Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi cyflwyno Bil Caethwasiaeth Modern
Bil blaengar i’w gyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May
Heddiw, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru Farwnes Randerson ddeddfwriaeth newydd gadarn gan lywodraeth y DU i roi terfyn ar gaethwasiaeth modern fel rhan o’i hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr masnachu pobl a chaethwasanaeth domestig.
Bydd y Bil – y cyntaf o’i fath yn Ewrop – yn cryfhau’r pwerau i atal caethwasiaeth modern a masnachu pobl, gan wella’r gefnogaeth a’r a’r amddiffyniad i ddioddefwyr.
Yn ddiweddar, bu’r Farwnes Randerson yn ymweld â Heddlu Gwent i weld drosti’i hun y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn y DU.
Derbyniodd y wybodaeth ddiweddaraf am waith Operation Imperial – uned a sefydlwyd i ymchwilio i droseddau honedig o gaethwasiaeth a chaethwasanaeth, a’r ymchwiliad mwyaf o’i fath yn y DU. Mae’r ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed a chafwyd arestiadau.
Dywedodd Farwnes Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae caethwasiaeth modern a masnachu pobl yn droseddau ffiaidd. Maent yn droseddau sy’n anweledig yn aml ac yn digwydd ar ffyrdd a strydoedd tawel ledled byd, ac fel y gwelsom yn ddiweddar, ar ein trothwy ni ein hunain yma yng Nghymru.
Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn galw am ymdrech gydlynol a diflino ar draws y llywodraeth a gorfodaeth y gyfraith, yn ogystal ag ymwybyddiaeth gynyddol o fewn ein cymunedau.
Mae cyhoeddi’r Bil hwn yn dangos yn glir ymrwymiad cadarn y llywodraeth o ran cefnogi dioddefwyr a rhoi terfyn ar gaethwasiaeth modern.
Bydd yn atgyfnerthu deddfwriaeth bresennol ac yn ei gwneud yn fwy gwydn, gan olygu y bydd y DU yn amgylchedd gelyniaethus i gaethfeistri modern ac yn sicrhau fod troseddwyr yn derbyn cosbau llym a phriodol am eu troseddau ffiaidd.
I gael mwy o wybodaeth am y Bil Caethwasiaeth Modern cliciwch yma
Gwybodaeth
-
I weld hysbysiad i’r wasg gan y Swyddfa Gartref cliciwch yma
-
Caiff y Bil ei gyhoeddi ar-lein yma ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen y Bil yma
-
Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth, llafur gorfodol a chaethwasanaeth domestig. Mae ffigurau’r Asiantaeth Troseddau Genedlaethol ar gyfer 2013 yn dangos bod y Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (NRM) wedi derbyn 1,746 o gyfeiriadau ynghylch dioddefwyr masnachu posibl. Y gwledydd a oedd yn gyfrifol am y nifer mwyaf o ddioddefwyr posibl a gyfeiriwyd at yr NRM am gefnogaeth ac amddiffyniad oedd Albania, Nigeria, Fietnam a Romania.
-
Craffwyd yn helaeth ar ddull gweithredu’r Llywodraeth o ran mynd i’r afael â chaethwasiaeth modern, a darpariaethau’r Bil. Ar gais yr Ysgrifennydd Cartref, cadeiriodd Frank Field AS sesiynau tystiolaeth ar gaethwasiaeth modern yn Hydref 2013. Cyhoeddwyd Bil drafft i alluogi craffu cyn deddfu. Galwodd cydbwyllgor y Bil drafft am dystiolaeth, clywodd dri ar ddeg o ddyddiau o sesiynau tystiolaeth lafar, ac adroddodd ar 8 Ebrill 2014.
-
I gyd-fynd â’r Bil, mae’r Llywodraeth yn cymryd camau anneddfwriaethol i fynd i’r afael â chaethwasiaeth modern. Mae hyn yn cynnwys:
- treialu eiriolwyr plant i roi cefnogaeth wedi’i theilwra’n fwy penodol i blant sy’n ddioddefwyr masnachu
- sefydlu timau diogelu a gwrth-fasnachu arbenigol ac amlasiantaeth ar y ffin
- adolygu’r gefnogaeth y mae dioddefwyr yn ei derbyn – drwy’r Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol a’r contract gofalu am ddioddefwyr
- gwneud caethwasiaeth fodern yn flaenoriaeth ar gyfer yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol (NCA). Bydd yr NCA yn defnyddio’i swyddogaethau o ran cudd-wybodaeth, tasgau a chydlynu i adeiladu darlun mwy cynhwysfawr o’r bygythiad.