Datganiad i'r wasg

Bwlch cynhyrchiant Cymru ar frig yr agenda wrth i Ysgrifennydd Cymru groesawu'r Bwrdd Cynghori ar yr Economi

Stephen Crabb yn cynnal cyfarfod yn General Dynamics UK

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Cau bwlch cynhyrchiant Cymru oedd canolbwynt y trafodaethau ymysg cynrychiolwyr busnes Cymru yng nghyfarfod Bwrdd Cynghori ar yr Economi Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (19 Tachwedd).

Wrth gadeirio ei gyfarfod cyntaf ers yr Etholiad Cyffredinol, croesawodd Mr Crabb aelodau’r grŵp i General Dynamics UK yn Nhrecelyn. Heriwyd y rhai a oedd yn bresennol i gynnig atebion posibl ar sut gall Cymru leihau’r bwlch cynhyrchiant sy’n bodoli rhyngddi a gweddill y Deyrnas Unedig.

Ym mis Gorffennaf eleni, lansiodd y Llywodraeth ei Chynllun Cynhyrchiant, ‘Fixing the foundations’. Nod y cynllun yw gwrthdroi problem cynhyrchiant hirdymor y Deyrnas Unedig a chodi safonau byw a sicrhau gwell ansawdd bywyd i bobl Prydain. Mae’r fframwaith yn cynnwys 15 maes allweddol, wedi eu llunio o gwmpas dau biler: yn gyntaf, annog buddsoddiad hirdymor, ac yn ail, hyrwyddo economi ddeinamig.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ers 2010, mae Cymru wedi bod yn culhau’r bwlch cynhyrchiant rhyngddi hi a’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, dyma her economaidd ein cyfnod o hyd, ac mae angen ymdrech wirioneddol genedlaethol gan y llywodraeth, byd busnes a phobl sy’n gweithio.

Dim ond y sector preifat sy’n gallu cynhyrchu twf cynaliadwy, creu swyddi hirdymor a gwneud economi Cymru mor gynhyrchiol ag y gall fod. Dyna pam rwy’n awyddus i ddod â busnesau ynghyd yma heddiw i weld pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant yng Nghymru ac, o ganlyniad, sicrhau gwlad fwy ffyniannus.

Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd gymryd y cyfle i geisio barn aelodau’r Bwrdd ar yr ymrwymiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pecyn datganoli yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn gyfle i’r Ysgrifennydd Gwladol glywed amrywiaeth eang o safbwyntiau o bob cwr o’r gymuned fusnes er mwyn i’r Llywodraeth gael gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n bwysig i fusnesau yng Nghymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2015