Gweinidog Swyddfa Cymru yn llongyfarch Tîm Cymru wrth i Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2014 gloi
Y Farwness Randerson: "O ystyried mor fach yw Cymru, rydym yn cyrraedd uwchlaw'r disgwyl o dipyn ym maes chwaraeon."
Y Farwnes Randerson yn teithio i Glasgow ddydd Sadwrn i fynychu rownd derfynol y paffio gydag aelodau o Dîm Cymru ac i fynychu’r Seremoni Gloi.
Wrth siarad cyn ei hymweliad, dywedodd y Farwnes Randerson:
Rwyf wrth fy modd o fod yn Glasgow ar gyfer seremoni gloi Gemau llwyddiannus iawn ac i gael y cyfle i gwrdd ag athletwyr o Tîm Cymru i’w llongyfarch yn bersonol.
O ystyried mor fach yw Cymru, rydym yn cyrraedd uwchlaw’r disgwyl o dipyn ym maes chwaraeon. Hoffwn longyfarch bob aelod o Tîm Cymru ar eu hymdrechion yn ystod y Gemau ac, yr un mor bwysig, eu hymdrechion wrth baratoi ar gyfer y Gemau. Mae eu hymrwymiad a’u hymroddiad wedi cael ei wobrwyo gyda Tîm Cymru nid yn unig yn cyrraedd, ond yn mynd y tu hwnt, i’w targed medalau.
Rwy’n siwr y bydd llwyddiant Tîm Cymru yn ysbrydoli Cymru fel cenedl, yn enwedig ein pobl ifanc, i gymryd rhan fwy mewn chwaraeon ac yn ysbrydoli rhai i gynrychioli Cymru yn y Gemau yn y dyfodol.