Dyraniadau PAC y DU yn cynnig y fargen orau i ffermwyr Cymru
Cyllideb PAC gwerth £20biliwn i’w rhannu’n deg rhwng pedair gweinyddiaeth y DU
Dal gafael ar gyfrannau rhanbarthol presennol y taliadau uniongyrchol o gyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin sydd wedi’u dyrannu i’r DU yw’r fargen orau i ffermwyr Cymru meddai Gweinidogion Swyddfa Cymru heddiw (8 Tachwedd).
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y gyfran o gyllideb £20biliwn y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a gaiff ffermwyr yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban dros y saith mlynedd nesaf yr un fath ag y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd.
Yn dilyn ymgynghoriad helaeth â’r gweinyddiaethau datganoledig, mae’r llywodraeth wedi penderfynu rhannu’r newid yng nghyllid y PAC yn y cyfnod cyfredol o saith blynedd yn deg rhwng pedair gweinyddiaeth y DU.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, a’r Farwnes Jenny Randerson, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sy’n gyfrifol am y portffolio materion gwledig, wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â chyrff ffermio yng Nghymru er mwyn sicrhau dealltwriaeth o safbwynt Cymru a bod y safbwynt hwnnw wedi cael ei ystyried.
Dywedodd David Jones:
Mae’r cytundeb a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y Llywodraeth yn gwrando, a’i bod, yn y pen draw, wedi gweithredu er budd gorau holl ffermwyr y DU.
Mae Swyddfa Cymru a thimau Gweinidogol DEFRA wedi bod yn cydweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru, a chyda chyrff ffermio megis NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, wrth fynd ati i sicrhau’r cytundeb pwysig hwn.
Wrth wneud hyn, rydym wedi sicrhau canlyniadau sydd wedi ymdrin yn llwyddiannus â phrif bryderon ffermwyr Cymru ac wedi sicrhau’r fargen orau bosibl iddynt. Mae hyn yn dangos yn glir y canlyniadau y gellir eu sicrhau pan mae Llywodraeth San Steffan a’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn cydweithio’n agos â’i gilydd er lles economi Cymru a’r DU ehangach.
Dywedodd y Farwnes Jenny Randerson:
Drwy gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, rydym wedi sicrhau ein bod yn siarad ag un llais ac roedd hynny’n hanfodol.
Roedd yn hanfodol bwysig ein bod yn ceisio eu barn ar y dewisiadau dyrannu a luniwyd ar y cyd wrth geisio sicrhau setliad teg i ffermwyr Cymru.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn gallu dod i benderfyniad ynghylch sut i fwrw ymlaen â rhoi rheoliadau’r PAC ar waith mewn ffordd sy’n diwallu anghenion ffermwyr Cymru orau gyda’r arian sydd ar gael iddynt.
Fel rhan o’r cytundeb, mae’r Llywodraeth wedi llwyddo i sicrhau y bydd y newid o daliadau hanesyddol i daliadau uniongyrchol ar sail ardal yn mynd rhagddo’n ddidrafferth. Byddant hefyd yn elwa o elfennau hyblyg eraill a sicrhawyd, megis y newidiadau a wnaed i’r trothwyon gwyrdd er mwyn lleddfu’r effaith ar ffermwyr sydd â thir porfa barhaol yn bennaf.
Nodiadau i Olygyddion
Heddiw, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi:
- dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o €2,299 miliwn, a dyraniad colofn 2 o €227 miliwn i Ogledd Iwerddon dros y cyfnod 2014-2020.
- dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o oddeutu €4,096 miliwn, a dyraniad colofn 2 o oddeutu €478 miliwn i’r Alban dros y cyfnod 2014-2020. *dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o €2,245 miliwn, a dyraniad colofn 2 o €355 miliwn i Gymru dros y cyfnod 2014-2020; a
- dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o oddeutu €16,421 miliwn, a dyraniad colofn 2 o €1,520 miliwn i Loegr dros y cyfnod 2014-2020.
Mae hyn yn golygu y bydd pob Gweinyddiaeth yn wynebu toriad canrannol cyfartal yng nghyswllt colofn 1. Wedi ystyried barn y Gweinyddiaethau Datganoledig, mae’r Llywodraeth yn credu mai hwn yw’r setliad mwyaf priodol ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
- Ffigurau nominal yw’r rhai a nodir uchod (h.y. nid ydynt wedi cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant)
- Dros 2014-2020 bydd y DU yn cael taliadau uniongyrchol gwerth €25.1 biliwn. Dros yr un cyfnod bydd y DU yn cael €2.6 biliwn mewn cyllid colofn 2.
- Rhwng 2013/14 a 2019/20 bydd taliadau uniongyrchol y DU (colofn 1) yn gostwng 1.6 y cant. Wrth ei addasu ar gyfer chwyddiant (prisiau 2011), mae hyn gyfystyr â gostyngiad o 12.6 y cant.
- Yng nghyswllt colofn 2, rhwng 2007 a 2013, a 2014 a 2020, bydd dyraniad y DU yn cynyddu 7.8 y cant. Wrth ei addasu ar gyfer chwyddiant (prisiau 2011), mae hyn gyfystyr â gostyngiad o 5.5 y cant.
- Bydd y dyraniadau terfynol yn amodol ar gytundeb â Senedd Ewrop ynghylch Cyllideb yr UE ar gyfer 2014-20.