Rhaid i fedrusrwydd technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru ehangu'n fyd-eang
Alun Cairns yn casglu arweinwyr o ‘Silicon Valley’ Cymru ynghyd i drafod potensial rhyngwladol y sector
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru yn cyhoeddi heddiw ei bod hi’n bryd hyrwyddo medrusrwydd arloesol Cymru ym maes technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn fyd-eang, wrth i arweinwyr o ‘Silicon Valley’ Cymru ddod ynghyd i drafod cynnydd yng Nghasnewydd (18 Mehefin).
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth wraidd y dyfeisiau uwch dechnoleg rydym yn eu defnyddio heddiw. O ffonau clyfar i ddyfeisiau tabled, o gyfathrebu lloeren i systemau lleoli byd-eang (GPS), bydd y dechnoleg yn parhau i effeithio ar sut rydym yn byw, yn gweithio ac yn treulio ein hamser hamdden.
Mae gan Gymru eisoes gryn dipyn o arbenigedd uwch ym maes lled-ddargludyddion ar ffurf IQE, SPTS Technologies, Newport Wafer Fab a Microsemi, sydd, gyda’u partneriaid academaidd a chymwysiadau lled-ddargludyddion cyfansawdd Catapult sydd wedi cael £50 miliwn gan Lywodraeth y DU, yn ffurfio clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd (Clwstwr CS) sef CS-Connected.
Bydd Mr Cairns yn cynnal y cyfarfod yn Newport Wafer Fab - y ganolfan lled-ddargludyddion fwyaf yn y DU a Ffowndri sglodion y Clwstwr CS - lle bydd yn herio arbenigwyr y diwydiant yng Nghymru i archwilio a manteisio ar gyfleoedd rhyngwladol ar gyfer y sector. Bydd hefyd yn gofyn am eu barn ar sut y gall Llywodraeth y DU weithio gyda’r clwstwr i farchnata arbenigedd Cymru yn y dechnoleg ledled y byd.
Bydd Richard Burn, Comisiynydd Masnach EM dros Tsieina, yn bresennol yn y cyfarfod. Mae’n ymweld â Chymru i weld gyda’i lygaid ei hun fod ei harbenigedd yn y sector yn tyfu yn dilyn ei gyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol yng Ngŵyl Arloesi GREAT yn Hong Kong. Wrth i’r DU baratoi ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol gyda gwledydd ar draws y byd, mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi penodi Comisiynwyr Masnach ar gyfer naw ardal ddaearyddol ledled y byd i hyrwyddo masnach Prydain gyda rhai o bartneriaid economaidd mwyaf y DU.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Os ydyn ni am i Gymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro uwch dechnoleg, mae angen i ni anelu’n uwch - ac mae’n rhaid i’n gweledigaeth fod yn un fyd-eang. Dyna pam mae’n bleser gen i groesawu Comisiynydd Masnach EM dros Tsieina i Gasnewydd heddiw.
Yn ystod ein cyfarfod yng Ngŵyl Arloesi GREAT yn Hong Kong yn gynharach eleni, cefais gyfle i arddangos sut gall enw da Cymru am ragoriaeth arloesi sicrhau troedle masnachu cadarn i’r DU ar gyfer dyfodol ar ôl Brexit.
Ond yr her nawr yw manteisio ar y cyfleoedd hynny a defnyddio’r sgiliau unigryw sydd yma yn ne Cymru. Rydw i am glywed syniadau cadarn heddiw ar sut dylem ni ddatblygu’r clwstwr hwn a marchnata’r holl arbenigedd sydd gennym ni ar lwyfan fyd-eang.
Dywedodd Dr Drew Nelson, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol IQE plc:
Mae technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn prysur ddod yn rhan allweddol o’r diwydiant lled-ddargludyddion byd-eang (sy’n werth dros 400 biliwn o ddoleri UDA y flwyddyn), gan alluogi sglodion cyflymach a mwy pŵer-effeithlon i gael eu creu sy’n gallu gwneud mwy o bethau, ac sydd hefyd yn manteisio ar nodweddion anhygoel goleuni. Mae’r DU bob amser wedi bod yn gadarn wrth fynd ati i ddatblygu technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd, ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn adeiladu Clwstwr Lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y Byd (CS-Connected) i gyflawni potensial masnachol llawn y DU.
Mae cwmnïau CS-Connected felly wrth eu bodd bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod pwysigrwydd y sector, nid yn unig ar gyfer dyfodol Strategaeth Ddiwydiannol newydd y DU, ond yn fyd-eang ar draws bron bob prif ddiwydiant diwydiannol, defnyddwyr, gofal iechyd a chyfathrebu. Rydyn ni wir yn croesawu ei gyfranogiad i helpu i hyrwyddo Clwstwr CS cyntaf y Byd yn Rhyngwladol, i ddangos prif fanteision cydweithio rhwng y Diwydiant a’r Llywodraeth. Bydd cefnogaeth strategol lawn y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn allweddol i alluogi’r clwstwr i ehangu.
Rydyn ni’n datblygu eiddo deallusol sy’n torri tir newydd ym maes technoleg a fydd yn sylfaen i’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Gan weithio fel cydweithfa unigryw, credwn yn gryf y gallwn greu miloedd ar filoedd o swyddi uwch dechnoleg yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, gan gynyddu GVA yn sylweddol, a galluogi llawer o’n cwmnïau partner diwydiannol i gyflwyno cynhyrchion arloesol yn seiliedig ar Led-ddargludyddion Cyfansawdd i’r farchnad fyd-eang, gan wneud y DU yn fwy cystadleuol yn rhyngwladol.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau byd-eang ar gyfer y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd, mae angen i’r Llywodraeth a busnesau weithio law yn llaw. Dyna yw hanfod ein Strategaeth Ddiwydiannol Fodern.
Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i osod y sylfeini a datblygu’r cysylltiadau rhyngwladol - gan agor drysau a chael gwared ar y rhwystrau.
Ond yn y pen draw ein pobl fusnes fentrus fel y rheini sydd yma heddiw fydd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd newydd hynny.
Gwybodaeth am Gomisiynwyr Masnach EM
Bydd holl Gomisiynwyr Masnach newydd EM yn cydweithio’n agos ag Uwch Gomisiynwyr a Llysgenhadon EM, y rhwydwaith diplomyddol ehangach, a chydweithwyr eraill Llywodraeth EM sy’n gweithio mewn gwledydd yn eu rhanbarth, mewn ymdrech gydgysylltiedig a chydlynol gan y llywodraeth i hyrwyddo masnach a ffyniant y DU dramor.
Nodiadau i’r golygyddion:
Bydd Comisiynwyr Masnach EM yn cwmpasu naw ardal ddaearyddol i gyd:
- Affrica
- Asia’r Pasiffig
- Tsieina
- Rhwydwaith Dwyrain Ewrop ac Asia Ganol
- Ewrop
- America Ladin
- Y Dwyrain Canol
- Gogledd America
- De Asia