Llywodraeth y DU i ddod â Wi-Fi am ddim i adeiladau cyhoeddus ar draws Caerdydd
Mae deg ar hugain o adeiladau cyhoeddus yng Nghaerdydd yn mynd i gael eu gweddnewid yn ardaloedd wi-fi am ddim, diolch i fuddsoddiad gan lywodraeth y DU i hybu galluoedd digidol y wlad.
Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i ymuno â’r rhaglen lle bydd wi-fi am ddim yn cael ei osod mewn dros 1,000 o adeiladau cyhoeddus ar draws y DU.
Mae’r rhaglen yn rhan o gynllun £150 miliwn y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn ledled y DU - gyda hyd at £12.6 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghaerdydd.
Dros y misoedd nesaf, bydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau dinesig a chanolfannau busnes yn dechrau cynni Wi-Fi yn rhad ac am ddim yng Nghaerdydd.
Ymysg y lleoliadau a fydd yn elwa yw Castell Caerdydd, y Llyfrgell Ganolog, y Theatr Newydd, Neuadd Dewi Sant a Neuadd y Ddinas. Dylai fod ar gael yn yr holl leoliadau hyn erbyn mis Mawrth 2015.
Dywedodd Ed Vaizey, Y Gweinidog dros yr Economi Ddigidol:
Mae tirwedd ddigidol y DU yn mynd trwy gyfnod o welliant aruthrol ac mae’r cyfan yn rhan o gynllun economaidd hirdymor y llywodraeth. I fusnesau, ymwelwyr a’r cyhoedd yn y DU, mae cael gafael ar Wi-Fi yn ein dinasoedd yn gwbl hanfodol.
Rwyf wrth fy modd fod y cynllun hwn gan y llywodraeth yn cadw at yr amserlen ar ei gyfer. Bydd y mannau hyn yn hollbwysig ar gyfer gwneud dinasoedd y DU yn fwy deniadol byth fel mannau nid yn unig i wneud busnes ond i ymweld â nhw hefyd.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Hoffwn weld Caerdydd yn cael cysylltiad rhyngrwyd o’r radd flaenaf fel y gall busnesau, teuluoedd ac ymwelwyr fanteisio’n llawn ar ofynion cynyddol yr oes ddigidol.
Felly, mae’n newyddion gwych fod 30 adeilad cyhoeddus ar draws y ddinas yn mynd i gael wi-fi am ddim. Mae hyn yn hwb mawr i’n prifddinas a bydd yn gwneud Caerdydd yn fan mwy deniadol byth i fyw, i weithio ac i fuddsoddi ynddi.
Y dinasoedd eraill yn y DU a fydd yn manteisio ar wi-fi am ddim yw Aberdeen, Belfast, Brighton a Hove, Birmingham, Caergrawnt, Derby, Derry, Caeredin, Leeds/Bradford, Llundain, Manceinion, Rhydychen, Perth, Portsmouth a Salford