Gweinidog Swyddfa Cymru’n mwynhau’r arloesol a’r hanesyddol ar ymweliad ag Aberystwyth.
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn gweld â’i llygad ei hun sut mae Aberystwyth yn datblygu’n gyflym i fod yn ganolbwynt ar gyfer gwyddoniaeth, arloesi a threftadaeth yn ystod ymweliad â’r dref brifysgol yr wythnos hon (dydd Gwener 1 Tachwedd).
Yn y diweddaraf o’i hymweliadau â chyfleusterau addysg uwch Cymru, bydd y Farwnes Randerson yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, lle bydd yn cwrdd â’r Is-Ganghellor yr Athro April McMahon a’r Dirprwy Is-gangellorion, i glywed sut mae’r Brifysgol yn dal i ffynnu a chynnal ei lle fel arweinydd ym maes ymchwil ryngwladol. Mae gan y cyfleuster hanes hynod o gyflawni ymchwil flaengar mewn ystod helaeth o feysydd, a’r gamp honno’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Wedyn, bydd y Farwnes Randerson yn ymweld â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar Gampws y Brifysgol yng Ngogerddan.
Bydd Cyfarwyddwr IBERS, Wayne Powell, yn tywys y Farwnes Randerson o amgylch y ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol fel canolfan unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i sialensiau byd-eang megis diogelwch bwyd, cynaliadwyedd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae IBERS yn gweithio gyda gwyddonwyr o Brifysgol Bangor, yn ymchwilio a dylanwadu ar bolisi ynglŷn â’r economi wledig a chymunedau gwledig. Mae’n cydweithio’n glos â rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod yr ymchwil a gynigia yn berthnasol ac mae ganddo bwyslais mawr ar ddefnyddio ei ymchwil i sicrhau bod diwydiannau’r tir yn dod yn fwy cynaliadwy.
Gyda 360 o aelodau staff, IBERS yw’r Sefydliad mwyaf o fewn Prifysgol Aberystwyth, gan addysgu 1350 o israddedigion a dros 150 o ôl-raddedigion.
Cyhoeddodd y Gweinidog Busnes Arloesi a Sgiliau, David Willetts, ym mis Gorffennaf y bydd Campws Arloesi ac Ymchwil DU newydd yn cael ei leoli ar y safle hwn. Bydd Campws Arloesi ac Ymlediad Aberystwyth, gyda chefnogaeth £14.5 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, yn cynnwys canolfan hyfforddiant â ffocws masnachol, a bydd yn galluogi nifer o adrannau o fewn y Brifysgol i weithio gydag IBERS i ddatblygu’r bio-economi.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson:
Clywais bethau mawr a chyffrous am Brifysgol Aberystwyth a’i Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig pan ymwelais â Sioe Frenhinol Cymru’n gynharach yn y flwyddyn.
Rwy’n awyddus i weld sut mae IBERS a champws Gogerddan yn datblygu yn dilyn y cyllid gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
Mae’r brifysgol, ac IBERS yn benodol, yn gwneud cyfraniad aruthrol at economi Cymru drwy ddatblygu sgiliau mewn maes sy’n datblygu, ac mae’n gosod Cymru’n gadarn ar y map. Rwy’n gobeithio clywed sut mae’r cyllid wedi creu swyddi ac mae eisoes wedi dangos arwyddion o roi hwb i’r economi.
Mae IBERS yn denu sylw rhyngwladol gyda’r gwaith a wna yn ei ganolfan ymchwil ac addysgu. Mae’n parhau i ddarparu canolfan unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i sialensiau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Dywed yr Is-Ganghellor, April McMahon:
Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r Farwnes Randerson i Aberystwyth. Mae gan y Brifysgol stori wych i’w hadrodd.
Mae’r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol newydd yng Ngogerddan yn adlewyrchu’r uchelgais sydd gennym fel Prifysgol i gyfrannu fel canolfan ragoriaeth ryngwladol, o ran ymchwil yn ogystal ag o ran ysbrydoli cenhedlaeth newydd o raddedigion sydd wedi’u hyfforddi at safon aruchel ac sydd wedi’u harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â rhai o’r sialensiau amgylcheddol mwyaf dyrys brys y mae cymdeithas yn eu hwynebu.
Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn buddsoddi £100m pellach mewn gwella ac ehangu ein cyfleusterau preswyl ac addysgu – cyfleusterau sydd eisoes yn ardderchog.
Mae’n wych bod y Farwnes Randerson wedi llwyddo i ganfod amser yn ei hamserlen brysur i gwrdd â staff a myfyrwyr y Brifysgol, ac i glywed am ein hagenda uchelgeisiol.
Rydym yn gobeithio y bydd yn cael bore a fydd yn rhoi mwynhad ac ysbrydoliaeth iddi.
Dywed Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:
Rydym wrth ein bodd yn gwahodd y Farwnes Randerson i IBERS Gogerddan, Sefydliad a noddir gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnegol a Biolegol, a chartref newydd Campws Arloesi ac Ymlediad Prifysgol Aberystwyth – campws a fydd yn creu cyfle sylweddol i ymgysylltu â diwydiant a sbarduno’r economi. Mae’r cyfleuster Ffenomeg Planhigion Cenedlaethol wedi’i leoli yma – yr unig un o’i fath yn y DU, a bydd y Farwnes yn gweld sut yr ydym yn defnyddio technoleg flaengar ym maes geneteg planhigion i dyfu cnydau tanwydd a bwyd y dyfodol.
Bydd y Farwnes Randerson wedyn yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle bydd yn cael taith o amgylch yr Uned Ddigideiddio yng nghwmni Arwel Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyhoeddus. Yma, bydd yn cwrdd â’r tîm addysg a fydd yn dangos iddi sut y maent yn cynnal y Llyfrgell a sut y maent yn addysgu ac yn helpu aelodau’r cyhoedd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i filoedd o lyfrau, llawysgrifau ac archifau, mapiau, lluniau, ffotograffau, ffilmiau a cherddoriaeth am Gymru yn ogystal â gweddill y byd.
Ychwanegodd y Farwnes Randerson:
Byddaf hefyd yn cael cyfle i weld Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r amrywiaeth helaeth o lyfrau a llawysgrifau sydd yno - dylem ymhyfrydu’n fawr yn y casgliad arwyddocaol o ddeunydd sydd gennym yn Aberystwyth.
Hoffwn annog mwy o bobl i ymweld â’n Llyfrgell Genedlaethol, a defnyddio ei hadnoddau cyfoethog.
Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Sahar Rehman ar 0207 270 1362/ [email protected]
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Tachwedd 2013 + show all updates
-
updated the image
-
Added translation
-
First published.