Adolygiad Cysylltedd yr Undeb yn argymell gweddnewidiadau sylweddol i gysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru
Gwell cysylltiadau ar rwydweithiau trafnidiaeth lleol a chenedlaethol i ddod â chymunedau Cymru o fewn cyrhaeddiad agosach i gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd.
- Y Prif Weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd gwella cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y DU, wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb annibynnol Syr Peter Hendy
- Mae Syr Peter Hendy yn argymell datblygu pecyn o welliannau i’r rheilffordd a’r ffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr
- Mae’r Prif Weinidog yn gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU ar brosiectau fydd yn sicrhau gwelliannau hanfodol i gysylltiadau lleol a chenedlaethol.
Heddiw (dydd Gwener 26 Tachwedd), mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ymrwymo i fwrw ymlaen a chryfhau clymau trafnidiaeth fydd yn creu DU mwy cydlynol, bywiog a chyfartal.
Wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi adroddiad terfynol Syr Peter Hendy ar Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb, mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio pwysigrwydd gwell cysylltiadau - ar rwydweithiau lleol a chenedlaethol, i allu dwyn holl gymunedau’r DU yn agosach at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd.
Mae’r Prif Weinidog wedi croesawu yn arbennig, ac yn bwriadu derbyn yr argymhelliad ar gyfer UKNET - rhwydwaith trafnidiaeth strategol sy’n rhychwantu’r DU i gyd - ac mae wedi ymrwymo cyllid o £42.5miliwn i ddechrau’r gwaith o wella’r rhwydwaith..
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:
Mae’n rhaid i ni gryfhau’r cysylltiadau rheilffordd a ffyrdd ledled Cymru os ydym am lefelu i fyny’r DU yn wirioneddol, gan wella cysylltedd trefi a dinasoedd Cymru a dod â chymunedau’n agosach at ei gilydd.
Byddwn nawr yn myfyrio ar adolygiad Syr Peter Hendy, a thrwy weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, rhoi hwb i gysylltiadau trafnidiaeth allweddol a fydd yn darparu ar gyfer pobl a busnesau Cymru ac yn dosbarthu cyfleoedd a ffyniant yn fwy cyfartal.
Dywedodd Grant Shapps yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:
Mae cysylltiadau trafnidiaeth modern a chyflym rhwng Cymru a Lloegr yn hanfodol nid yn unig ar gyfer twf economaidd a lledaenu cyfleoedd ledled y ddwy genedl wych hon, ond byddant yn cryfhau’r hyn sy’n clymu ein cymunedau at ei gilydd ac yn sicrhau bod ein buddsoddiad yn gweithio er lles pawb, a bydd yn creu Teyrnas Unedig fwy deinamig ac uchelgeisiol.
Mae fy nyled yn fawr i Syr Peter am ei waith. Byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus, yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn gweithio’n golegol i ofalu bod yr argymhellion hyn yn sicrhau gwelliannau sylweddol, yn awr ac ar gyfer y dyfodol.
Amlygodd gwaith ymchwil a wnaed ar gyfer yr adroddiad pa mor bwysig yw teithio dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda llawer o bobl yn teithio’n ddyddiol ar gyfer gwaith, i gael mynediad at wasanaethau ac am resymau hamdden. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth yn y rhanbarth hwn yn parhau i wasanaethu pawb sydd eu hangen.
Mae argymhellion Syr Peter Hendy ar gyfer Cymru yn cynnwys Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu’r ffordd sy’n cysylltu Gogledd Cymru â Gogledd Orllewin Lloegr, sy’n allweddol ar gyfer cymunedau a busnesau. Mae ef yn awgrymu y dylai pecyn o welliannau sy’n canolbwyntio ar y ffordd hon ganolbwyntio ar gysylltedd gwell rhwng HS2 a chynlluniau trydaneiddio pwysig, uwchraddio’r A55, yr M53, M56, a gwella’r daith ymlaen i Iwerddon ac yn ôl o Iwerddon, mewn hwb anferth i sicrhau cysylltedd yn yr Undeb.
