“Mae’n rhaid i’r DU fanteisio ar gyfleoedd y gadwyn gyflenwi niwclear”
[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2013/03/Secretary-of-State-at-Hitachi.jpg) Dylai cwmniau’r DU fanteisio ar bob cyfle i chwarae’…
Dylai cwmniau’r DU fanteisio ar bob cyfle i chwarae’u rhan yn y gwaith o adeiladu gorsaf niwclear newydd ar Ynys Mon, meddai Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn dilyn ei ymweliad a dau safle niwclear pwysig yn Japan.
Ar ddiwrnod cyntaf ei daith fasnach a buddsoddi 10 diwrnod i Asia (14 Mawrth), cyfarfu Mr Jones a llywydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi i glywed sut mae’r cynlluniau i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd yn y DU yn mynd rhagddynt, a chafodd daith o gwmpas safle cynhyrchu niwclear Hitachi Works.
Ddydd Gwener (15 Mawrth), ymwelodd Mr Jones ag atomfa Ohma sydd wrthi’n cael ei hadeiladu. Ynghyd a swyddogion o Hitachi, yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru, cyfarfu Mr Jones a’r perchnogion a’r gweithredwyr, J-Power. Cafodd ei hebrwng ganddynt ar daith o gwmpas y safle lle gwelodd a’i lygad ei hun y gwaith adeiladu ar adweithydd dŵr berwedig uwch.
Manteisiodd Mr Jones ar y cyfle i drafod y cyfoeth o gyfleoedd a fyddai ar gael yn y gadwyn gyflenwi i gwmniau yn y DU yn ystod cyfnod adeiladu’r adweithyddion niwclear arfaethedig. Mae Hitachi eisoes wedi dweud y mae’n disgwyl y bydd 60% o’r gadwyn gyflenwi a fydd yn gysylltiedig ag adeiladu’r gorsafoedd niwclear yn gwmniau o’r DU.
Mae Hitachi hefyd wedi llofnodi cytundebau cadwyn gyflenwi gyda Rolls-Royce a Babcock International, cwmniau peirianneg yn y DU. Mae hefyd wedi addo sefydlu cyfleuster cydosod modiwlau yn y DU. Ymwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol a chyfleuster saernio Hitachi ar y safle a thrafod sut gall y Llywodraeth helpu’r cwmni i ddatblygu cyfleuster tebyg yn y DU.
Yn dilyn yr ymweliadau, dywedodd Mr Jones:
“Roeddwn wrth fy modd i gael y cyfle i dderbyn y gwahoddiad i gwrdd a swyddogion gweithredol Hitachi ac i glywed sut mae’r cynlluniau i adeiladu’r adweithyddion niwclear yn y DU yn dod yn eu blaenau”.
“Mae buddsoddiad Hitachi yn Horizon, a’i uchelgais i weld dros 60% o’r gwaith adeiladu ar ei adweithyddion yn cael ei wneud gan gwmniau o’r DU, yn eithriadol o bwysig i’r economiau lleol a chenedlaethol.
“Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, rwyf wedi dod i ddeall yn iawn sut mae cadwyn gyflenwi fyd-eang Hitachi yn gweithio, ac rwyf eisiau sicrhau y bydd cwmniau’r DU yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn, a’i ddefnyddio fel ffordd o gael mynd at farchnadoedd rhyngwladol eraill.”
Dywedodd Llywydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi:
“Roedd yn anrhydedd cael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw i waith Rinkai, ac i ddangos iddo’n uniongyrchol y prosesau gweithgynhyrchu sgilgar iawn yr ydym mor falch ohonynt.”
Yn ystod yr ymweliad a Dinas Hitachi, manteisiodd y parti hefyd ar y cyfle i drafod contract y Rhaglen Intercity Express (IEP) gwerth £4.9 biliwn gydag Agility Trains, consortiwm sy’n cael ei arwain gan Hitachi, i adeiladu bron i 600 o gerbydau tren intercity newydd ar gyfer Prif Reilffyrdd y Great Western a’r East Coast. Bydd y trenau’n cael eu hadeiladu yn ei gyfleuster gweithgynhyrchu Ewropeaidd newydd ym Mharc Amazon yn Newton Aycliffe, County Durham.
Mae’r buddsoddiad mewn trenau IEP modern o safon uchel gyda mwy o gapasiti yn ymestyn y rhaglen barhaus o welliannau i’r rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a Rheilffyrdd Cymoedd Caerdydd. Bydd Depo Gwasanaethu yn cael ei adeiladu hefyd ar safle Maliphant Abertawe, nid nepell o Orsaf Abertawe, gyda’r gwaith adeiladu i fod i gychwyn yn 2015.
Ychwanegodd Mr Jones:
“Mae buddsoddiad parhaus Hitachi yma yn atgyfnerthu’r hyder sydd ganddynt yn y DU, o safbwynt y gweithlu ac o ran tir a lleoliad.
“Ym mis Ionawr eleni, cefais gyfle i ymweld a safle Parc Amazon yn County Durham a chefais glywed o lygad y ffynnon beth fydd buddsoddiad Hitachi yn y DU yn ei olygu i ddyfodol y rheilffyrdd yn y wlad.
“Bydd yr ymrwymiad i adeiladu Depo Gwasanaethu yn Abertawe hefyd yn creu swyddi y mae mawr angen amdanynt ac yn denu cyfleoedd busnes i Dde Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld y prosiectau’n datblygu.”
Gyda Mr Jones ar ei ymweliad oedd swyddogion o’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru.
NODIADAU I OLYGYDDION
- Ym mis Hydref y llynedd, llofnododd Hitachi gytundeb i brynu Horizon Nuclear Power, sydd a’r hawliau i adeiladu adweithyddion yn Wylfa, ar Ynys Mon, gogledd Cymru, ac Oldbury yn Swydd Gaerloyw.
- Disgwylir y bydd hyd at 6,000 o swyddi’n cael eu creu yn ystod y gwaith adeiladu ar bob safle, gyda 1,000 arall o swyddi parhaol yn y ddau leoliad unwaith y byddant yn weithredol.
- Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn mynd ar ymweliad masnach a buddsoddiad 10 diwrnod i Asia, gan ymweld a Japan, y Pilipinas, Fietnam a Hong Kong.
- Ar ran y Prif Weinidog, bydd ei ymrwymiadau’n cefnogi’r ymgyrch ‘GREAT’ Britain, yn hyrwyddo’r DU fel gwlad sy’n ‘agored i fusnes’, yn meithrin partneriaethau buddsoddi strategol, yn enwedig yn y marchnadoedd sy’n datblygu ac yn annog myfyrwyr o Asia i astudio yn y DU.
- I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a thim cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 020 7270 1362.