Hafren ddi-doll yn darparu hwb Nadoligaidd ar gyfer cymunedau a busnesau
Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn ar dros hanner canrif o godi tâl
Gall gyrwyr teithio am ddim ar draws Pont Tywysog Cymru a’r Bont Hafren wreiddiol am y tro cyntaf mewn 52 blynedd o fore heddiw (dydd Llun 17 Rhagfyr).
Mae diddymiad y tollau, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU’r llynedd, yn dod wrth i filoedd o bobl teithio adref am gyfnod y Nadolig. Bydd cael gwared ar y tollau yn arbed cymudwyr rheolaidd tua £1400 bob blwyddyn ac yn rhoi hwb blynyddol amcangyfrifedig o dros £100 miliwn i economi Cymru.
Bydd busnesau hefyd yn elwa o gysylltiadau cryfach rhwng cymunedau o orllewin Cymru i Dde-orllewin Lloegr drwy ei gwneud yn haws ddefnyddwyr a gweithwyr croesi’r ffin. Codir tâl ar y pontydd Hafren ers 1966, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns oedd y gyrrwr olaf i dalu i groesi o Loegr i Gymru (ar ddydd Sul 16 Rhagfyr).
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae rhoi terfyn ar y tollau yn garreg filltir fawr i economïau De Cymru a De-orllewin Lloegr, a fydd yn dileu rhwystrau hanesyddol rhwng cymunedau. Mae cael gwared ar y tollau yn golygu diwedd ar genedlaethau o bobl yn talu dim ond i groesi’r ffin, ac mae darparu hyn wedi bod yn un o’m nodau allweddol fel Ysgrifennydd Gwladol.
Wythnos cyn y Nadolig, ni fydd gyrwyr yn gorfod talu bob tro y maent yn croesi’r ffin bellach, yn golygu mwy o arian yn eu pocedi i’w helpu gyda chostau byw sy’n gadael mwy o arian iddynt wario yn eu hardaloedd lleol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth Chris Grayling:
Rydym wedi gwneud ymrwymiad yn y maniffesto i ddarparu croesfannau am ddim dros yr afon Hafren, a dyna’n union beth rydym yn gwneud.
Bydd y symudiad hwn yn rhoi £1,400 y flwyddyn mewn pocedi filoedd o fodurwyr sy’n gweithio’n galed ac yn helpu i drawsnewid yr economi yn y De-orllewin a De Cymru, yn creu cyfleoedd newydd ac yn helpu i sbarduno twf yn y dyfodol.