Llywodraeth y DU yn helpu cannoedd o brynwyr am y tro cyntaf yng Nghymru i ddod yn rhan o’r farchnad dai
Stephen Crabb: "Rydyn ni’n helpu cannoedd o bobl i ddringo ar ris cyntaf yr ysgol dai"
Heddiw (5 Mawrth) bu Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn canmol cynllun gwarantu morgeisi Llywodraeth y DU wrth i ffigurau newydd ddangos ei fod wedi helpu cannoedd o bobl ledled Cymru i brynu tŷ.
Ers sefydlu’r cynllun yn 2013, mae 1,530 o brynwyr am y tro cyntaf yng Nghymru wedi llwyddo i brynu eu tŷ eu hunain.
Dywedodd Mr Crabb bod rhaid i Lywodraeth Cymru ymestyn ei fersiwn o’r cynllun benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu hyd at 2020 – fel mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud – i roi sicrwydd i brynwyr tai a’r diwydiant adeiladu tai yng Nghymru.
Dywedodd Stephen Crabb:
Ers gormod o amser, mae gormod o bobl wedi cael trafferth yn gwireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar dŷ – ond mae ffigurau heddiw’n dangos bod hyn yn newid.
Mae cannoedd o bobl ledled Cymru wedi defnyddio ein cynllun gwarantu morgeisi i ddringo ar ris cyntaf yr ysgol dai.
Yn Lloegr, rydyn ni wedi ymestyn y cynllun benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu tan 2020. Rydw i’n gwybod bod adeiladwyr tai’n poeni nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr un ymrwymiad gyda’u cynllun eu hunain.
Mae’n rhaid i Gymru elwa o fanteision economaidd diwydiant adeiladu tai sy’n ffynnu. Rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n symud yn gyflym i roi sicrwydd i brynwyr tai ac i’r farchnad dai, fel nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ôl.