Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn rhyddhau miliynau o bunnoedd o gyllid newydd i warchod cadwyn cyflenwi dur Port Talbot a chefnogi gweithwyr

Y cyllid hwn yw’r cyntaf i gael ei ryddhau o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

The UK Government is releasing millions in Port Talbot/Tata Steel Transition Board funding.

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei bod yn rhyddhau £13.5 miliwn o gyllid ar unwaith i gefnogi busnesau a gweithwyr y gadwyn gyflenwi y mae penderfyniad Tata Steel i newid i ddull mwy gwyrdd o greu dur wedi effeithio arnynt. 

Bydd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gwneud y cyhoeddiad heddiw (15 Awst) yn ei hail gyfarfod fel cadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot.  

Y cyllid hwn yw’r cyntaf i gael ei ryddhau o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, a bydd yn cefnogi busnesau lleol sy’n dibynnu’n fawr ar Tata Steel fel eu prif gwsmer, gan ganiatáu iddynt droi at farchnadoedd a chwsmeriaid newydd lle bo hynny’n briodol. 

Bydd arian hefyd ar gael i weithwyr y mae’r trawsnewid wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, cael gafael ar hyfforddiant, a chael sgiliau a chymwysterau mewn meysydd lle mae swyddi gwag.  

Heddiw, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd yn cyhoeddi bod dros 50 o fusnesau hyd yma wedi llofnodi addewid i gefnogi unrhyw weithiwr sydd wedi’i orfodi i adael ei swydd yn y maes gwaith dur.  

Mae’r busnesau, sy’n cynnwys Fintech Wales, The Royal Mint, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, RWE Energy, Ledwood Mechanical Engineering a Pro Steel Engineering, wedi ymrwymo i roi cymorth ymarferol i weithwyr, megis sicrwydd o gyfweliad ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo, yn ogystal â hyfforddiant. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o fanylion am yr addewid i fusnesau mewn ymweliad â Rototherm ym Mhort Talbot ddydd Iau. Mae’r cwmni yn wneuthurwr arweiniol dyfeisiau mesur tymheredd a phwysedd ledled y byd. Mae’n un o’r cwmnïau yng nghadwyn gyflenwi Tata y bydd y newid i ddefnyddio ffwrneisi arc trydan i greu dur yn effeithio arno. 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ailosod y berthynas gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r berthynas gydag undebau a phartneriaid lleol eraill, i weithio gyda’i gilydd i gyflawni ar gyfer y gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.    

Bydd negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a Tata Steel ynghylch dyfodol gwaith Port Talbot yn parhau ar wahân.  

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:  

Dan y llywodraeth hon, mae’r Bwrdd Pontio wedi symud o drafod i ddarparu. Mae’r £13.5m o gyllid cychwynnol sy’n cael ei ryddhau heddiw yn dangos ein bod yn benderfynol o weithredu i gefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, undebau a’r gymuned ehangach.   

Bydd negodiadau gyda Tata Steel ar ddyfodol y safle yn parhau ar wahân. Ond ni fydd y llywodraeth hon yn aros am argyfwng cyn gweithredu. Rydym yn gosod rhwyd diogelwch i sicrhau ein bod yn gallu bod yn gefn i weithwyr a busnesau, ni waeth beth fydd yn digwydd.  

Rydym hefyd yn manteisio ar haelioni’r gymuned leol, gyda llawer o gyflogwyr hyd yma’n addo cymorth ymarferol i weithwyr. Creu dur yw anadl einioes cymunedau Cymru, ac mae cefnogaeth busnesau lleol yr un mor allweddol. Bydd yr hyn maen nhw’n ei gynnig yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gyflenwyr a staff.” 

Dywedodd Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach: 

Mae’r cyllid hwn yn gam pwysig at gefnogi’r gweithwyr y mae newid Tata Steel yn effeithio arnynt, yn ogystal â busnesau yn y gadwyn gyflenwi ehangach. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag undebau llafur a’r diwydiant i sicrhau bod y newid i ddull gwyrdd o greu dur yn addas i’r economi, ein gweithlu talentog a chymunedau lleol am genedlaethau i ddod, ac mae ein negodiadau gyda Tata yn parhau.”   

Dywedodd Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm: 

Rydym yn rhan o gymuned gefnogol iawn ym Mhort Talbot ac rydym yn falch o gynnig cymorth i unrhyw weithiwr yn Tata Steel ac unrhyw gyflenwyr y mae hyn wedi effeithio arnynt. 

Rwy’n credu, os bydd busnesau eraill fel ein busnes ni yn yr ardal yn gallu dod at ei gilydd, gallwn gynnig llawer o gymorth ymarferol a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl a’r gadwyn gyflenwi sydd wedi’i heffeithio.” 

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau’n fuan ar sut gall busnesau lleol a gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt gael gafael ar y cyllid cychwynnol o £13.5 miliwn gan y Bwrdd Trawsnewid. 

Eglurodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd y bydd y Bwrdd Pontio yn bartneriaeth gyfartal rhwng cynrychiolwyr gwleidyddol, busnesau ac undebau o hyn ymlaen.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Awst 2024