Llywodraeth y DU yn helpu mwy na 50,000 o Fusnesau yng Nghymru
Mae busnesau yng Nghymru wedi elwa o fwy na £1.3 biliwn o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ddiogelu a chefnogi swyddi o ganlyniad i'r coronafeirws
- Mae mwy na 48,000 o fenthyciadau gwerth mwy na £1.3 biliwn wedi cael eu cynnig dan y Cynllun Benthyciadau Ailgydio
- Mae mwy na 1,600 o fenthyciadau gwerth £373 miliwn wedi cael eu cynnig dan y Benthyciadau Ymyrraeth Busnes
- Mae 82,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
Mae busnesau yng Nghymru wedi elwa o fwy na £1.3 biliwn o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ddiogelu a chefnogi swyddi.
Mae mwy na 50,000 o fenthyciadau wedi cefnogi busnesau ar draws bob sector a diogelu swyddi. Ond y sectorau manwerthu ac adeiladu sydd wedi elwa fwyaf, gan ddangos sut mae cefnogaeth y Llywodraeth y DU wedi helpu’r busnesau yr effeithiwyd arnynt galetaf gan y pandemig gan helpu i gadw pobl mewn gwaith.
Yn yr un modd, mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth wedi helpu pobl fusnes ar draws pob sector gyda 82,000 o bobl yng Nghymru yn elwa o’r CCIH gyda cheisiadau o £2,400 y pen ar gyfartaledd.
Yn ôl y Canghellor Rishi Sunak:
Rydym wedi darparu cefnogaeth ddigynsail i fusnesau a gweithwyr ar hyd a lled y wlad i ddiogelu swyddi a bywoliaeth.
Drwy gydol yr argyfwng, fy mlaenoriaeth i bob tro yw diogelu swyddi ac yng Nghynllun Economi’r Gaeaf, gwnaethom ddarparu cymorth ychwanegol i helpu busnesau drwy’r misoedd sydd i ddod.
Cyhoeddodd y Canghellor hefyd ar ddydd Gwener y bydd Cynllun Cymorth Swyddi yn ehangu i ddiogelu swyddi a chefnogi busnesau sy’n gorfod cau eu drysau o ganlyniad i gyfyngiadau’r coronafeirws.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi diogelu miloedd o bobl a busnesau ar draws Cymru.
Dywedasom y byddem yn gwneud beth bynnag a gymeriff i ddiogelu bywoliaeth ac mae’r ffigurau yma’n dangos unwaith yn rhagor maint y gefnogaeth ariannol rydym wedi ei ddarparu.
Drwy ein Cynllun Economi’r Gaeaf a’r biliynau o bunnoedd o arian ychwanegol rydym wedi’i ddarparu i Lywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i wynebu’r argyfwng fwyaf y mae Cymru a’r DU wedi’i wynebu ers cenedlaethau.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma:
Rydym wedi darparu un o’r pecynnau mwyaf hael a chynhwysfawr yn y byd gan ddiogelu miliynau o swyddi ac achub miloedd o fusnesau.
Rwy’n gwybod bod yr amseroedd yn anodd i nifer o sectorau, gweithwyr a’i teuluoedd ond rydym yn parhau i sefyll gyda busnesau i’w helpu i adeiladu nôl yn well wrth i ni roi hwb cychwynnol i’n hadferiad economaidd.
Mae cwmnïau ledled Cymru wedi elwa o gymorth gan gynnwys Recriwtio 121 Finance & Accounting Solutions.
Yn ôl Che Hookings, Prif Weithredwr Recruit 121:
Mae gweithredu’n gyfrifol mewn argyfwng o’r fath yn gydbwysedd anodd rhwng optimistiaeth, doethineb a phoen. Mae’r cynllun ffyrlo wedi bod yn wych i leihau’r effaith i’r unigolyn a helpu busnesau i ddal gafael ar y bobl dalentog fydd angen arnynt ar ôl yr argyfwng. Fel cwmni, rydym yn sicr wedi gwerthfawrogi ac elwa o’r cymorth yma gan Lywodraeth y DU.
Fel rhan o Gynllun Economi’r Gaeaf, cyhoeddodd y Canghellor y bydd mwy na miliwn o fusnesau a gafodd Fenthyciad Ail Gydio nawr yn cael sicrwydd pellach o argyfwng y Covid gydag ad-daliadau hyblyg dan y cynllun newydd Talu wrth Dyfu sy’n rhoi mwy o amser i fusnesau i ad-dalu.
Bydd Cynllun Economi’r Gaeaf yn parhau i ddiogelu swyddi a helpu busnesau drwy’r misoedd ansicr sydd i ddod wrth i ni fabwysiadu ymateb newydd i’r feirws, gan gynnwys ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth a thoriad o 15% mewn TAW i’r sectorau twristiaeth a lletygarwch.