyntaf, economïau gyda GDP cyfun o dros £330 biliwn y llynedd.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol HSBC UK, Ian Stuart:
Mae bod yn rhan o’r CPTPP yn arwydd bod y DU ar agor i wneud busnes gyda rhai o farchnadoedd twf mwyaf cyffrous y byd. Ers cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023 y bydd y DU yn dod yn aelod o CPTPP, rydym wedi gweld cynnydd mewn taliadau rhwng marchnadoedd CPTPP a’r DU, a disgwyliwn i’r twf hwn barhau.
Fel prif fanc masnach y byd, gyda gwreiddiau dwfn ar draws llawer o wledydd CPTPP, rydym mewn sefyllfa dda i gysylltu busnesau’r DU â chyfleoedd twf mewn marchnadoedd fel Japan, Singapore, Seland Newydd, Fietnam, Maleisia ac Awstralia.
Meddai Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Chivas Brothers, Jean-Etienne Gourgues:
Ar adeg lle mae yna rwystrau cynyddol i fasnachu’n fyd-eang, mae’r ffaith bod DU yn dod yn aelod o’r CPTPP yn newyddion i’w groesawu i fusnes wisgi Albanaidd Chivas Brothers.
Dylai gwell mynediad at farchnadoedd mewn rhanbarthau deinamig fel De Ddwyrain Asia ac America Ladin mewn grŵp masnachu sy’n cwmpasu bron i un rhan o bump o gyfanswm gwerth allforion wisgi Albanaidd helpu i roi hwb i’n allforion blynyddol gwerth £1 biliwn.”
Daw’r aelodaeth CPTPP i rym wrth i Lywodraeth y DU agosáu at sicrhau cytundebau masnach gyda phartneriaid fel Cyngor Cydweithredu’r Gwlff, India, y Swistir a De Corea. Mae’r rhain yn ffurfio hanner dull deublyg Llywodraeth y DU o ymdrin â masnach sy’n ceisio ailosod ein perthynas â’r UE ar yr un pryd â sicrhau cytundebau masnach newydd. Bydd llacio cyfyngiadau masnach yn helpu i roi hwb i’r 196,000 o swyddi yng Nghymru sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan allforion.