Bil Cymru yn derbyn Cydsyniad Brenhinol
Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru: “Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru.”
Derbyniodd Bil Cymru Gydsyniad Brenhinol heddiw (17 Rhagfyr), sy’n gymhelliant cryf i Lywodraeth Cymru roi hwb i economi Cymru a chryfhau ei hatebolrwydd ariannol a’i thryloywder.
Mae’r Bil yn datganoli amrywiol bwerau treth a benthyca i Gymru gan gynnwys treth tirlenwi, treth stamp ar dir, ac yn dibynnu ar refferendwm, elfen o dreth incwm.
Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru bellach yn atebol am godi rhywfaint o’r arian y bydd yn ei wario a bydd ganddi’r adnoddau angenrheidiol i roi hwb i economi Cymru, er budd pobl Cymru.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru.
Bydd y Cydsyniad Brenhinol ar gyfer Bil Cymru heddiw yn helpu i greu setliad datganoli cadarn a pharhaus i Gymru.
Mae’n golygu bod Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am yr arian y bydd yn ei wario ac yn gyfrifol am godi cyfran o’r arian hwnnw hefyd am y tro cyntaf.
Mae nawr yn bwysig eu bod yn defnyddio’r pwerau ariannol newydd hyn i’r eithaf a chyn gynted â phosib er mwyn helpu i roi hwb i economi Cymru a’i helpu i gryfhau.
Aeth y Bil drwy’r cam olaf yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf, ar ôl mynd drwy’r camau yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 24 Tachwedd.
Mae Mr Crabb wedi nodi dyddiad uchelgeisiol, sef Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf, ar gyfer cyhoeddi canllaw ar gyfer newid y modd y caiff Cymru ei llywodraethu.