Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn achub chwe man cymunedol hanfodol rhag cau yng Nghymru

Mae chwe ased cymunedol hanfodol yng Nghymru wedi cael eu hachub rhag cau, diolch i £3.1m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Capel y Tabernacl sign

Mae chwe ased cymunedol hanfodol yng Nghymru, fel tafarndai lleol, lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau pêl-droed, wedi cael eu hachub rhag cau, diolch i £3.1m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw [23 Mawrth 2024].  

Bydd y buddsoddiad hwn gan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn sicrhau bod y sefydliadau gwerthfawr hyn yn cael eu gwarchod, gan sicrhau y byddant o gwmpas am genedlaethau i ddod.  Bydd y cyllid hwn yn cynnal mwy o fannau cymunedol i bobl eu mwynhau, gan helpu i gryfhau economïau lleol yn ogystal â chyfrannu at genhadaeth ehangach y llywodraeth i dyfu’r economi. 

Ledled y Deyrnas Unedig, mae’r Adran wedi cyhoeddi £33.5m heddiw i achub dros 80 o brosiectau yn ein cymunedau.   

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yng Nghymru yn cynnwys:   

  • Clwb Pêl-droed y Rhyl: Achub y clwb pêl-droed cymunedol rhag y risg o gael eu troi allan, drwy brynu a sicrhau cae chwarae Belle Vue. O ganlyniad i’r chwistrelliad hwn o arian gan Lywodraeth y DU, bydd y grŵp yn gallu gweithredu saith diwrnod yr wythnos ac ehangu ei wasanaethau i gefnogi pobl agored i niwed a phobl anabl.    

  • Le Pub: Prynu’r adeilad sy’n gartref i Le Pub, ased cymunedol arbennig sy’n cynnal sesiynau cerddoriaeth fyw, comedi byw a sesiynau lles yng Nghasnewydd. Bydd cenedlaethau’r dyfodol o artistiaid a phobl greadigol yn elwa’n fawr o gael y ganolfan ddiwylliannol hon ar stepen eu drws.   

  • Academi Ryder: Trawsnewid Capel Penuel yn Llanrwst drwy dalu costau prynu ac adnewyddu’r theatr. Mae’r gofod celfyddydau perfformio hwn yn cefnogi plant ag anghenion ychwanegol a phobl sy’n caru theatr sydd am ddilyn gyrfa yn y celfyddydau.       

Dywedodd Jacob Young, Gweinidog y Gronfa Ffyniant Bro:    

Rydyn ni’n gwybod faint mae’r asedau cymunedol hanfodol hyn yn ei olygu i bobl ledled y wlad. Maen nhw’n achubiaeth bwysig i bobl ifanc a hŷn, ac maen nhw’n galon ein trefi, ein dinasoedd a’n pentrefi.   

Dyna pam rydyn ni’n camu i mewn i’w diogelu gyda phecyn mawr i’w hachub, felly rydyn ni’n atal y sefydliadau gwych hyn rhag cau neu gael eu colli am byth ac yn sicrhau eu bod yn parhau i fod wrth galon ein cymunedau gwerthfawr.

  Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

Rwy’n falch iawn o weld chwe phrosiect gwych arall yng Nghymru yn cael cyllid i ddiogelu’r asedau cymunedol gwerthfawr hyn ar gyfer y dyfodol. 

Mae sefydliadau lleol fel siopau pentref, tafarndai, clybiau chwaraeon, lleoliadau cerddoriaeth a neuaddau tref wrth galon bywyd cymunedol, ac mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i fuddsoddi dros £7m yng Nghymru i ddiogelu cynifer ohonynt am genedlaethau i ddod.

Dyma rai o fuddiolwyr blaenorol y cynllun yng Nghymru:   

Dywedodd Diane Gwilt, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Llety’r Barnwr:   

Dydw i ddim yn meddwl y gallwn bwysleisio digon bod yr arian wedi achub yr adeilad hwn yn llythrennol.

Gobeithio y bydd hyn (newid hen fflat yr howsgiper yn ddau lety gwyliau) yn rhoi’r sefydlogrwydd a’r cynaliadwyedd ariannol sydd ei angen ar y sefydliad i ddarparu mwy o brosiectau lleol gydag ysgolion a mwy o gyfleoedd gwirfoddoli.

Dywedodd Emyr Morris, ysgrifennydd y cwmni, Siop Gymunedol Llandyrnog Cyfyngedig:   

Heb gefnogaeth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, ni fyddem wedi gallu codi’r arian ychwanegol sydd ei angen i brynu ac adnewyddu ein siop a’n swyddfa bost yn y pentref, a byddai’r cyfleuster pwysig hwn wedi cael ei golli am byth.

Gyda chefnogaeth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, rydyn ni’n gwybod bod croeso mawr yn lleol i’n prosiect, gan fod dros 300 o unigolion wedi prynu cyfranddaliadau cymunedol i gefnogi’r ymdrech hon.

Dyma’r trydydd cyhoeddiad am gyllid o drydedd rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, gan ddod â chyfanswm y gwariant o’r pot i fwy na £103m gyda 333 o brosiectau wedi’u hachub hyd yma.    

Cefnogir prosiectau’r Alban yn y cylch hwn gyda £3.8 miliwn o gyllid, gyda £2.8 miliwn ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon a £3.1 miliwn ar gyfer Cymru. Hyd yma, mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol wedi dyfarnu cyfanswm o £17 miliwn ar gyfer 47 o brosiectau yn yr Alban; £8.1 miliwn ar gyfer 31 o brosiectau yng Ngogledd Iwerddon a dros £7 miliwn ar gyfer 24 o brosiectau yng Nghymru.   

Ers Rownd 1 y Gronfa, mae Gweinidogion wedi ariannu pob cais sydd wedi pasio’r meini prawf ar gyfer ceisiadau llwyddiannus. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r Adran ariannu’r nifer fwyaf o brosiectau. Yn y dyfodol, efallai y bydd gweinidogion yn dewis blaenoriaethu cyllid i ardaloedd sy’n cael eu tangynrychioli er mwyn helpu i unioni unrhyw anghydbwysedd rhanbarthol.  

Rownd nesaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, Rownd 4, yw’r rownd derfynol. Bydd dau gyfnod bidio yn Rownd 4 i ddyrannu’r cyllid sy’n weddill. Bydd y cyfnod bidio nesaf, Rownd 4 Cyfnod 1, yn agor ar 25 Mawrth 2024 ac yn cau ar 10 Ebrill 2024.   

DIWEDD    

Nodiadau i olygyddion:   

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2024