Cynnydd yn nifer y bobl sy’n mentro yng Nghymru gan roi'r gorau i ddibynnu ar fudd-daliadau
Mwy na 4,300 o fusnesau newydd wedi cael eu cychwyn gyda cymorth Lwfans Menter Newydd y Llywodraeth
Mae mwy na 4,300 o fusnesau newydd wedi cael eu cychwyn entrepreneuriaid sy’n chwilio am waith yng Nghymru yn ôl ystadegau swyddogol newydd a ryddhawyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae’r ffigurau’n datgelu bod 4,320 o fusnesau newydd yng Nghymru wedi cael eu creu drwy ddefnyddio Lwfans Menter Newydd y Llywodraeth, ers i hwnnw gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2011.
Yng Nghymru, dyma’r pum awdurdod lleol lle crëwyd y nifer fwyaf o fusnesau newydd:
- Caerdydd 580
- Abertawe 440
- Sir Gaerfyrddin 380
- Caerffili 280
- Castell-nedd Port Talbot 250
Mae 76,960 o fusnesau newydd wedi cael eu sefydlu ar hyd a lled Prydain o dan y cynllun hwn, sy’n rhoi cyllid i ddechrau arni a mentor busnes i hawlwyr budd-daliadau sydd â syniad busnes cadarn.
Mae’r Lwfans yn helpu pobl sy’n chwilio am waith, rhieni sengl a phobl ar fudd-daliadau salwch sydd â syniad da i sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae pobl sydd ar y cynllun yn cael cymorth arbenigol a chyngor gan fentor busnes a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu syniad busnes a llunio cynllun busnes. Os caiff y cynllun busnes ei gymeradwyo, maent yn gymwys i gael cymorth ariannol sy’n daladwy drwy lwfans wythnosol am 26 wythnos hyd at gyfanswm o £1,274.
Dywedodd Priti Patel, y Gweinidog dros Gyflogaeth:
Rydym eisiau i bawb ymhob rhan o Brydain, gan gynnwys Cymru, elwa ar y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan ein heconomi sy’n tyfu.
Mae’n rhaid cael arian i ddechrau busnes, yn ogystal â chymorth a chyngor, a dyna’n union rydym yn ei gynnig drwy’r cynllun Lwfans Menter Newydd.
Mae’r cynllun hwn yn helpu hawlwyr budd-daliadau sydd â syniad busnes da i fod yn fos arnynt eu hunain er mwyn iddynt allu eu cefnogi eu hunain a’u teuluoedd, a gweddnewid eu bywydau.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
O berchnogion siopau hen bethau i entrepreneuriaid gyda chaffis ar yr arfordir, mae miloedd o bobl yng Nghymru bellach yn gwireddu eu breuddwyd o fod yn fos arnynt eu hunain, gyda chymorth Lwfans Menter Newydd.
Mae’r Llywodraeth hon yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar gyflogwyr y dyfodol i droi eu cefn ar fywyd ar fudd-daliadau a throi eu huchelgais yn realiti.
Maent yn helpu i lywio adferiad economaidd Cymru yn y cyfeiriad iawn, gan greu rhagor o swyddi i’n gwlad a mwy o sicrwydd i deuluoedd Cymru.