Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Morgannwg Ganol yn anrhydeddu deuddeg o bobl
Mae cynrychiolydd y Brenin dros Forgannwg Ganol wedi talu teyrnged i’r Lluoedd Cadetiaid am fod yn sefydliad ‘gwirioneddol ryfeddol’.
Roedd Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol Ei Fawrhydi, yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ, yn siarad yn ei seremoni wobrwyo flynyddol a gynhelir i ddathlu cyflawnwyr uchel o’r cadetiaid a’r lluoedd wrth gefn.
Canmolodd ymdrechion deuddeg o bobl, gan gynnwys wyth o gadetiaid ifanc o bob rhan o Forgannwg Ganol, yn ei seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghanolfan Wrth Gefn y Fyddin ym Mhontypridd ddydd Iau, 26 Ionawr 2023.
Dywedodd fod y Lluoedd Cadetiaid, sy’n cynnig cymysgedd o hyfforddiant milwrol, gwaith ieuenctid, cymwysterau sifil a gwaith cymunedol wedi helpu i ddatblygu pobl ifanc i fod yn barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas.
“Ni fyddai’r Lluoedd Cadetiaid yn bodoli oni bai am ymroddiad ac ymrwymiad gwych y swyddogion a’r oedolion sy’n wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser rhydd er mwyn helpu i redeg y sefydliad”, dywedodd yr Athro Vaughan.
Cafodd y Cadét Abl Brandon Jones o Gorfflu Cadetiaid y Môr y Rhondda; y Cadét Abl Anna-Maria Petter o Gorfflu Cadetiaid y Môr Porthcawl; y Cadét Sarjant Hedfan Scott Jones o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 3 y Welsh Wing; y Cadét Sarjant Hedfan Emily Richards o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing; a’r Corporal Gadét Casey Garland o Luoedd Cadetiaid Cyfun Caerdydd a’r Fro, eu penodi fel Cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Morgannwg Ganol yn 2023.
Roedd Brandon, 16 oed, o Donypandy ac sy’n gobeithio ymuno â’r Llynges Frenhinol, yn falch iawn o fod yn rhan o osgordd er anrhydedd y cadetiaid yn ystod ymweliad cyntaf y Brenin â Chaerdydd.
Mae Anna-Maria, 16 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n mynychu Coleg Caerdydd a’r Fro, yn gerddor brwd sy’n gobeithio astudio perfformio cerddoriaeth yn y dyfodol. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn rhwyfo a’i llwyddiant mwyaf yn y cadetiaid oedd treulio wythnos ar fwrdd TS Royalist y llynedd.
Mae Scott, 17 oed, sy’n mynychu Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei ddisgrifio fel un sydd â ‘sgiliau arwain rhagorol’ ac fe enillodd Wobr Cadét Iau y Flwyddyn yn ei 12 mis cyntaf. Mae’n goruchwylio’r Hyfforddiant i’r Recriwtiaid Hedfan sydd bellach yn cynnwys dros ugain o gadetiaid. Mae’n gobeithio bod yn beiriannydd naill ai yn yr Awyrlu Brenhinol neu gyda British Airways.
Mae Emily, 17 oed, o Ferthyr, hefyd yn mynychu Coleg Caerdydd a’r Fro, ac mae’n gobeithio bod yn beiriannydd yn sector awyrofod y fyddin. Mae hi wedi cyflawni cryn dipyn gyda’r cadetiaid yn barod yn cynnwys hedfan mewn hofrennydd Merlin ac ennill tystysgrif am wasanaeth da gan Gomodor yr Awyrlu.
Mae Casey, 17 oed, o Aberdâr, yn mynychu Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae’n teithio 50 milltir bob wythnos ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r cadetiaid ac yn dweud mai ei llwyddiant mwyaf hyd yma oedd cynrychioli’r cadetiaid adeg ymweliad cyntaf y Brenin â Chastell Caerdydd.
Dewiswyd y pump ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.
Byddant yn dilyn yn ôl-traed Y Cadét David Morgan o Gorfflu Cadetiaid Môr Porthcawl, Y Corporal Gadét Nyah Pope o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg, y Cadét Sarjant Hedfan Garyn Kiff o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing, a’r Cadét Sarjant Hedfan Corey Luke o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 3 y Welsh Wing a gafodd Dystysgrif a Bathodyn Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol am eu gwaith fel cynrychiolwyr 2022.
Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn nifer o ddigwyddiadau swyddogol, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.
Cafodd tri oedolyn eu cydnabod hefyd am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd - a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw iddyn nhw.
Dyma’r tri - yr Hyfforddwr Sifilaidd, Michelle Sussex, o Gadetiaid Awyr RAF Cymru Rhif 1 y Welsh Wing, y Sarjant Stephen Hughes o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol, a’r Is-gorporal Dros Dro Rebecca Comer o Gorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru.
Ymunodd Michelle, sy’n byw ym Merthyr Tudful, â phwyllgor sifilaidd 415 Sgwadron Merthyr Tudful ar ôl i’w mab ymuno fel cadét ac o fewn ychydig o flynyddoedd fe’i hanogwyd i ddod yn Hyfforddwr Sifilaidd. Ar hyn o bryd mae’n ddirprwy hedfan datgysylltiedig – yn aelod hanfodol ac eithriadol o’r tîm.
Mae Rebecca o’r Llu Wrth Gefn, yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roedd hi’n swyddog cadét gydag UOTC Cymru yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol. Ar ôl gadael y brifysgol, fel rhan o UOTC Cymru ymunodd â’r Rheolaeth Filwrol ar y Cyd yng Nghymru i gefnogi Ymgyrch Rescript yn ystod y pandemig, lle bu’n gweithio fel rhan o dîm yr ystafell gweithrediadau. Y tu allan i’w gwaith yn y lluoedd wrth gefn, mae Rebecca wedi gwneud cais i ymuno â’r heddlu.
Mae Stephen o’r Llu Wrth Gefn, yn byw ym Mhontypridd ac yn gweithio fel recriwtiwr yn 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol ac mae wedi rhagori’n gyson dros nifer o flynyddoedd ar y cwotâu recriwtio. O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, mae’n cael ei gyflogi dri diwrnod yr wythnos erbyn hyn. Mae’n cadw mewn cysylltiad â recriwtiaid yn ei amser ei hun i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac mae’n cael boddhad mawr o helpu pobl eraill i ddod yn aelodau o’r Lluoedd Arfog.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Roedd tua 80 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.