Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cymryd rhan mewn gwasanaethau Dydd y Cofio yng Nghaerdydd a Llundain
Gweinidogion Swyddfa Cymru Stephen Crabb, Alun Cairns a’r Farwnes Randerson yn cymryd rhan mewn gwasanaethau Dydd y Cofio yng Nghaerdydd ac yn Llundain
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb a Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn cymryd rhan mewn gwasanaethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain fel rhan o ddigwyddiadau Dydd y Cofio.
Yn gynharach yn yr wythnos, ar ddydd Mercher, 5 Tachwedd, bu Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, mewn gwasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd, gan blannu croes bren gyda theyrnged bersonol arni.
Ar Sul y Cofio, ar 9 Tachwedd, bydd Stephen Crabb yn gosod torch wrth Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd.
Yn ei neges Dydd y Cofio, dywedodd Mr Crabb:
Y Sul y Cofio hwn, rydyn ni’n nodi can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Collodd deugain mil o Gymry eu bywydau rhwng 1914 ac 1918, a rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r aberth enfawr a wnaeth y dynion a’r menywod hynny i ddiogelu ein rhyddid.
Mae’r teyrngedau sy’n cael eu rhoi ledled Cymru heddiw’n dangos ein bod yn ddiolchgar iawn am yr aberth a wnaethon nhw a’r rheini mewn gwrthdaro diweddarach.
Yn ogystal â chofio am bawb a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd, eleni, byddaf hefyd yn meddwl am y dynion a’r menywod o Gymru sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl gwasanaethu yn yr ymgyrch tair blynedd ar ddeg i fynd i’r afael â therfysgaeth yn Afghanistan.
Rwy’n diolch am iddyn nhw ddychwelyd adref yn ddiogel, ac yn anrhydeddu cof y rheini, yn drist iawn, a gollodd eu bywydau. Mae heddiw hefyd yn amser i feddwl am y gwrthdaro sy’n digwydd ar hyn o bryd, a chofio am y rheini sy’n dal i amddiffyn ein gwerthoedd ar draws y byd.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae dynion a menywod o Brydain yn peryglu eu bywydau bob dydd i sicrhau bod ein gwlad a’r byd yn fannau mwy diogel i fyw ynddyn nhw.
A hithau’n ganmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae’n bwysig ein bod yn oedi am funud i gofio am yr aberth y mae ein Lluoedd Arfog wedi’i wneud dros y degawdau, ac y maen nhw’n dal i’w wneud, mewn gwrthdaro a therfysgoedd ar draws y byd heddiw.
Wrth ystyried y gwasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru, dywedodd Mr Cairns:
Roedd cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn, a oedd yn agor Maes Coffa Cenedlaethol Cymru i’r cyhoedd, yn brofiad emosiynol ac roedd yn fraint cael cymryd rhan.
Mae Maes Coffa Cenedlaethol Cymru’n rhywle tawel i’r cyhoedd ystyried a phwyso a mesur aberth sylweddol y dynion a’r menywod o Gymru, Prydain a’r Gymanwlad sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Bu dros 270,000 o filwyr o Gymru – 10% o boblogaeth Cymru – yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.