"Seibr-ddiogelwch y Deyrnas Unedig yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig"
Stephen Crabb yn ymweld ag Airbus Defence and Space
Mae amddiffynfeydd seibr cryf yn gwbl angenrheidiol ar gyfer diogelwch hirdymor Prydain, meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw cyn ymweliad â Grŵp Airbus yng Nghasnewydd (19 Tachwedd).
Bydd yr ymweliad yn amlygu prosiectau Grŵp Airbus sy’n darparu Atebion Cyfathrebu Hynod Ddiogel i Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig, a’u portffolio Seibr Ddiogelwch sydd gyda’r gorau yn y byd.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig raglen gynhwysfawr a fydd yn darparu’r genhedlaeth nesaf o seibr-ddiogelwch i Brydain. Mewn araith yng nghartref cudd-wybodaeth Prydain, GCHQ, addawodd y Canghellor gynyddu gwariant ar seibr-ddiogelwch i £1.9 biliwn erbyn 2020, recriwtio 1,900 o staff newydd ar draws y tair asiantaeth cudd-wybodaeth a sefydlu’r Seibr Ganolfan Genedlaethol gyntaf, a fydd yn gartref i ‘lu seibr’ pwrpasol cyntaf y wlad.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Daw ymweliad heddiw yn sgil yr ymosodiad terfysgol gwaethaf yn Ewrop ers degawd. Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yw os ydym am gadw ein pobl yn ddiogel yn y byd modern, mae’n golygu mynd i’r afael ag achosion y bygythiadau sy’n ein hwynebu - nid dim ond delio â’u canlyniadau.
Dyna pam mae’r Llywodraeth hon yn dyblu buddsoddiad mewn materion seibr a chreu Canolfan Seibr Genedlaethol i helpu i’n cadw ni’n ddiogel.
Mae angen ymdrech enfawr ar y cyd i ddiogelu ein gwlad rhag seibr-ymosodiadau. Mae Airbus Defence and Space yn bartner allweddol yn yr ymdrech honno.
Wrth i ni drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus i fod y gwasanaethau digidol gorau yn y byd, rydym eisiau sicrhau bod Prydain yn darged anodd yn y seibrofod. Mae’r gwaith pwysig mae Grŵp Airbus yn ei wneud i ddiogelu seilwaith cenedlaethol critigol a gweithio yn erbyn y bygythiad o seibr-ymosodiad yn hanfodol yn yr ymdrech hon. Rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am y cyfle i weld hyn ar waith heddiw.
Mae Campws Casnewydd Grŵp Airbus yn gartref i bersonél peirianneg ac ymchwil medrus iawn sy’n gweithio ar draws pedwar busnes Grŵp Airbus; Airbus Defence and Space, Airbus Group Innovations, Airbus Group Endeavr Wales a Testia Ltd, sydd heddiw wedi cyhoeddi contract gwasanaeth newydd gyda chwmni lleol Cardiff Aviation ar gyfer profion nad ydyn nhw’n ddinistriol ar awyrennau gweithredol.
Ychwanegodd Mr Crabb:
Mae’r sector awyrofod yn cyfrannu’n sylweddol at ein heconomïau lleol, gan gynnal a chefnogi miloedd o swyddi i weithwyr yng Nghymru. Mae gweld cwmni byd-eang fel Grŵp Airbus yn recriwtio busnesau bach lleol i’w gadwyn gyflenwi yn galonogol iawn, ac yn dangos cyfoeth a natur arloesol galluoedd awyrofod Cymru.
Yn ystod ei ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn croesawu ymweliad adran Arloesi Grŵp Airbus, sy’n cynnal ymchwil lefel uwch ym meysydd technegol Seibr-ddiogelwch, Rheoli Pŵer, Ymasiad Data a Mellt ac Electrostateg drwy gydweithio gyda’r byd academaidd a’r diwydiant ehangach yng Nghymru.
Dywedodd Simon Bradley, Is-lywydd - Pennaeth Cyfarwyddiaeth Rhaglen Arloesi, Cynnyrch a Seibr-ddiogelwch Swyddfa Dechnegol Gorfforaethol Grŵp Airbus:
Mae Grŵp Airbus yn gwerthfawrogi ein partneriaeth barhaus gyda Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, felly rydym yn falch iawn fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod Airbus fel cwmni sy’n gyrru twf economaidd yng Nghymru. Mae pwysigrwydd Seibr-ddiogelwch yn cynyddu’n barhaus, ac mae’r ymchwil a’r gwaith gyda’r gorau yn y byd sy’n cael ei wneud yma yng Nghasnewydd ar flaen y gad yn y byd technolegol.