Hefyd, mae Syr Peter Hendy wedi cynghori Llywodraeth y DU i gefnogi mesurau i leihau tagfeydd ar yr M4 a darparu gwelliannau wedi’u targedu ar gyffordd y M4/M5. Hefyd, mae ef yn argymell uwchraddio ac adeiladu gorsafoedd newydd ar Brif Lein Reilffordd De Cymru. Byddai hyn yn weddnewidiad sylweddol i isadeiledd trafnidiaeth De Cymru.
Mae ef hefyd yn argymell bod Llywodraeth y DU yn datblygu pecyn o welliannau rheilffordd i wella cysylltedd a lleihau amseroedd siwrneiau rhwng Caerdydd, Birmingham a thu hwnt. Gallai hyn gynnwys gwell cerbydau, newidiadau i’r amserlenni a gwell isadeiledd.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:
Mae gwella isadeiledd ffyrdd, rheilffyrdd a chludiant arall i sicrhau eu bod yn addas at y dyfodol, yn hanfodol i dwf economaidd ledled Cymru. Mae miloedd o bobl yn teithio’n ddyddiol rhwng Cymru a Lloegr felly mae’n hanfodol ein bod yn cysylltu ein cymunedau yn well ac yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer busnesau a theithwyr.
Mae cyflymu gwasanaethau rheilffordd, uwchraddio’r ffyrdd a hybu cysylltedd oll yn ffurfio rhan o’n cynlluniau i lefelu cymunedau er gwell, cryfhau’r DU a hyrwyddo creu swyddi newydd ym mhob rhan o Gymru a’r DU.
Dywedodd Syr Peter Hendy, Cadeirydd Annibynnol yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb:
Mae fy argymhellion yn cynnwys cynlluniau cynhwysfawr, cyraeddadwy ac eglur i gysylltu’r holl DU yn well, fydd yn arwain at fwy o dwf, swyddi, tai a chydlyniant cymdeithasol.
Rwy’n croesawu brwdfrydedd y Prif Weinidog a’r Llywodraeth dros fy adroddiad terfynol ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu hymateb ffurfiol i’m hargymhellion. Y nod yw lledaenu cyfleoedd a sicrhau ffyniant ledled y DU.
Lansiwyd yr Adolygiad annibynnol o Gysylltedd yr Undeb ym mis Hydref 2020, dan arweiniad Syr Peter Hendy CBE, i ganfod sut gall adolygiad manwl ar safon ac argaeledd isadeiledd trafnidiaeth ledled y DU gefnogi twf economaidd a safon byw. Bu i Syr Peter gydweithredu gyda rhanddeiliaid ledled y DU, gan gynnwys Cymru ar gyfer llunio’r Adolygiad Terfynol.
Ymhlith yr argymhellion cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw y mae:
- Dylai Llywodraeth y DU gynllunio a gweithredu UKNET – rhwydwaith trafnidiaeth strategol ar gyfer yr holl DU ac ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i wella’r rhwydwaith, yn arbennig y rhannau nad ydynt yn perfformio’n dda, gydag ymrwymiadau cyllid yn cael eu targedu at rannau o’r rhwydwaith sydd angen eu gwella fwyaf;
- Dylai Llywodraeth y DU gynllunio gwelliannau i’r rhwydwaith gan ddefnyddio coridorau aml-foddol y dylid eu hadolygu a’u harfarnu yn rheolaidd ar sail economaidd ehangach i gefnogi amcanion y llywodraeth fel canmol eu gallu i gefnogi’r agenda lefelu er gwell, a net sero;
- Dylai Llywodraeth y DU gefnogi datblygiad adeiladau tanwydd awyrennau mwy cynaliadwy yn rhannau o’r DU sy’n arbennig o ddibynnol ar awyrennau er sicrhau cysylltedd domestig o fewn y DU.
Bydd Llywodraeth y DU nawr yn ystyried Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb yn ofalus. Hefyd, gwahoddwyd Llywodraeth Cymru i weithio’n agos ar hyn i ganfod yr atebion fydd yn gweithio orau dros y Cymry a gweddill y DU a gwneud cynnydd gwirioneddol a phwrpasol cyn gynted â phosibl.