Mae angen UE wedi’i ddiwygio ar fusnesau Cymru, medd yr Ysgrifennydd Gwladol
Dywedodd Stephen Crabb: “Rwyf yng Ngogledd Cymru yn cwrdd ag allforwyr mawr gyda’r neges y bydd Ewrop wedi’i ddiwygio yn beth da i fusnesau Cymru.”
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y gogledd heddiw (20fed Mai) – yn ystod Wythnos Allforio’r DU – i gael gweld â’i lygaid ei hun sut mae busnesau’n sicrhau twf economaidd drwy arloesi ac allforio.
Dywedodd Stephen Crabb:
Yn ystod yr wythnos pan fyddwn ni’n nodi llwyddiant y DU fel allforiwr, rwy’n gweld sut mae busnesau Cymru yn chwarae eu rhan. Mae cwmnïau fel JCB a Fibrax yn allforio nwyddau o’r radd flaenaf sy’n cael eu gwneud yma yng Ngogledd Cymru i bedwar ban byd.
Yn ddiau mae busnesau Cymru, yn enwedig allforwyr mawr, yn elwa oherwydd ein bod yn rhan o farchnad sengl Ewrop, ond mae’r berthynas wedi dod yn un ddrud a beichus.
Rydyn ni’n glir bod angen i ni ddiwygio ein perthynas gyda’r UE i ryddhau busnesau a bod yn fwy cynhyrchiol.
Mae gan Ogledd Cymru ran allweddol i’w chwarae yn y Pwerdy Gogleddol sy’n cael ei ddatblygu. Os ydych chi’n edrych ar Toyota, ConvaTec neu’r cwmnïau rwyf wedi’u gweld heddiw, mae’n amlwg bod buddsoddi yng Ngogledd Cymru yn rhoi llwyfan gwych i gwmnïau sydd â dyheadau rhyngwladol dyfu.
Bydd Stephen Crabb yn ymweld â Fibrax, cwmni yn Wrecsam, sy’n un o’r prif gyflenwyr o ddarnau rwber ar gyfer y diwydiant ceir.
Mae’r cwmni wedi bod yng Ngogledd Cymru ers y 1970au ac mae ganddo ail safle yng Ngwlad Pwyl gyda mentrau ar y cyd a phartneriaethau ym Moroco, Twrci, UDA, Mecsico a Tsieina. Ewrop ydy ei un farchnad fwyaf gydag 85% o gynnyrch Fibrax yn mynd i gerbydau sy’n cael eu gwneud yn Ewrop.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedyn yn mynd ymlaen i weld y llinell gynhyrchu yn JCB Transmissions, hefyd yn Wrecsam. Bydd yn cael gweld y llinellau cynhyrchu ar gyfer echelau a blychau gêr yn ogystal â chwrdd â staff a phrentisiaid.
Mae JCB wedi bod yn Wrecsam ers 1978 ac mae’n cyflogi tua 430 o bobl. Mae JCB yn allforio tri chwarter y peiriannau mae’n eu cynhyrchu yn y DU, sy’n werth £1.35 biliwn i economi’r DU.