Rhybudd o honiadau ffug
Byddwch yn ymwybodol o honiadau ffug am derfynau amser i apelio yn erbyn rhestrau 2023 ar gyfer ardrethi busnes.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn ymwybodol o honiadau ffug mewn perthynas â dyddiadau cau i apelio y rhestrau ardrethu am 2023.
Nid yw’r rhain yn wir. Dylech fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gwneud yr honiadau hyn.
Yn gyffredinol mae’n bosibl ichwi herio prisiad eich eiddo ar restr 2023 ar unrhyw adeg hyd at Mawrth 2026. Mae unrhyw honiad am ddyddiad cyn hyn, er enghraifft diwedd Mehefin neu Awst eleni, yn anwiredd.
Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sydd:
- yn ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu lofnodi cytundeb
- gwneud honiadau am ‘gredydau heb eu hawlio’ neu debyg
- yn dweud eu bod yn gweithredu ar ran y VOA
- yn mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw
Cofiwch – nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes.
Os ydych am i asiant reoli eich ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio i ddewis asiant. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.
Mae gennym hefyd ganllawiau newydd ar gadw’n ddiogel rhag sgamwyr.
Mae safonau asiant y VOA yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantwyr o ran:
- eu hymddygiad
- eu hymarfer proffesiynol
- y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i’w cwsmeriaid
Mae mwyafrif helaeth yr asiantwyr ag enw da ac yn darparu gwasanaeth da. Ond mae lleiafrif bach yn gweithredu’n amhriodol.
Rydym yn casglu tystiolaeth o ymddygiad ac arferion gwael asiantwyr yn ystod ein gwaith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i fynd i’r afael yn rhagweithiol â materion neu bryderon.
Os ydych yn pryderu am gamliwio posibl gan asiantwyr, anfonwch unrhyw dystiolaeth i [email protected].
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 17 Mehefin 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Gorffennaf 2024 + show all updates
-
The content has been updated.
-
Welsh translation added.
-
First published.