Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost
Stephen Crabb, Jenny Randerson ac Alun Cairns yn coffáu Diwrnod Cofio’r Holocost.
Heddiw (27 Ionawr) bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru Stephen Crabb, Alun Cairns a Jenny Randerson yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Mae’n 70 mlynedd eleni ers rhyddhau pobl o wersyll Auschwitz-Birkenau ac yn 20 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica, Bosnia.
Bydd Stephen Crabb ac Alun Cairns yn llofnodi Llyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n cael ei lofnodi gan gannoedd o Aelodau Seneddol bob blwyddyn fel addewid i frwydro yn erbyn rhagfarn a chasineb.
Bydd Jenny Randerson yn mynychu digwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost yn Neuadd Ganolog San Steffan.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:
Mae hwn yn gyfle pwysig i gofio’r sawl a ddioddefodd yn yr Holocost a’r sawl a oroesodd, a sicrhau nad ydynt yn mynd yn angof.
Yn drist iawn, fel y mae digwyddiadau diweddar wedi dangos, mae agweddau gwrth-Iddewiaeth a chulni o fathau eraill yn dal i fodoli heddiw, a byddwn yn gofyn i bobl ym mhob cwr o Gymru nodi’r diwrnod ac ymuno yn y frwydr yn erbyn rhagfarn, anoddefgarwch ac eithafiaeth.
Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i godi llais a herio gwahaniaethu ac erledigaeth pan fyddwn yn gweld hynny.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu Mr Crabb â’r Rabi Michael Rose yn Synagog Unedig Caerdydd i drafod y bygythiad a wynebir yn sgil eithafiaeth ac i weld sut y gall Llywodraeth y DU weithio â sefydliadau i helpu i warchod pobl yng Nghymru. Hefyd, bu Mr Crabb mewn gwasanaeth aml-ffydd yn sir Benfro i nodi 70 mlynedd ers rhyddhau pobl o wersyll Auschwitz-Birkenau.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Jenny Randerson:
Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rydym yn cofio dioddefaint a llofruddiaeth miliynau o Iddewon ac eraill a fu farw yn y getos ac yn y gwersylloedd lladd dan law’r Natsïaid.
Rhaid i ni gofio hefyd y bobl a ddioddefodd mewn achosion eraill o hil-laddiad ym mhob cwr o’r byd gan gynnwys y miloedd a laddwyd yng nghyflafan Srebrenica.
Mae’n rhaid i ni gofio’r digwyddiadau erchyll hyn er mwyn deall yn well beth sy’n gallu digwydd pan na fyddwn yn mynd i’r afael â chasineb a rhagfarn, ac yn gadael i gasineb ac anoddefgarwch ennill tir.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Wrth i ni goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost a’r bobl sydd wedi dioddef ac wedi goroesi achosion o hil-laddiad ym mhob cwr o’r byd, mae’n bwysig ein bod yn cadw eu hanes yn fyw ac yn parhau i weithio i greu cymdeithas fwy cyfiawn.
Mae llawer o bobl wedi dianc rhag cael eu herlid ac wedi ymgartrefu yng Nghymru. Felly, mae dyletswydd ar bob un ohonom i sylweddoli bod gennym rôl i’w chwarae o ran meithrin goddefgarwch a dealltwriaeth ar draws ein cymunedau.
Mae’n hollbwysig bod y gwersi a ddysgwyd o’r Holocost yn cael eu dysgu heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.