Cronfa Llywodraeth y DU yn croesawu cynigion gan gymunedau ledled Cymru
Bydd cronfa gwerth £7m yng Nghymru yn rhoi cyfle i grwpiau lleol ddod yn berchnogion o dafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl.
Bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, caeau chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl drwy lansio Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, a fydd yn gweld dros £7m yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru.
Mae’r gronfa £150m yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailgodi’n gryfach yn dilyn y pandemig drwy roi’r pŵer i gymunedau achub y sefydliadau lleol sy’n meithrin ymdeimlad o gymuned.
Cyhoeddwyd manylion heddiw (dydd Iau 15 Gorffennaf) ynghylch sut y bydd mudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru a gweddill y DU yn gallu gwneud cais am hyd at £250,000 o arian cyfatebol i brynu neu gymryd drosodd asedau lleol a’u rhedeg.
Mewn achosion eithriadol, bydd hyd at £1 miliwn ar gael i sefydlu clybiau chwaraeon neu i helpu i brynu meysydd chwaraeon sydd mewn perygl o gael eu colli heb ymyriad – sy’n golygu y gallai grŵp o gefnogwyr ddod yn Gadeirydd ac yn fwrdd eu tîm lleol.
Mae cyfanswm o £7.1 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru, boed hynny’n gyfleusterau chwaraeon a hamdden, sinemâu a theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, amgueddfeydd, orielau, parciau, tafarndai, swyddfeydd post a siopau.
Datgelodd y Prif Weinidog ragor o fanylion fel rhan o araith fawr heddiw (dydd Iau) lle nododd sut y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i godi’r gwastad rhwng holl ranbarthau’r wlad, drwy rymuso trefi, pentrefi a strydoedd mawr wrth i ni ailgodi yn dilyn y pandemig.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ochr yn ochr â’r Gronfa Codi’r Gwastad, y Gronfa Adfywio Cymunedau a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn rhan o becyn hollbwysig o gyllid Llywodraeth y DU sydd wedi’i gynllunio i gefnogi cymunedau a gwneud yn siŵr nad oes unman yn cael ei adael ar ôl.
Bydd yr arian yn chwarae rhan bwysig yn codi’r gwastad ac yn cryfhau ein Hundeb wrth i ni adeiladu’n ôl yn well yn dilyn y pandemig. Rwy’n annog pobl a chymunedau ledled Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn eu darparu yn eu hardaloedd lleol.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn buddsoddiad mawr a chamau gweithredu gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyfleoedd a ffyniant ar draws pob rhan o’r DU, gan gynnwys drwy’r Gronfa Codi’r Gwastad gwerth £4.8 biliwn a’r Gronfa Adfywio Cymunedolgwerth £220 miliwn.
Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth gyda chymunedau, y Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS) ac awdurdodau lleol ym mhob rhan o’r DU. Bydd y gronfa’n rhedeg dros bedair blynedd (tan 2024-2025). Bydd nifer o rowndiau bidio. Bydd y cyntaf yn agor ar 15 Gorffennaf ac yn cau ar 13 Awst.
Mae’r prosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gael yma.