Cymru yn Cofio
Ysgrifennydd Cymru yn talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog ar Sul y Cofio
Ddydd Sul (8 Tachwedd 2015), bydd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cofio cyfraniad Lluoedd Arfog Prydain, yn y gorffennol a heddiw, mewn gwasanaeth Cofio yng Nghaerdydd.
Bydd Mr Crabb yn cofio’n anrhydeddus am y rheini a fu farw mewn rhyfeloedd drwy osod torch wrth Gofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays.
Yn gynharach yr wythnos hon (4 Tachwedd), bu Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, mewn gwasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd, gan blannu croes bren gyda theyrnged bersonol arni i’r rheini sydd wedi rhoi eu bywydau.
Yn ei neges Dydd y Cofio, dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ar adeg o gofio, talwn deyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid a’n democratiaeth. Bydd pobl Cymru yn cofio’n anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.
Byddwn hefyd yn myfyrio ynghylch y rhyfeloedd sy’n digwydd ar hyn o bryd ar draws y byd, a’r aberthau dyddiol gan y rheini sy’n parhau i amddiffyn ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw. Mae ein dyled yn fawr i bob un ohonynt, am fod yn ddewr, yn wrol ac yn anhunanol wrth wasanaethu fel rhan o’u dyletswyddau gartref a thramor.
Wrth feddwl yn ôl am y gwasanaeth ar y Maes Coffa, dywedodd Alun Cairns:
Roedd gweld y môr o deyrngedau teimladwy i gofio’n anrhydeddus am ddynion a menywod ein lluoedd arfog yn brofiad a oedd yn gwneud i rywun feddwl o ddifrif am yr hyn sydd wir yn cyfrif. Roedd yn anrhydedd ac yn fraint cael cyfle i dalu fy nheyrnged bersonol fy hun, a chofio am y rheini a fu’n ymladd - ac sy’n dal i ymladd - gan wasanaethu ein cenedl ar draws y byd.