Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn mwy na dyblu'r cyllid sydd ar gael i gefnogi busnesau a gweithwyr dur ym Mhort Talbot

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hwb o £15 miliwn i gronfeydd cymorth ar gyfer y diwydiant dur, gan fwy na dyblu’r cyllid sydd ar gael i gefnogi busnesau yn y cadwyn gyflenwi a gweithwyr y mae newidiadau yn safle Tata Steel ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt.

  • Cyfanswm y gronfa i gefnogi busnesau a gweithwyr yn mwy na dyblu i £30 miliwn.

  • Bydd mwy o fusnesau yn y gadwyn gyflenwi yn gymwys i wneud cais am gymorth mewn ymateb i ddiddordeb sylweddol gan fusnesau sy’n dibynnu ar Tata Steel Port Talbot.

  • Bellach, mae busnesau yn gallu hawlio grantiau o hyd at £250,000 i fuddsoddi mewn offer, eiddo a thechnoleg.

Wrth gadeirio cyfarfod diweddaraf y Bwrdd Pontio heddiw (19 Rhagfyr) bydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yn cyhoeddi bod cyfanswm cronfa a grëwyd i gefnogi busnesau lleol sy’n dibynnu’n fawr ar Tata Steel yn mwy na dyblu i £30 miliwn.  

Bydd meini prawf cymhwysedd newydd yn golygu y bydd mwy o fusnesau nawr yn gallu gwneud cais am arian, a bydd gwerth grantiau unigol hefyd yn cynyddu i hyd at £250,000 er mwyn i fusnesau allu buddsoddi mewn offer, eiddo a thechnoleg.   

Daw hyn yn dilyn galw sylweddol ar y gronfa sydd eisoes yn bodoli, gyda bron i 40 o fusnesau sy’n cyflogi 2,000 o bobl yn mynd drwy’r broses ymgeisio ar hyn o bryd. Disgwylir i grantiau gwerth miliynau o bunnoedd gael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.

Mae’r arian, a ddaw o gronfa gwerth £80 miliwn Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU, yn cefnogi busnesau sydd yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i droi at farchnadoedd a chwsmeriaid newydd lle bo hynny’n angenrheidiol i amddiffyn swyddi a’r economi leol.

Mae’r arian hefyd ar gael i weithwyr sy’n cael eu heffeithio gan y newid i’w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, gael mynediad at hyfforddiant a sicrhau sgiliau a chymwysterau mewn sectorau ble mae swyddi ar gael.  

Mae’r cynnydd mewn cyllid a gyhoeddwyd y mis hwn yn ymateb i’r disgwyliad y bydd mwy o bobl yn gadael Tata yn gynnar yn 2025 drwy gynllun diswyddo gwirfoddol y cwmni.

Meddai Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens:  

Mae’r llywodraeth hon yn gweithredu’n bendant i gefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot.   

Rydym yn dyblu’r arian sydd ar gael i fusnesau a gweithwyr ac yn ymestyn y gallu i gael mynediad at grantiau i sicrhau ein bod yn cefnogi gymaint o bobl â phosibl.

Mewn dim ond pedwar mis rydym wedi cyhoeddi gwerth mwy na £40 miliwn o fuddsoddiadau. Mi ddywedasom y byddem yn cefnogi gweithwyr a busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau ym Mhort Talbot, ac rydym yn gwneud hynny.

Er bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a’r gymuned, rydym yn benderfynol o gefnogi gweithwyr a busnesau yn y diwydiant dur yng Nghymru, beth bynnag fydd yn digwydd.

Mae cwmni peirianneg Grŵp JES sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot yn ail-hyfforddi cyn weithwyr dur ym Mhort Talbot i fod yn weldwyr, ac mae rhai ohonynt wedi gallu cael arian gan gronfa’r Bwrdd Pontio.

Meddai Curtis Reece, Hyfforddwr Weldio ar gyfer Academi JES:

Mae’r sector adnewyddu yn datblygu’n gyflym, ac nid oes yna ddigon o bobl ar gael gyda’r sgiliau angenrheidiol.

Mae JES yn gobeithio y gallwn helpu cymaint o bobl â phosibl o Tata i gael swyddi newydd.

Mae weldio yn swydd alwedigaethol werth chweil ac yn yrfa dda a all arwain at gymaint o wahanol lwybrau.

Dyma’r trydydd tro i’r Bwrdd Pontio gyhoeddi bod arian ar gael. Ynghyd â’r cyhoeddiad cychwynnol am gefnogi busnesau yn y gadwyn gyflenwi i ddod o hyd i farchnadoedd newydd ac i weithwyr yr effeithir arnynt gael eu hail-hyfforddi, sydd heddiw wedi cael ei ddyblu, ym mis Tachwedd mi wnaeth Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi y byddai cronfa dechrau, tyfu a chadernid busnes gwerth £13 miliwn yn cynnwys:

  • Cronfa dechrau busnes a fydd yn galluogi gweithwyr Tata Steel, aelodau agos o’u teuluoedd, a phobl yn y gadwyn gyflenwi i gael cymorth ac arweiniad, ac i gael mynediad at grantiau. Bydd pobl sy’n awyddus i sefydlu cwmnïau newydd yn gallu cael mynediad at grantiau nad oes rhaid iddynt eu had-dalu o hyd at £50,000.  

  • Cronfa newydd ar gyfer tyfu busnes i gefnogi cwmnïau sydd eisoes wedi’u sefydlu ac sy’n ceisio tyfu yn yr economi leol. Bydd grantiau rhwng £25,001 a £300,000 ar gael, wedi’u teilwra i anghenion penodol pob busnes.

  • Cronfa cadernid busnes sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i fusnesau lleol y mae’r newidiadau parhaus yn Tata Steel yn effeithio arnynt, er mwyn eu galluogi i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, creu swyddi newydd a dod o hyd i gyfleoedd mewn sectorau newydd gyda grantiau’n amrywio o £2,500 i £50,000.

Mae’n golygu bod cyfanswm o £42.8 miliwn o gymorth wedi’i neilltuo yn awr gan y Bwrdd Pontio ers mis Gorffennaf.

Gall busnesau neu unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud cais am arian ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel a gallant anfon neges e-bost i [email protected]. Mae’r Hwb Gwybodaeth hefyd yn cynnwys manylion mathau eraill o gymorth sydd ar gael i weithwyr a busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau.

Ar ben y cymorth ariannol sydd wedi’i gyhoeddi, mae mwy na 50 busnes hyd yma wedi llofnodi addewid i gefnogi unrhyw weithwyr sy’n cael eu gorfodi i adael eu swyddi yn y gwaith dur.  

Mae’r busnesau, sy’n cynnwys Fintech Wales, Y Bathdy Brenhinol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, RWE Energy, Ledwood Mechanical Engineering a Pro Steel Engineering, wedi ymrwymo i roi cefnogaeth ymarferol i weithwyr sy’n amrywio o gwarantu y bydd unrhyw un sydd wedi colli swydd yn cael cyfweliad am swydd, i ddarparu hyfforddiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2024